Canlyniadau 341–360 o 6000 ar gyfer speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (14 Gor 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. A dweud y gwir, mae hynny'n cyd-fynd â'r cwestiwn olaf roeddwn am ei ofyn i chi ynglŷn â'r pryder ynghylch y bylchau sydd wedi'u creu mewn llywodraethu amgylcheddol ers i'r DU adael yr UE. Ar y bwlch llywodraethu, mae pryder gwirioneddol, y gwn eich bod yn ymwybodol ohono, y gallai arwain at barhau niwed amgylcheddol, ac ychydig o gyfle sydd i'w gael i Lywodraethau ac i...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (14 Gor 2021)

Delyth Jewell: Iawn, wel, rwy'n croesawu hynny a diolch, Weinidog, ac rwy'n croesawu eich mwyseirio hefyd. Gan droi at faes gwahanol mewn perthynas â thargedau natur, pleidleisiodd y Senedd, bythefnos yn ôl, o blaid cynnig Plaid Cymru a datgan argyfwng natur, ac roedd y cynnig hwnnw'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau adfer natur sy’n rhwymo mewn cyfraith. Roedd hwn yn gam pwysig ac fel rydym...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (14 Gor 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Weinidog, mae gan ynni cymunedol ran hanfodol i'w chwarae wrth sicrhau ein bod yn cyflawni net sero. Mae ganddo rôl yn helpu i sicrhau caniatâd y cyhoedd, cynyddu cyfranogiad ac ymgorffori newid ymddygiad. Mae adroddiad diweddar sy'n edrych ar gyflwr y sector yn galw ar y Llywodraeth i ddangos cefnogaeth i'r mudiad trwy sicrhau bod polisïau sefydlog gan Lywodraethau Cymru...

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd (14 Gor 2021)

Delyth Jewell: Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer yn Nwyrain De Cymru?

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Coed a Phren (13 Gor 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi hefyd, Weinidog, am y datganiad. Rwy’n croesawu uchelgais y Llywodraeth yn y maes hwn, ac rwy'n cytuno fod coed yn rhyfeddol. Mae mor bwysig bod Cymru yn cael economi coedwigoedd sydd yn gwarchod coed, sy'n ehangu'r niferoedd o goed yn y wlad ac sy'n creu swyddi a deunyddiau adeiladu fydd yn rhan o'n hadferiad economaidd. Mae'n amlwg y bydd angen...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Gor 2021)

Delyth Jewell: Hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, ar amddiffyn pobl rhag llygredd aer. Mae trigolion Cwmfelinfach yn pryderu am gyfleuster trin gwastraff ar ystâd ddiwydiannol Nine Mile Point sydd wedi cael caniatâd cynllunio. Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru wrthod trwydded amgylcheddol yn wreiddiol, oherwydd y modd y gallai allyriadau effeithio ar iechyd preswylwyr, ond cefnodd CNC ar ei...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Amrywiolion COVID-19 sy'n Peri Pryder (13 Gor 2021)

Delyth Jewell: Prif Weinidog, gwyddom fod cyfraddau COVID yn cynyddu unwaith eto yn ein cymunedau, ac ar ôl 16 mis hir o gyfyngiadau symud, mae'n ddealladwy bod aelodau o'r cyhoedd wedi blino ar y cyfyngiadau, ond mae'r amrywiolion newydd yn anhygoel o drosglwyddadwy, felly sut y mae cyfleu'r neges honno i'r cyhoedd sy'n clywed negeseuon anghyfrifol a dryslyd yn dod o Lywodraeth yn Lloegr sy'n methu â...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y rhwydwaith ffyrdd ( 7 Gor 2021)

Delyth Jewell: Mae cyffyrddiad o'r Jekyll a Hyde am y cynnig hwn, onid oes? Ar y naill law, cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau ynghylch llygredd aer, yr angen am fwy o fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, gwella pwyntiau gwefru cerbydau trydan a gweithio gyda gweithredwyr bysiau—maent i gyd yn faterion pwysig iawn. Yna, mae'n ymddangos bod ail a thrydedd ran y cynnig yn tandorri'r rhan gyntaf,...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Busnesau bach a thwristiaeth ( 7 Gor 2021)

Delyth Jewell: Mae'r pwynt wedi cael ei wneud yn barod yn y ddadl: pan dŷn ni'n meddwl am y diwydiant twristiaeth, dŷn ni'n tueddu canolbwyntio'n bennaf ar ein harfordiroedd, ein mynyddoedd, a'n parciau cenedlaethol. Ond mae Cymru yn disgleirio gyda chymaint o lefydd hardd sydd yn gudd, efallai; gemau disglair o dan yr wyneb sy'n haeddu denu mwy o ymwelwyr. Dŷn ni eisoes hefyd wedi clywed yn y ddadl am...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Gor 2021)

Delyth Jewell: Trefnydd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cael gwybod am brofiadau pobl ar deithiau trên, lle nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel am nad oedd pobl yn cadw pellter cymdeithasol ac nad oedd pobl yn cael eu hatgoffa i wisgo masgiau wyneb. Mae fy nghyd-Aelod yn San Steffan Hywel Williams wedi gweld sesiwn friffio fewnol yn cael ei rhoi i staff Trafnidiaeth Cymru sy'n dweud wrthyn nhw am...

