Sioned Williams: Er bod mwy o fenywod yn gweithio'n rhan-amser na dynion, mae ganddyn nhw lai o amser sy'n rhydd o waith. Maen nhw'n fwy tebygol o fod yn pwytho sawl swydd ran-amser at ei gilydd er mwyn cadw pen uwchben y dŵr. Ond maen nhw'n llawer mwy tebygol o fod â llai o amser rhydd o waith am eu bod nhw'n cyflawni rolau di-dâl. Pan ddaeth y gorchymyn i weithio gartref, roedden i'n rhan o dîm o...
Sioned Williams: Er eu bod wedi effeithio ar bob un ohonom, mae effeithiau'r pandemig wedi bod yn unrhyw beth ond cyfartal. Mae ymchwil yn tanlinellu hyn dro ar ôl tro. Clywn sôn am ddysgu gwersi caled y pandemig, am adeiladu'n ôl yn well, am fanteisio ar y cyfle i newid a gynigir gan y persbectif newydd a orfodwyd arnom gan argyfwng. Mae mabwysiadu ffordd newydd o weithio, wrth gwrs, yn un cyfle o'r fath....
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, dyw hwnna ddim yn mynd i fynd i'r afael â'r problemau a'r bylchau sydd ar gyfer y plant sydd ddim yn yr ysgol. Buaswn hefyd yn gwerthfawrogi mwy o wybodaeth gennych chi, efallai, mewn perthynas â her arall yn y maes hwn. Mewn ffordd, gwnaeth eich ateb diwethaf chi amlinellu hynny, achos mae cyrchu gwybodaeth yn dal i fod yn rhwystr sylweddol i lawer o rieni. Fel...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Er bod camau i ariannu gofal plant ar gyfer mwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant yn gam i'w groesawu—a gwnaethoch chi gyfeirio ato fe fanna—allwch chi efallai ddarparu unrhyw wybodaeth bellach am natur y cyllid ychwanegol hwn a sut mae ystyriaeth o anghydraddoldebau yn llywio'r cynlluniau penodol yma?
Sioned Williams: Diolch, Lywydd. Weinidog, ychydig o ymrwymiadau newydd sydd i'w gweld yn y rhaglen lywodraethu mewn perthynas â mater gofal plant. Er bod y buddsoddiad parhaus yn Dechrau'n Deg ac ehangu'r cynnig cyfredol i'r rheini mewn addysg a hyfforddiant yn bethau i'w croesawu, ni fydd hyn yn gwneud llawer i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r rheini â phlant iau sy'n byw ar incwm isel neu sydd...
Sioned Williams: Un ffordd y gall Llywodraeth Cymru liniaru effaith y credyd cynhwysol yw cynnal hyblygrwydd y gronfa cymorth dewisol, y DAF—y cynllun cymorth lles cenedlaethol sy'n darparu grant arian bach ar gyfer costau byw hanfodol, a chefnogaeth i ganiatáu i rywun fyw'n annibynnol. Fe newidiwyd y cynllun ar ddechrau'r pandemig i ganiatáu i fwy o bobl hawlio cymorth ariannol os oeddent yn wynebu...
Sioned Williams: Dyletswydd y Senedd hon a'r Llywodraeth hon, fel y dywedais ar y dechrau, yw gwasanaethu buddiannau pobl Cymru yn y ffordd orau. Bydd diwedd y cynnydd mewn credyd cynhwysol yn drychinebus i bobl ledled y Deyrnas Unedig, ond bydd teuluoedd yng Nghymru yn cael eu taro'n galetach, ac effeithir ar gyfran sylweddol uwch o deuluoedd â phlant yng Nghymru na rhai ardaloedd eraill. Mae ymgyrchwyr...
Sioned Williams: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o'r cyfle i agor y ddadl bwysig hon ar ran Plaid Cymru, a hoffwn ofyn i fy nghyd Aelodau ddwys ystyried pleidleisio o blaid ein cynnig y prynhawn yma Wrth ymateb i gwestiwn Adam Price yma ddoe, fe glywon ni'r Prif Weinidog yn siarad am hawl pobl Cymru i gael eu trin mewn modd sy'n deg ac yn dosturiol. Rŷn ni sy'n eistedd yn y Senedd yn anghytuno ar lawer...
Sioned Williams: Mae pris glo wedi bod yn rhy uchel yng Nghymru. Rhaid inni sicrhau bod popeth yn cael ei wneud fel nad oes rhagor o deuluoedd fel rhai glowyr y Gleision yn talu'r pris ofnadwy ac annerbyniol hwn. Cofiwn amdanynt heddiw.
