Canlyniadau 341–360 o 800 ar gyfer speaker:Gareth Bennett

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (18 Med 2018)

Gareth Bennett: Y broblem sydd gennych chi, Prif Weinidog, unwaith eto, yw eich bod chi wedi colli cysylltiad yn llwyr â'ch pobl eich hun. [Torri ar draws.] Cynhaliodd Sky News arolwg diweddar a ddangosodd bod 60 y cant o bobl Prydain yn cefnogi gwaharddiad ar y burka. Felly, gadewch i ni grynhoi eich safbwynt yn y fan yma: rydych chi wedi dweud yn gyhoeddus bod fy sylwadau i ar hyn yn hiliol, ac eto mae'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (18 Med 2018)

Gareth Bennett: Mewn gwirionedd, gofynnais gwestiwn i chi. Ni wnes i unrhyw haeriad, ond diolchaf i chi am eich—[Torri ar draws.] Diolchaf i chi am eich myfyrdodau. Mae'n swnio o'ch ateb, Prif Weinidog, fel pe byddai hon yn mynd i fod yn brif flaenoriaeth i'n Llywodraeth, felly mae hynny'n ddiddorol iawn. Fel efallai y byddwch chi'n cofio, fi oedd yr unig aelod o bwyllgor cymunedau y Cynulliad a...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (18 Med 2018)

Gareth Bennett: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, sylwaf fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn datblygu ei bwriad i droi Cymru yn genedl o noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. A yw hon yn brif flaenoriaeth i'ch Llywodraeth?

10. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel (18 Gor 2018)

Gareth Bennett: Sut rydych chi'n esbonio'r ffaith felly fod gennym bellach gyflogau sy'n aros yn yr unfan a bod gennym lawer o bobl mewn gwaith amser llawn sy'n dioddef yn sgil cyflogau isel?

10. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel (18 Gor 2018)

Gareth Bennett: Felly, mae gennym broblemau gyda byd gwaith, sy'n dir peryglus heddiw. Nid yw llawer o swyddi heddiw yn ddim mwy na gwaith, ac ni ellir ei galw'n swydd gyda rhagolygon fel y gellid ei wneud 40 mlynedd yn ôl. Felly, rwy'n llwyr gymeradwyo argymhelliad 12 y pwyllgor, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyflogwyr yn y sectorau sylfaenol i dreialu grisiau swyddi o fewn cwmnïau i wella...

10. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel (18 Gor 2018)

Gareth Bennett: Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw, ac i'r bobl a gymerodd ran yn yr ymchwiliad. Ceir nifer o ffactorau ynghlwm wrth fod ar incwm isel, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig â sefyllfa cyflogaeth yr unigolyn. Un o'r datblygiadau sy'n peri pryder dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru, ac yn y DU yn gyffredinol, yw mai pobl mewn cyflogaeth amser llawn yw llawer...

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Llywodraeth Leol — Y camau nesaf (17 Gor 2018)

Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Mae'n ymddangos ein bod ni mewn sefyllfa eithaf od nawr gyda’r broses hir hon o ad-drefnu llywodraeth leol, ac rwy’n sylweddoli ei bod hi’n broses hir cyn ichi ddod i’r swydd, felly dydw i ddim yn lladd ar eich ymdrechion hyd yma—o leiaf ddim yn lladd ar eich ymdrechion hyd yma yn llwyr. Mae'n ymddangos ein bod ni mewn sefyllfa lle mae’r...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Gor 2018)

Gareth Bennett: Dylent. Rydych yn cyfeirio at yr angen am ddull o weithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwy'n siŵr eich bod yn iawn yn hynny o beth. Ond efallai y bydd goblygiadau o ran eich dyheadau am dai fforddiadwy yng Nghymru, y buoch yn dweud wrthym amdanynt yn y Cynulliad yr wythnos hon. Yn sicr, roeddem yn cytuno bod gennym brinder tai fforddiadwy yma. Mae datblygwyr masnachol, pan fyddant yn...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Gor 2018)

Gareth Bennett: Diolch am yr ymateb hwnnw. Rwy'n falch eich bod yn ymwybodol o'r mater. Credaf efallai fod angen i Lywodraeth Cymru chwarae rôl fwy yn y maes hwn, gan nad yw'r awdurdodau lleol o bosibl—yn sicr yng Nghaerdydd a Chasnewydd—yn gwneud digon am y peth. Credaf ei bod yn bosibl y bydd gennym ormod o adeiladau llety myfyrwyr. Yn sicr, rydym yn gwybod na all yr ehangu mewn addysg uwch barhau am...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Gor 2018)

Gareth Bennett: Diolch, Lywydd. Yn ddiweddar, cafwyd nifer o geisiadau cynllunio llwyddiannus ar gyfer llety myfyrwyr yng Nghaerdydd. Mae rhai pobl wedi sylwi bod bron bob bloc mawr sydd wedi cael caniatâd cynllunio yng nghanol Caerdydd yn y 18 mis diwethaf wedi bod ar gyfer llety myfyrwyr. Ar yr un pryd, mae gennym ail floc myfyrwyr fel y'i gelwir yn ystyried gwneud cais am newid defnydd fel y gellir...