7. Dadl Plaid Cymru: Hinsawdd a bioamrywiaeth (30 Meh 2021)

Delyth Jewell: Nawr, o rai o'r cyfraniadau gwych a huawdl a gawsom heddiw, rwy'n tybio mai un o'r pwyntiau pwysicaf a ddeilliodd o'r ddadl yw nad er mwyn ein cenhedlaeth ein hunain yn unig y gweithredwn, y bobl sy'n byw ar y blaned hon yn awr; rydym yn ei wneud er mwyn y cenedlaethau sydd eto i gael eu geni—plant y mae eu hiechyd, eu hapusrwydd a'u sgiliau rhyngbersonol yn elwa cymaint o fod allan...

7. Dadl Plaid Cymru: Hinsawdd a bioamrywiaeth (30 Meh 2021)

Delyth Jewell: Diolch, yn olaf, i'r Gweinidog am gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig. Ymddangosodd gwenoliaid duon yng nghyfraniad y Gweinidog hefyd, a chredaf fod y pwynt a wnaeth y Gweinidog yn wirioneddol bwysig, nad peth bach yw dweud hyn, a'i fod hyd yn oed yn fwy o beth i'w wneud. Mae'n her bwysig, yn amlwg, fod angen inni wneud mwy na datgan argyfwng natur yn unig—rhaid inni gefnogi...

7. Dadl Plaid Cymru: Hinsawdd a bioamrywiaeth (30 Meh 2021)

Delyth Jewell: Nawr, mae'n glir o'r cyfraniadau fod natur mewn argyfwng yng Nghymru, ond bod hefyd gennym ni gyfle nawr i newid hynny—cyflwyno targedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol, fydd yn llywio buddsoddiad, monitro a gwelliant, canys heb ddeddfwriaeth yn y gorffennol, dydy'r targedau sydd wedi cael eu gosod ddim wedi cael eu gwireddu. Rwy'n deall safbwynt y Ceidwadwyr yma, ond buaswn i'n erfyn...

7. Dadl Plaid Cymru: Hinsawdd a bioamrywiaeth (30 Meh 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Mabon, hefyd am y cyfraniad am y natur godidog sydd yn Nwyfor Meirionnydd, Cymdeithas Eryri, ynghyd â phŵer cymunedau. Mae hynna'n elfen mor bwysig. 

7. Dadl Plaid Cymru: Hinsawdd a bioamrywiaeth (30 Meh 2021)

Delyth Jewell: Diolch i Siân Gwenllian am siarad eto am y gobaith sy'n dod o'r ffaith y gall y rhywogaethau prin gael eu hachub, a hefyd am siarad am ba mor bwysig yw hi i wyrdroi'r dirywiad er mwyn plant. 

7. Dadl Plaid Cymru: Hinsawdd a bioamrywiaeth (30 Meh 2021)

Delyth Jewell: Fe'n hatgoffwyd gan Mark Isherwood am ffrâm ryngwladol ein dadl, wrth gwrs. Mae wedi bod mor wych clywed Mark, Siân, Jenny, Julie ac Aelodau eraill yn siarad am y rhywogaethau y maent yn eu hyrwyddo. I'r Aelodau ifanc—wel, i'r Aelodau newydd, dylwn ddweud, yn y Senedd, a allai fod yn genfigennus ynglŷn â'r holl rywogaethau y buom yn siarad amdanynt sy'n cael eu hyrwyddo, rwy'n siŵr y...

7. Dadl Plaid Cymru: Hinsawdd a bioamrywiaeth (30 Meh 2021)

Delyth Jewell: Ddirprwy Lywydd, am ddadl wych yw hon wedi bod.

7. Dadl Plaid Cymru: Hinsawdd a bioamrywiaeth (30 Meh 2021)

Delyth Jewell: Rwy'n diolch i Janet Finch-Saunders am ei haraith. Rwy'n cydnabod hefyd nad yw datgan argyfwng ar ei ben ei hunan ddim yn cyflawni digon, fel roedd y Gweinidog newydd ddweud. Dyna pham rŷn ni hefyd yn cynnig targedau ar lywodraethiant y pethau sydd angen cael eu gwneud, ond rwy'n hoffi'r ddelwedd o obaith a'r cresendo o weithredu yr oedd hi'n sôn amdano. 

7. Dadl Plaid Cymru: Hinsawdd a bioamrywiaeth (30 Meh 2021)

Delyth Jewell: Cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at y teimlad o gresendo, ymdeimlad cynyddol o gefnogaeth drawsbleidiol, ac rwy'n croesawu ei gefnogaeth yntau hefyd.

7. Dadl Plaid Cymru: Hinsawdd a bioamrywiaeth (30 Meh 2021)

Delyth Jewell: Ond, gan droi’n ôl at y targedau hynny, oherwydd maent yn chwarae rhan bwysig— mae targedau'n gosod y cywair a'r cyfeiriad—sut y mae'r dirwedd honno'n edrych yn rhyngwladol? Daeth targedau'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol i ben yn 2020; roeddent yn dargedau byd-eang i wrthdroi colli bywyd gwyllt a dirywiad yn yr amgylchedd naturiol, a chadarnhaodd y Cenhedloedd Unedig ein bod ni i...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.