Canlyniadau 341–360 o 400 ar gyfer speaker:Peredur Owen Griffiths

10. Dadl: Paratoi’r Gyllideb: Blaenoriaethau ar gyfer 2022-23 (13 Gor 2021)

Peredur Owen Griffiths: Dim ond mymryn sydd i fynd, so does dim rhaid ichi boeni'n ormodol, felly. Dwi'n gobeithio y bydd y Pwyllgor Cyllid yn gallu cydweithio efo pwyllgorau polisi eraill gan ei bod, fel roeddwn i'n dweud, yn debygol y bydd y gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi cyn y Nadolig. Rydym yn bwriadu ymgynghori ar y blaenoriaethau yma ar gyfer y gyllideb ddrafft nesaf yn nhymor yr hydref. Mi fuaswn i...

10. Dadl: Paratoi’r Gyllideb: Blaenoriaethau ar gyfer 2022-23 (13 Gor 2021)

Peredur Owen Griffiths: Y gyllideb ddrafft hon fydd y gyntaf yn y chweched Senedd, ac rwy’n gobeithio y gall y Pwyllgor Cyllid gydweithio â’r pwyllgorau polisi eraill. Gan ei bod yn debygol y caiff y gyllideb ddrafft ei chyhoeddi cyn y Nadolig, rydym yn bwriadu ymgynghori ar y blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb ddrafft nesaf yn nhymor yr hydref. Mi fuaswn i'n annog Cadeiryddion ac aelodau pwyllgorau i...

10. Dadl: Paratoi’r Gyllideb: Blaenoriaethau ar gyfer 2022-23 (13 Gor 2021)

Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch o gael cyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw yn fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Fel bysys, dŷn nhw ddim yn dod am hydoedd ac wedyn mae yna ddau yn dod efo'i gilydd, ac rwy'n falch iawn o gael cymryd rhan.

10. Dadl: Paratoi’r Gyllideb: Blaenoriaethau ar gyfer 2022-23 (13 Gor 2021)

Peredur Owen Griffiths: Mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi arwain ar y math hwn o ddadl ac, yn arferol, byddai'r pwyllgor yn cynnal digwyddiad mawr i randdeiliaid neu ymgyrch ar-lein i glywed barn rhanddeiliaid ynghylch lle y dylai Llywodraeth Cymru fod yn blaenoriaethu ei gwariant. Byddai'r wybodaeth hon wedyn yn cyfrannu at ddadl o'r math hwn fel bod aelodau'n cael cyfle i drafod penderfyniadau...

9. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2021-22 (13 Gor 2021)

Peredur Owen Griffiths: Rwy’n falch o fod yn cael siarad yma yn y ddadl heddiw, y gyntaf i mi fel Cadeirydd newydd y Pwyllgor Cyllid. Deallaf fod y Pwyllgorau Cyllid blaenorol wedi cael perthynas adeiladol gyda'r Gweinidogion cyllid ac edrychaf ymlaen at barhau hynny yn fy rôl newydd. Diolch yn fawr.

9. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2021-22 (13 Gor 2021)

Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Cynhaliodd y pwyllgor waith craffu ar y gyllideb atodol gyntaf ar 2 Gorffennaf. Diolch i’r Gweinidog am fod yn bresennol, a hefyd i'r Aelodau am gyfarfod yn weddol fyr rybudd i wneud y gwaith. 

9. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2021-22 (13 Gor 2021)

Peredur Owen Griffiths: Mae'r gyllideb atodol hon yn dangos cynnydd o £1.2 biliwn i'r dyraniadau i adrannau Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n gynnydd o £19.7 biliwn i £20.9 biliwn. Mae'r dyraniadau wedi eu seilio yn bennaf ar ymateb parhaus Llywodraeth Cymru i'r pandemig. Dywedodd y Gweinidog wrthym mai cyllideb atodol dechnegol yw hon sy'n symud i gyd-fynd â ffyrdd blaenorol o gyllidebu. Fodd bynnag, darparodd y...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Gor 2021)

Peredur Owen Griffiths: Trefnydd, hoffwn i godi hawliau pobl anabl sy'n byw yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, roedd yr adroddiad 'Drws ar glo', a gafodd ei gomisiynu gan eich Llywodraeth chi, yn ysgytwad i lawer mewn awdurdod, gan ei fod yn manylu ar sut yr oedd y pandemig wedi arwain at wahaniaethu meddygol a chyfleoedd cyfyngedig i fanteisio ar wasanaethau cyhoeddus a chymorth cymdeithasol, ynghyd â gwanhau...

8. Dadl Fer: Mwy na dim ond gwên: A yw preswylwyr cartrefi gofal yn cael triniaeth ddeintyddol sy'n briodol? ( 7 Gor 2021)

Peredur Owen Griffiths: Nawr, mae staff mewn cartrefi gofal yn gweithio'n galed tu hwnt—nid wyf yn credu bod llawer yma a fyddai'n gwadu hynny—ond yn anochel, mae pethau'n symud i lawr y rhestr flaenoriaethau. Yn wir, i lawer ohonom dros y 18 mis diwethaf, mae gofal deintyddol wedi mynd yn llai o flaenoriaeth oherwydd yr angen am gadw pellter cymdeithasol, ac rwy'n siŵr fod cartrefi gofal, sydd wedi bod yn...

