Andrew RT Davies: —gydag ad-drefnu'r ffatri a brechlyn Pfizer. Ond os caf eich holi hefyd ynglŷn â thystiolaeth a ymddangosodd ym mhapurau'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau mewn perthynas â’n cymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a'r gwaith y mae SAGE wedi'i wneud ar ganfyddiad y cymunedau hynny o’r rhaglen frechlyn, roedd y gwaith a wnaethant yn nodi bod canran uchel—72 y...
Andrew RT Davies: Diolch, Lywydd. Weinidog, yn gynharach yr wythnos hon, cafwyd adroddiadau y bu’n rhaid gwrthod 26,000 dos o frechlyn AstraZeneca ar y cam profi. Roedd y dosau hyn wedi’u dynodi ar gyfer Cymru. A allwch roi diweddariad i'r Cyfarfod Llawn ynghylch eich dealltwriaeth o'r rheswm pam y cawsant eu gwrthod, a sut y gallai hynny effeithio ar y cyflenwad yng Nghymru?
Andrew RT Davies: Diolch, Gweinidog, am gynnig y rheoliadau y prynhawn yma. Byddwn yn cefnogi'r rheoliadau hyn. Yn amlwg, rydym ni wedi cael gwybodaeth ychwanegol wrth i'r wythnos diwethaf fynd rhagddi am fathau newydd eraill o amrywiolion y feirws o Frasil a De America. Yr wythnos diwethaf, gofynnais y cwestiwn penodol ichi ynghylch a oedd gennych chi unrhyw bryderon am wledydd eraill ac a fyddai'n rhaid...
Andrew RT Davies: [Anghlywadwy.]—am yr ateb, a hefyd am rai o'r sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud eisoes. Ond y gwir amdani yw ein bod ni, o ran y gyfran o'r boblogaeth, 40,000 o bobl ar ei hôl hi o'i gymharu â Lloegr. Mae hynny'n cyfateb i dref o faint Caerffili yn cael ei brechu'n llwyr. Mae'r niferoedd hyn yn cynyddu wrth i'r dyddiau a'r wythnosau fynd heibio, oherwydd, bythefnos yn ôl, y bwlch hwnnw...
Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau y mae'r cyfyngiadau symud cenedlaethol diweddaraf yn effeithio arnynt?
Andrew RT Davies: [Anghlywadwy.]—Rhoddaf sylw iddyn nhw yn eu trefn. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio o blaid y rheoliadau fel y'u cyflwynwyd y prynhawn yma. O ran eitem 6 ar yr agenda, ac yn benodol o ran ceisio cael rhywfaint o wybodaeth gennych chi ynglŷn â sut y gallem ni gyrraedd sefyllfa lle gellid dechrau lliniaru'r cyfyngiadau hyn yn araf, a oes gennych chi wybodaeth y gallwch chi, yn...
Andrew RT Davies: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Fe hoffwn i ddiolch yn ddidwyll iawn ar goedd i bawb sy'n ymwneud â'r ymgyrch frechu, oherwydd mae'n rhaid bod hynny wedi golygu ymdrech enfawr, ac fe fydd hi'n parhau i fod yn enfawr ac yn anodd wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith. A gaf i ofyn cyfres o gwestiynau, os gwelwch chi'n dda, Gweinidog, ynglŷn â'r cynllun y gwnaethoch chi...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, mae'r rhaglen frechu yn rhaglen enfawr i'r Llywodraeth a phobl Cymru fynd i'r afael â hi, ac mae'n bwysig bod pobl yn cadw ffydd yn ei darpariaeth ym mhob rhan o Gymru. Pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i greu swydd o fewn y Llywodraeth i Weinidog brechu i helpu i sbarduno'r ymarfer logistaidd hwn ledled Cymru, i ddatrys unrhyw un o'r anawsterau a allai godi? Oherwydd rydym...
Andrew RT Davies: Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Mae gennyf rai cwestiynau i'w gofyn ynglŷn â brechlynnau, pwysau ar ysbytai, y cyflenwad o brofion mewn addysg, a'r amrywiolyn newydd. Gadawaf fy sylwadau ar y cyfyngiadau a osodwyd cyn y Nadolig tan yr adeg y byddwn yn cael ein dadl yn y Senedd ar ôl i ni ddychwelyd ar ôl toriad y Nadolig. Ar frechu, Weinidog, pam y mae Cymru ar ei hôl...
Andrew RT Davies: Naddo, ni chefais gais i wneud hynny.