Sioned Williams: Diolch, Llywydd. Mae cymuned cwm Tawe—y gymuned lle dwi'n byw a'r gymuned dwi'n ei chynrychioli—a Chymru gyfan yn cofio heddiw am drychineb pwll glo'r Gleision, a hithau'n 10 mlynedd yn union ers y drychineb. Ar 15 Medi 2011, lladdwyd pedwar glöwr lleol, sef Charles Breslin, David Powell, Phillip Hill a Garry Jenkins, ym mhwll y Gleision yng Nghilybebyll ger Pontardawe, pan lifodd dŵr...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Rwyf innau, fel Natasha Asghar, yn dymuno codi mater dwyn anifeiliaid anwes gyda'r Gweinidog, ac yn enwedig dwyn cŵn, gan inni weld cynnydd sydyn yn y galw am gŵn bach yn ystod y pandemig, sydd wedi'i gysylltu â'r cynnydd diweddar mewn achosion o ddwyn cŵn, wrth i gŵn, yn anffodus, ddod yn darged mwyfwy proffidiol i ladron. Yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru,...
Sioned Williams: 5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith dwyn anifeiliaid anwes ar les anifeiliaid yng Nghymru? OQ56815
Sioned Williams: Mae symudiad cynyddol ac amlwg o blaid ehangu prydau ysgol am ddim yng Nghymru. Cyfarfûm â chynrychiolwyr y gynghrair gwrthdlodi yr wythnos diwethaf. Gwnaeth y rhwystredigaeth ynglŷn â'r lefelau cynyddol o dlodi plant a'r penderfyniad i weld y staen hon ar ein cymdeithas yn cael sylw argraff ddofn iawn arnaf. Daw'r gefnogaeth eang ac angerddol hon i ehangu'r ddarpariaeth prydau ysgol am...
Sioned Williams: Diolch, Llywydd. Mae effaith ddigynsail COVID wedi codi drych ar ein cymdeithas. Yr hyn a welwn yn yr adlewyrchiad yw nid yn unig effaith y misoedd anodd diwethaf ar bawb, ond hefyd y gwahaniaeth yn yr effaith ar wahanol rannau o'n cymdeithas—y gwahaniaeth sy’n deillio o anghydraddoldeb economaidd. A dyw’r darlun a welwn ddim yn un newydd chwaith. Mae’n drasig o gyfarwydd, yn...
Sioned Williams: Brif Weinidog, mae gallu menywod beichiog i gael eu partneriaid yn bresennol yn ystod sganiau ac asesiadau beichiogrwydd, ac yn ystod yr enedigaeth, yn rhywbeth sydd wedi'i godi drwy gydol y pandemig. Mae wedi bod yn gyfnod arbennig o anodd i lawer o fenywod a fyddai fel arfer wedi cael cefnogaeth eu partner neu berson penodol i'w cefnogi ar adeg heriol ac emosiynol iawn. Deallaf fod...
Sioned Williams: Diolch am yr ateb.
Sioned Williams: Mae tair blynedd wedi bod ers i Lywodraeth y DU droi ei chefn ar Gymru unwaith eto drwy wrthod buddsoddi ym morlyn llanw bae Abertawe, ac mae dwy flynedd ers i ddinas-ranbarth bae Abertawe gyflwyno gweledigaeth ddiwygiedig, prosiect Ynys Ynni'r Ddraig, i Lywodraeth Cymru. Er bod yr adroddiad hwnnw wedi awgrymu y gallai'r gwaith adeiladu ddechrau ar y morlyn erbyn mis Gorffennaf 2021, mae'r...
Sioned Williams: 6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r cyfraniad y byddai morlyn llanw bae Abertawe yn ei wneud tuag at gyrraedd targedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru? OQ56774
Sioned Williams: —y tu hwnt i'r byd addysg. Beth yw'r cynlluniau, felly, o ran cefnogi'r rhain fel rhan o'r rhaglen waith? Diolch.
Sioned Williams: Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod cwm Tawe yn ei etholaeth ei hun yn ardal ieithyddol arwyddocaol, am ei bod yn cynnwys y nifer a'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac ymysg yr uchaf yng Nghymru gyfan. Mewn perthynas â'r amcanion sydd wedi eu hamlinellu ganddo heddiw o ran datblygu addysg Gymraeg, gwarchod a thyfu'r Gymraeg fel iaith gymunedol, a sicrhau a...