8. Dadl Fer: Mwy na dim ond gwên: A yw preswylwyr cartrefi gofal yn cael triniaeth ddeintyddol sy'n briodol? ( 7 Gor 2021)

Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr, Lywydd, ac os caf hysbysu'r Aelodau fy mod wedi cytuno i gais gan Sioned Williams i wneud cyfraniad byr ar ddiwedd y ddadl hon. Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi bod yn ymgyfarwyddo â gwahanol agweddau ar fy mhortffolio. Fi yw'r llefarydd ar gymunedau a phobl hŷn. Fel y gallech ddisgwyl, mae rhan fawr o hyn yn ymwneud â gofal cymdeithasol. I'r rheini ohonoch sy'n fy...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gofal Lliniarol i Blant ( 7 Gor 2021)

Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr. Mae dwy ran i fy nghwestiwn. A all Llywodraeth Cymru amlinellu faint o'r £8.4 miliwn a fuddsoddir yn y sector gofal diwedd oes bob blwyddyn yng Nghymru sy'n mynd tuag at wasanaethau gofal lliniarol pediatrig? Yn ail, mae Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith yn cael llai na 10 y cant o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae hon yn gyfran sylweddol is nag y mae hosbisau plant yn Lloegr a'r...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gofal Lliniarol i Blant ( 7 Gor 2021)

Peredur Owen Griffiths: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod plant sydd angen gofal lliniarol yn cael y gofal gorau posibl? OQ56741

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar ddull sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn (30 Meh 2021)

Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr i Gareth Davies, o Ddyffryn Clwyd, lle ces i fy ngeni, am gyflwyno'r cynnig yma.

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar ddull sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn (30 Meh 2021)

Peredur Owen Griffiths: Hoffwn siarad i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd. Fi yw llefarydd Plaid Cymru ar gymunedau a phobl hŷn, ac fel y cyfryw, mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb brwd ynddo. Mae'r cynnig hwn yn amserol o gofio am nifer o benawdau a welsom yn ystod yr wythnosau diwethaf. Gwelsom ymchwil sy'n dangos bod pobl hŷn yn teimlo fwyfwy eu bod wedi'u gwahanu oddi wrth y...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Gwariant ar Gyfiawnder (30 Meh 2021)

Peredur Owen Griffiths: Diolch. Un o'r pethau rhyfeddaf am ein trefniant datganoli yw bod bron i 40 y cant o gyfanswm y cyllid ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru yn dod o Gymru, er nad oes gennym reolaeth yn y maes polisi hwn. Os goddefir yr ymadrodd, mae fel cael y gwaethaf o'r ddau fyd. Fel y dywedodd adroddiad 'Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru', 'Dylai cyfiawnder fod wrth wraidd y llywodraeth.' A all y Cwnsler...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Gwariant ar Gyfiawnder (30 Meh 2021)

Peredur Owen Griffiths: 2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch effeithiolrwydd gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder? OQ56703

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth i Fusnesau (29 Meh 2021)

Peredur Owen Griffiths: Diolch, Prif Weinidog. Mae llawer o fusnesau wedi ailagor yn dilyn y cyfyngiadau symud diwethaf. Maen nhw wedi gwneud hynny gyda llai o gapasiti. Mae hyn yn ddieithriad yn golygu llai o incwm. Rwyf wedi cael sylwadau gan stiwdio ioga yn Nwyrain De Cymru sydd wedi ailagor yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, ond dim ond traean o'u cleientiaid arferol maen nhw'n gallu eu croesawu drwy'r drws....

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth i Fusnesau (29 Meh 2021)

Peredur Owen Griffiths: 6. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i fusnesau y mae ymbellhau cymdeithasol wedi effeithio arnynt yn ystod y pandemig? OQ56712

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Effaith Ariannol COVID-19 ar Awdurdodau Lleol (23 Meh 2021)

Peredur Owen Griffiths: Heb os, mae COVID wedi cael effaith sylweddol ar gyllid cyhoeddus ac nid yw awdurdodau lleol wedi bod yn eithriad. Mae'r ffordd y mae'r sector cyhoeddus wedi dod at ei gilydd ac wedi darparu adnoddau i helpu gyda’r frwydr yn erbyn y pandemig wedi bod yn ysbrydoledig. Rwy'n ymwybodol hefyd nad yw rhai cynghorau yng Nghymru wedi gallu gwario peth o'u cyllidebau gan fod gweithgarwch wedi'i...

7. Dadl Plaid Cymru: Polisi Tai (16 Meh 2021)

Peredur Owen Griffiths: —gan ddiffyg ewyllys wleidyddol, sut y caiff Llywodraeth ei barnu os byddant yn methu gweithredu yn wyneb argyfwng tai? Diolch.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.