7. Dadl: Adolygiad o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy (10 Gor 2018)

Gareth Bennett: Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig ein gwelliannau. Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno bod tai fforddiadwy yn bwnc pwysig, ac rydym ni eisiau gwneud yr hyn a allwn ni yn y Cynulliad i sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i fwy o bobl yng Nghymru. Wrth edrych ar y cynnig heddiw, rydym ni’n gwrthwynebu cynnig y Llywodraeth, oherwydd mae'n...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Adroddiad Cynnydd ar 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' (10 Gor 2018)

Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am yr adroddiad cynnydd heddiw ar fenter y Cymoedd bresennol Llywodraeth Cymru. Pan fydd llefarwyr a gwleidyddion y gwrthbleidiau yn trafod eich cynlluniau, fel arfer mae gennym ychydig o ragarweiniad am lawer o gynlluniau'r Cymoedd sydd wedi bod o'r blaen, ac mae Adam wedi rhoi'r rhagarweiniad hwnnw inni unwaith eto heddiw—un hyddysg iawn—ond rydym yn gwybod bod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datblygiadau Llain Las (10 Gor 2018)

Gareth Bennett: Ie, diolch am yr ateb yna. Rydym ni wedi cael adroddiadau diweddar yn y wasg bod arweinydd cyngor Caerdydd, Huw Thomas, eisiau uno â Chyngor Bro Morgannwg, yn bennaf fel y gall Caerdydd adeiladu mwy o dai ar dir yn y Fro. Rydym ni eisoes wedi cael datblygiadau tai yn tresmasu ar y llain las ac rydym ni'n colli tir amaethyddol o ansawdd da oherwydd hyn. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datblygiadau Llain Las (10 Gor 2018)

Gareth Bennett: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y datblygiadau llain las yng Nghanol De Cymru? OAQ52496

7. Dadl ar Ddeisebau P-04-472 'Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf' a P-04-575 'Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig' (27 Meh 2018)

Gareth Bennett: Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rhoddwyd sylw i lawer o faterion. Mae gan Bethan lawer mwy o wybodaeth na mi am yr arferion cloddio glo brig eu hunain. Hoffwn fynd i'r afael â rhywbeth a gododd Lynne Neagle, sef pam y mae wedi cymryd cymaint o amser rhwng cael deiseb yn 2013 i'w thrafod yma yn y Siambr. Nid yw'r holl atebion gennyf. Roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor...

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Adeiladu tai lesddaliad preswyl (27 Meh 2018)

Gareth Bennett: Diolch i Mick Antoniw am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rydym yn trafod llawer o feysydd tebyg i'r hyn a drafodwyd yn y ddadl gan Aelod unigol y cymerodd Mick ran ynddi hefyd, gyda phobl eraill, felly nid wyf am ailadrodd popeth a ddywedais bryd hynny—mae'r rhan fwyaf o'r pwyntiau yn dal yn ddilys. Yn UKIP rydym yn cytuno'n fras â'r egwyddor o gyfyngu'n ddifrifol ar lesddeiliadaeth ar gyfer...

9. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Integreiddio Tai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol (26 Meh 2018)

Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad ac am gyhoeddi cyllid newydd. Rwy'n sylweddoli bod tai, iechyd a gofal cymdeithasol, i raddau helaeth, i gyd yn gydgysylltiedig a bod angen eu hystyried gyda'i gilydd, sef prif fyrdwn y datganiad heddiw. Felly, rydym yn gwerthfawrogi'r farn honno, ac rydym yn cydnabod yr angen i wahanol adrannau weithio gyda'i gilydd i gyflawni'r nodau hyn yr ydych chi...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ansawdd Aer (20 Meh 2018)

Gareth Bennett: Wrth edrych ar y materion sy'n codi, mae tagfeydd traffig, wrth gwrs, yn fater o bwys. Mae ysgolion wedi tyfu'n fwy ac wedi mynd yn llai lleol, ac mae mwy o blant mewn teuluoedd lle mae'r ddau riant yn gweithio y rhan fwyaf o ddyddiau, felly erbyn hyn mae gennym nifer fawr o rieni yn gyrru eu plant i'r ysgol, ac mae'r daith i'r ysgol yn elfen fawr o'r broblem draffig ar oriau brig, fel y...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ansawdd Aer (20 Meh 2018)

Gareth Bennett: Diolch, Lywydd. Diolch i Simon ac eraill am gyflwyno'r ddadl heddiw, a chynigiaf ein gwelliant yn ffurfiol. Mae'n ymddangos ein bod wedi sôn cryn dipyn am aer glân yn y Siambr yn ddiweddar, ond wrth gwrs, nid yw ansawdd yr aer i'w weld yn gwella, felly mae'n debyg ei fod yn fater perthnasol o hyd, felly gallwn siarad amdano eto. Ac mae yna ddatblygiadau, fel y nododd Simon Thomas yn...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Buddsoddi Cyfalaf yng Nghanol De Cymru (20 Meh 2018)

Gareth Bennett: Diolch am eich ateb. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r prosiect i ailagor twnnel y Rhondda fel llwybr cerdded a llwybr beicio. Yn dilyn adroddiad diweddar gan Balfour Beatty, cafwyd asesiad fod 95 y cant o'r twnnel mewn cyflwr da iawn. Nawr, mae'r Asiantaeth Priffyrdd yn gyfrifol am ddiogelwch y twnnel, ond ni chaniateir iddynt ailagor y twnnel. A fyddai Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.