Canlyniadau 341–360 o 500 ar gyfer speaker:Heledd Fychan

4. Datganiadau 90 Eiliad (26 Ion 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Llywydd. Ddoe, fel y nodwyd gan nifer o fy nghyd Aelodau, roedd y genedl yn dathlu canmlwyddiant yr Urdd. Ac fel y clywsom drwy ganu gwych ein Llywydd, fel rhan o'r dathliadau, bu pobl o bob oed yn rhan o her lwyddiannus yr Urdd i dorri dwy record y byd gan ganu 'Hei Mistar Urdd'. Imi, roedd yr her yn crynhoi yn berffaith cryfder mawr yr Urdd, sef rôl y sefydliad o ran hyrwyddo'r...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (26 Ion 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Hoffwn ddatgan, cyn y cwestiwn nesaf, fy mod i'n gynghorydd ar gyngor Rhondda Cynon Taf.  Hoffwn droi rŵan at fater anghenion dysgu ychwanegol, a darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn benodol. Rwyf yn croesawu'n fawr y £18 miliwn ychwanegol y gwnaethoch gyhoeddi yn gynharach y mis hwn ar gyfer rhoi rhagor o gymorth i blant a phobl ifanc y mae'r pandemig wedi effeithio arnynt,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (26 Ion 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Llywydd. Weinidog, ddoe fe wnaethoch yn glir mai'r bwriad yw i arholiadau fynd rhagddynt eleni, ac roeddwn yn falch o'ch gweld yn cydnabod yr aflonyddwch y mae dysgwyr a staff wedi ei wynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ein hysgolion a'n colegau. Fe wnaethoch annog pob dysgwr ym mlynyddoedd arholiadau i siarad â'u hysgolion a'u colegau am ba gymorth a hyblygrwydd ychwanegol a...

7. Dadl Plaid Cymru: Costau byw (19 Ion 2022)

Heledd Fychan: Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad i'r ddadl hon ar ddau beth hanfodol sydd eu hangen arnom i gyd er mwyn gallu byw: bwyd a dŵr—nid moethusrwydd, nid pethau braf i'w cael, ond hanfodion. Soniodd Mark Isherwood am helpu pobl i gael gwaith, ond yma yng Nghymru heddiw, y realiti yw na all pobl sy'n gweithio fforddio'r hanfodion hyn. Yn ystod dadl Plaid Cymru ar 8 Rhagfyr ar dlodi bwyd,...

3. Cwestiynau Amserol: Rhewi Ffi'r Drwydded (19 Ion 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ffi'r drwydded ddydd Llun yn brawf pellach na fydd anghenion cyfryngol Cymru byth yn cael eu diwallu dan reolaeth San Steffan, ac mae'n nodi dechrau'r diwedd i'r holl syniad o ddarlledu cyhoeddus ym Mhrydain. Mae rhewi'r ffi drwydded am ddwy flynedd yn arwain at ansicrwydd mawr ar gyfer dyfodol cyfryngau Cymru, yn...

3. Cwestiynau Amserol: Rhewi Ffi'r Drwydded (19 Ion 2022)

Heledd Fychan: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith rhewi ffi'r drwydded ar ddarlledu yng Nghymru? TQ592

5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn dilyn cyhoeddi 'Y Fasnach mewn Caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffáu yng Nghymru' (18 Ion 2022)

Heledd Fychan: Rwy'n ymwybodol iawn fy mod i'n ymateb i'r datganiad hwn heddiw fel person gwyn gyda'r holl fraint sy'n gysylltiedig â chael fy ngeni'n wyn. Er fy mod i'n gallu teimlo empathi â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru fel cynghreiriad, nid wyf i'n gallu deall yn iawn faint o boen y mae ein hunanfodlonrwydd ni fel cymdeithas wedi ei greu drwy beidio â dechrau mynd i'r afael â'r...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (18 Ion 2022)

Heledd Fychan: Ar 7 Ionawr, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad ysgrifenedig mewn cysylltiad â chyllid ychwanegol ar gyfer darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, y mae ei angen yn fawr, wrth gwrs, ac a gaiff ei groesawu yn fawr. Fodd bynnag, yn gysylltiedig â hyn hefyd mae'r cyllid ychwanegol sydd ei angen ar gyfer asesiadau niwrolegol ar gyfer plant a phobl ifanc, er mwyn gallu nodi bod...

7. Dadl Plaid Cymru: Anghydraddoldebau iechyd (12 Ion 2022)

Heledd Fychan: Nid yw anghydraddoldeb iechyd yn newydd yng Nghymru, er bod y pandemig wedi amlygu'r anghydraddoldeb ac wedi gwaethygu'r sefyllfa i lawer o etholwyr sy'n byw yn fy rhanbarth, a adlewyrchir yn y lefel uchel o farwolaethau o COVID yn Rhondda Cynon Taf. Nid dyna sydd wedi creu'r anghydraddoldeb hwn, ac mae'n amlwg y dylid bod wedi gwneud mwy ymhell cyn y pandemig i fynd i'r afael â hyn. Yn...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig (12 Ion 2022)

