Vaughan Gething: Diolch am y cwestiynau. Rwy'n credu eu bod mewn tri neu bedwar categori eang. O ran ynni'r llanw, ydym, rydym yn credu bod gan Gymru gyfle gwirioneddol o hyd i fod ar flaen y gad o ran sector sy'n datblygu. Mae'n destun gofid a ddeellir yn dda o safbwynt y Llywodraeth hon nad yw morlyn Abertawe wedi cael cefnogaeth o'r blaen, gan gynnwys yn dilyn adolygiad gan gyn-Weinidog ynni Ceidwadol, a'i...
Vaughan Gething: Diolch i'r Aelod am ei gyfres o gwestiynau. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ateb y pwyntiau mor gryno ag y gallaf. Byddaf yn dechrau gyda'r pwynt o wahaniaeth a'r strategaeth arloesi. Byddwn yn ymgynghori ar hynny, gobeithio cyn bo hir, felly byddwch chi'n gweld y strategaeth ddrafft, a bydd angen i ni wedyn ystyried y sylwadau a wnaed cyn i ni nodi'r math o ddewisiadau cyllid y bydd angen i ni...
Vaughan Gething: I roi'r holl weithgarwch hyn mewn persbectif, rydym ar hyn o bryd yn cynhyrchu 726 MW o wynt ar y môr yng Nghymru. Mae gennym hefyd lif prosiect credadwy i gynhyrchu dros 2.8 GW o wynt ar y môr o gymysgedd o dechnolegau erbyn 2030. Os byddwn yn ymestyn y llinell amser i 2035, yna gallai'r llif prosiectau gynyddu i 6.8 GW. Nid yw hyn yn cynnwys y 5 GW o ddatblygiadau gwynt ar y môr y mae...
Vaughan Gething: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gweithgarwch ar hyn o bryd yn y sector morol alltraeth sy'n datblygu yng Nghymru ac amlinellu uchelgais Llywodraeth Cymru o ran sicrhau manteision economaidd gwirioneddol o'r sector newydd a chyffrous hwn. Fe fyddaf i'n canolbwyntio heddiw ar effaith bosibl y sector ar...
Vaughan Gething: Nid trafodaethau ar yr elfen addysg yn unig a gefais ond trafodaethau ymarferol, er enghraifft, gyda Julie James, y Gweinidog tai, am effaith cymdeithasau tai fel gweithredwyr economaidd pwysig mewn ardaloedd lleol, yn ogystal â'r ymgysylltiad uniongyrchol a gaf ag eraill. O gofio bod Jane Hutt wrth fy ymyl, dylwn sôn, wrth gwrs, am ei diddordeb parhaus yn y trydydd sector, a'i chefnogaeth...
Vaughan Gething: Mae cynorthwyo a datblygu mentrau cymdeithasol a'r economi gymdeithasol ledled Cymru i ddatblygu a thyfu yn allweddol i gyfrannu at greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth penodol i'r sector ac yn darparu arian cyfatebol tuag at wasanaeth busnes cymdeithasol Cymru.
Vaughan Gething: Wel, nid wyf yn derbyn bod canolbarth Cymru wedi'i hesgeuluso. Mewn gwirionedd, mae'r fframwaith economaidd rhanbarthol a ddatblygwyd gan y ddau awdurdod lleol ac a gymeradwywyd nid yn unig gan y Llywodraeth yn waith sydd wedi'i arwain gan awdurdodau lleol a'r partneriaid hynny sy'n deall eu cymunedau lleol. Wrth gwrs, mae hwnnw'n ategu bargen twf canolbarth Cymru y mae Llywodraeth y DU a...
Vaughan Gething: Ar 2 Mawrth, amlinellais ymagwedd y Llywodraeth hon at ardaloedd menter yng Nghymru. Er nad oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gyflwyno ardal yng nghefn gwlad canolbarth Cymru, mae ein hymrwymiad i ddatblygu economaidd sy'n seiliedig ar leoedd wedi'i nodi'n glir yn y fframwaith economaidd rhanbarthol ar gyfer canolbarth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr.
Vaughan Gething: Diolch. Bydd Banc Datblygu Cymru yn parhau i sicrhau bod cyfalaf ar gael i fusnesau a microfusnesau newydd, fel y mae'r Aelod wedi nodi. Efallai ei fod hefyd yn ymwybodol ein bod wedi darparu arian penodol i helpu busnesau newydd mewn amrywiaeth o sectorau, nid yn unig yng nghanol trefi ond mewn amrywiaeth o sectorau eraill hefyd. Rydym wedi ymrwymo i barhau i wneud hynny. O ran her ehangach...
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi gwerth £136 miliwn yn canolbwyntio ar arallgyfeirio a thwf cynaliadwy yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd. Mae nifer o'r ymyriadau'n cynnwys ailddefnyddio adeiladau adfeiliedig a gwag—clywsom rywfaint am hynny mewn cwestiynau blaenorol ynghylch Casnewydd—gan gynyddu amrywiaeth a mynediad at gyfleusterau hamdden, gwasanaethau a...