Andrew RT Davies: Felly, mae'r llythyr yn dechrau drwy ddweud, Annwyl Brif Weinidog, Rydym yn ysgrifennu fel swyddogion gweithredol ac uwch gynrychiolwyr rygbi, criced, rasio ceffylau a phêl-droed—y chwaraeon stadiwm elît yng Nghymru. Mae chwaraeon yn rhan sylfaenol o fywyd Cymru. Mae'n rhoi ein cenedl ar y llwyfan byd-eang ac yn rhoi ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth i gymunedau ledled Cymru. Rydym yn...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Mae'n bleser cyflwyno'r gyntaf o'r dadleuon byr heno. Gallaf weld y Siambr yn llawn o gyrff sydd am wrando ar y ddadl wirioneddol bwysig hon, ac mae'n ddadl bwysig, a bod yn deg, oherwydd mae'n dibynnu ar y llythyr a anfonwyd gan wahanol gyrff llywodraethu a phobl sydd â diddordeb mewn gweld cefnogwyr yn dychwelyd at chwaraeon, yn amrywio o Gymdeithas Bêl-droed Cymru,...
Andrew RT Davies: Diolch am yr atebion hyd yn hyn, Weinidog. A allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am gyflwr y byrddau iechyd sydd heb atal llawdriniaethau dewisol hyd yma? Gwyddom fod dau yng Nghymru, byrddau iechyd Aneurin Bevan a Bae Abertawe, wedi canslo llawdriniaethau dewisol. Fe ddywedoch chi yn eich ateb blaenorol eich bod newydd ddod o gyfarfod am absenoldebau staff o fewn y GIG, felly a allech...
Andrew RT Davies: Diolch am eich ymateb i'r cwestiwn amserol hwn, Weinidog. Mae'n amlwg ei bod yn ofid mawr gweld cwmni logistaidd mor fawr yn rhoi'r gorau i fasnachu—170 o gerbydau, 150 o drelars cymalog a gweithgarwch warws sy'n rhychwantu naw safle ledled y Deyrnas Unedig. Ac yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gyda'r ansicrwydd, mae'n hanfodol nawr fod y cymorth rydych wedi'i nodi gan Lywodraeth...
Andrew RT Davies: Diolch i'r Gweinidog am gynnig y rheoliadau'r prynhawn yma. I'r rhai sy'n gwylio ein trafodion ni'r prynhawn yma, efallai y byddan nhw'n ei gweld hi'n rhyfedd braidd—ac mae hon yn ddadl a gawsom ni sawl gwaith yn y Siambr hon—ein bod ni'n pleidleisio i roi gorfodaeth, neu roi grym, i'r rheoliadau sydd wedi bodoli ers bron pythefnos erbyn hyn, ac a gaiff eu hadolygu ddydd Gwener, yn ôl yr...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, un o'r penderfyniadau mawr a wnaed yn yr wythnosau diwethaf yn amlwg yw newid y cyfyngiadau dros gyfnod y Nadolig gan bedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae'r sefyllfa yma yng Nghymru wedi symud ymlaen ers gwneud y penderfyniad hwnnw, ac rwy'n parchu'r sefyllfa y gwnaed y penderfyniad hwnnw ynddi gennych chi fel y Prif Weinidog. Beth ydych chi'n feddwl yw ymateb y cyhoedd i'r...
Andrew RT Davies: Yn ffurfiol.
Andrew RT Davies: Felly, nid oes neb, o unrhyw blaid wleidyddol, yn anghytuno ynglŷn â difrifoldeb yr hyn y mae'r wlad yn ei wynebu, ond mae'n gwbl resymol inni ddod i'r Siambr hon a thrafod dewisiadau amgen a chynnig dewisiadau amgen, oherwydd pan edrychwn ar yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i gyflwyno dro ar ôl tro i'r Siambr hon—a phe bawn yn mynd drwy reoliadau'r hydref yn ystod y 12 wythnos diwethaf a...
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu yn y ddadl hon? Credaf fod y nodyn gan y Dirprwy Lywydd, a gadeiriodd y cyfarfod, wedi dweud bod cyfanswm o 17 o gyfranogwyr yn y ddadl i gyd. Felly, ni allwn wneud cyfiawnder â phawb a gymerodd ran, ond diolch i chi i gyd, a chredaf y dylai'r Llywodraeth nodi'r lefel honno o ryngweithio sydd wedi digwydd yma y...
Andrew RT Davies: Codaf i gefnogi'r hyn y mae'r ddeiseb yn ei ddweud, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr ymarfer gwersi a ddysgwyd wedi'i gwblhau a'i fod yn ystyried yr holl agweddau y mae trigolion, busnesau a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd ofnadwy hyn ym mis Chwefror 2020, a digwyddiadau llifogydd eraill a'i dilynodd, yn cael eu dysgu, oherwydd roedd maint y llifogydd yn wahanol i...