Heledd Fychan: Yn anffodus, yn fy marn i a fy mhlaid o leiaf, San Steffan sydd yn parhau yn bennaf gyfrifol o ran y mesurau all fynd i’r afael o ddifrif gyda dyled a methdaliad, ynghyd â chostau byw cynyddol. Ac mae yn fy mhryderu yn fawr fod gennym Brif Weinidog a Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan sydd dro ar ôl tro wedi dangos nad ydynt yn hidio dim am y bobl mwyaf bregus yng Nghymru, drwy gyflwyno...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig (12 Ion 2022)

Heledd Fychan: Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, ac am eu gwaith ar yr adroddiad pwysig hwn. Diolch hefyd i bawb gyfrannodd at ei ymchwiliad, sydd wedi creu darlun torcalonnus o’r caledi mae gymaint o bobl yn ein cymunedau wedi ei wynebu yn ystod y pandemig, ac maent yn parhau i'w wynebu. Mae’n anodd dirnad maint y broblem, a dwi’n falch o weld argymhellion o ran beth yn...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 (11 Ion 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog am y datganiad heddiw. Hoffwn ategu eich diolch i weithwyr a gwirfoddolwyr y gwasanaeth iechyd am eu gwaith arwrol, a hoffwn ymestyn hefyd fy niolch i ofalwyr a gofalwyr di-dâl am bopeth y maen nhw'n ei wneud ar y funud. O ran profion llif unffordd am ddim, ydy hi'n bosib cael cadarnhad y byddan nhw'n parhau i fod ar gael ac am ddim yma yng Nghymru, beth...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (11 Ion 2022)

Heledd Fychan: Rwyf i eisoes wedi codi'r mater hwn gyda chi a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar sawl achlysur, ond nid yw eto wedi'i ddatrys, sef mater pobl nad oes modd eu brechu na chymryd prawf llif unffordd, a'r ffaith na allan nhw gael mynediad at basys COVID o hyd, sy'n caniatáu iddyn nhw fynd i ddigwyddiadau a lleoliadau yn awtomatig. Ar 7 Rhagfyr, gwnaethoch chi gytuno â mi fod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Pwysau ar GIG Cymru (11 Ion 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Prif Weinidog. Dros yr wythnos diwethaf, mae tri o bobl yn fy rhanbarth wedi cysylltu â mi ynglŷn â phroblemau yr oeddent wedi wynebu yn cael ambiwlans i gymydog neu aelod o'r teulu. Mewn un achos, roedd y person yn cael trawiad ar y galon ac fe ddywedwyd wrth ei chymydog nad oedd ambiwlans am hyd at chwe awr a bod angen canfod ffordd amgen i'w chael i'r ysbyty. Fe roddwyd y ffôn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Pwysau ar GIG Cymru (11 Ion 2022)

Heledd Fychan: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leddfu'r pwysau ar GIG Cymru y gaeaf hwn? OQ57435

1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar COVID-19 (22 Rha 2021)

Heledd Fychan: Hoffwn ategu sylwadau John Griffiths am parkruns. Mae rhai pobl wedi sôn yn barod ar Twitter am fynd dros y ffin i Loegr i'w mynychu os oes cyfyngiadau fan hyn. Oes modd edrych ar eithriad penodol, oherwydd ein bod ni'n gwybod bod manteision i gadw'n heini, o ran ymladd y feirws ac o ran iechyd meddwl cymaint o bobl hefyd? Hefyd, o ran rinciau iâ, yn enwedig rhai parhaol, megis Canolfan Iâ...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru (15 Rha 2021)

Heledd Fychan: Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd ddoe gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae dwy o’r ardaloedd awdurdodau lleol yn fy rhanbarth yn gyntaf ac yn ail o ran y nifer uchaf o farwolaethau COVID yng Nghymru hyd yn hyn: 1,003 o bobl yn Rhondda Cynon Taf, 993 yng Nghaerdydd. Mae ychwanegu'r 356 o bobl ym Mro Morgannwg yn gwneud 2,352 o bobl yng Nghanol De Cymru, 26 y cant o gyfanswm marwolaethau Cymru....

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Y broses cydsyniad deddfwriaethol (15 Rha 2021)

Heledd Fychan: Hoffwn ddiolch i Rhys ab Owen am gynnig y ddadl hon heddiw, a chyfle, o'r diwedd, i ni gael trafodaeth iawn ar y broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol, neu'r LCMs, nid bod y geiriau 'LCMs' wedi bod yn ddieithr i'r Siambr hon. Fel mae'r siaradwyr eraill wedi sôn, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer 17 o Filiau'r Deyrnas Unedig o fewn saith mis cyntaf...

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 (14 Rha 2021)

Heledd Fychan: Rŷn ni wedi cael neges glir iawn gennych chi heddiw, Weinidog, i bobl aros am apwyntiad. Ond dwi wedi cael llu o alwadau heddiw a negeseuon gan bobl yn gofyn pryd y bydd walk-ins yn fy rhanbarth i, a gweld bod yna fyrddau iechyd ac ati yn hybu hyn. Wedyn, dwi yn ofni bod yna rhyw fath o banig allan yna, a dwi'n meddwl nad yw'r negeseuon yma sy'n gwrthdaro efo'i gilydd yn help ar y funud yma,...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.