Vaughan Gething: Fel y gŵyr yr Aelod, roedd y mater hwn yn rhan o'n maniffesto y pleidleisiodd pobl Cymru arno gwta flwyddyn yn ôl. Mae hefyd yn rhan o'r cytundeb cydweithio sydd gennym gyda Phlaid Cymru, a Cefin Campbell, yn wir, yw'r Aelod arweiniol dynodedig ar hyn. Rydym yn manteisio ar brofiad rhyngwladol yn ogystal ag ymgysylltu â'r diwydiant twristiaeth lleol, academyddion ac arbenigwyr i gefnogi...
Vaughan Gething: Rydym yn ymgysylltu ag ystod eang o bartneriaid i ddeall effaith ardoll dwristiaeth, gan gynnwys tendro am waith ymchwil economaidd annibynnol. Bydd awdurdodau lleol unigol yn cael pŵer i benderfynu a fyddant yn codi ardoll yn eu hardaloedd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r cynnig y mae'r Aelod yn ymwybodol ohono, ac y mae, yn wir, wedi gofyn cwestiynau blaenorol yn ei gylch.
Vaughan Gething: Wel, fel y dywedais wrth ymateb i'r Aelod, ac fel y nododd yr Aelod yn ei gwestiwn atodol, rwy'n credu bod hwn yn ddatblygiad llwyddiannus. Mae rhywfaint o dir heb ei ddatblygu o hyd yn SA1 sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, ac rydym yn ceisio sicrhau bod hwnnw'n cael ei ddatblygu a'i gwblhau'n llawn, mewn partneriaeth â'r cyngor, fel y dywedaf—rydym yn ceisio datrys rhai o'r...
Vaughan Gething: Ie, mae'r Aelod yn iawn, rwy'n credu—mae hon yn enghraifft dda o ddatblygiad cymysg llwyddiannus, gydag amrywiaeth o ddefnyddiau a chanlyniad cadarnhaol iawn i Abertawe a'r ardal ehangach. Mae'n iawn—mae swyddi da'n cael eu creu ar y safle hwn, a bydd pobl o ardal ychydig yn ehangach yn teithio yno ac oddi yno. Felly, credaf ei fod yn enghraifft dda o sut y byddem eisiau gweld...
Vaughan Gething: Gwnaf. Mae dros 60 y cant o'r datblygiad SA1 bellach wedi'i ddatblygu, ac mae 90 y cant o'r tir datblygu sy'n weddill wedi'i werthu. Mae'r holl seilwaith cyhoeddus mawr wedi'i osod, ac mae trafodaethau ar y gweill gyda dwy gymdeithas dai leol ar gyfer datblygiadau preswyl pellach, ac mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn parhau â'i champws newydd yng nghanol y ddinas gyda datblygiad...
Vaughan Gething: Mewn gwirionedd, fel y nodais mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth, mae diddordeb sylweddol eisoes wedi bod yn y safle, gyda'r dwsinau o ymholiadau sydd wedi'u gwneud am y safle. Ac fel y dywedaf, y gwir bwynt yw pan ddown at y bobl hynny nad ydynt yn gwneud ymholiadau tybiannol ond sydd o ddifrif ac yn barod i gyflwyno ceisiadau priodol am yr hyn y gallai'r safle fod yn y dyfodol, byddwn yn cadw...
Vaughan Gething: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn a gwn fod ganddo ddiddordeb gwirioneddol yn nyfodol y safle. Mae'n safle cyflogaeth sylweddol mewn gwirionedd, nid yn unig i Ynys Môn ond i'r rhanbarth ehangach hefyd. Y sefyllfa yw nad oes gennym reolaeth dros y safle, ond rydym eisiau ceisio dylanwadu gymaint ag y gallwn i sicrhau bod y potensial economaidd hwnnw, gyda chyflogaeth mewn niferoedd gweddus ac ar...
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Mae fy swyddogion, ynghyd â swyddogion o'r awdurdod lleol a'r Adran Gwaith a Phensiynau, yn gweithio gyda'r gweinyddwyr enwebedig i sicrhau, cyn belled ag y bo modd, ein bod yn gallu diogelu buddiannau pawb, gan gynnwys, wrth gwrs, y rhagolygon cyflogaeth ar gyfer y safle yn y dyfodol.
Vaughan Gething: Fel y gŵyr Aelodau ar draws y pleidiau, mae hwn wedi bod yn destun trafodaeth a llawer o sylwadau dros gyfnod o flynyddoedd a mwy nag un Senedd. Rwy'n croesawu diddordeb yr Aelod yn y mater. Fel y mae wedi'i nodi, Llywodraeth y DU sy'n berchen arno ar hyn o bryd a chaiff ei reoli gan National Highways. Disgwyliwn i achos busnes cadarn gael ei gyflwyno ar gyfer arian y loteri ac fe'i...
Vaughan Gething: Gallaf, mae'n gwestiwn penodol, a byddaf yn fwy na pharod i weithio gyda swyddfa'r Aelod i sicrhau bod fy swyddogion yn gwneud hynny. O ystyried ei bod wedi gofyn y cwestiwn, byddwn yn rhoi gwybod iddi am ddatblygiadau sy'n digwydd pan fydd cyfarfod wedi'i drefnu. Ond fel y dywedais, byddaf yn fwy na pharod i sicrhau bod y trefniadau hynny'n digwydd.