Samuel Kurtz: Weinidog, ar dri achlysur gwahanol dros y 14 mis diwethaf, mae tref Caerfyrddin wedi dioddef llifogydd sylweddol wrth i afon Tywi orlifo, gan effeithio ar nifer o fusnesau ar hyd y cei ac yn ardal Pensarn. Wrth edrych ar y rhaglen lywodraethu a lansiwyd ddoe gyda chryn dipyn o seremoni, nid oedd fawr o gyfeiriadau yn yr adran ar newid hinsawdd at wella amddiffynfeydd rhag llifogydd. Gyda...
Samuel Kurtz: 1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol i gynorthwyo disgyblion sydd wedi colli amser addysgu wyneb yn wyneb oherwydd cyfyngiadau COVID-19? OQ56597
Samuel Kurtz: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r holl siaradwyr am gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma a chyflwyno cyfraniadau ystyrlon a chraff. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gweinidog am ei hymateb a'i thrafodaethau cadarnhaol ar yr angen i'r pwyllgor edrych ar hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi ar faterion amaethyddol, ac ar faterion gwledig yn fwy cyffredinol, i helpu i...
Samuel Kurtz: A gaf i alw ar Weinidog yr economi i wneud datganiad o ran y cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i drefnwyr gwyliau cerddoriaeth, sioeau amaethyddol a digwyddiadau awyr agored eraill oherwydd yr effaith y mae'r rheol ymbellhau cymdeithasol 2m yn ei chael ar gapasiti? Mae llawer o ddigwyddiadau'n wynebu ail haf o darfu, ac mae rhai eisoes wedi gwneud y penderfyniad anodd,...
Samuel Kurtz: Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'm rhagflaenydd, Angela Burns, am ei gwaith a'i hymroddiad diflino, nid yn unig yn y lle hwn, ond hefyd i bobl ac etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Brif Weinidog, mae gwylwyr a chyfranogwyr wedi dechrau dychwelyd at ddigwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol fel rhan o'r treialon y sonioch chi amdanynt wrth i reoliadau coronafeirws...