Lesley Griffiths: Gwnaf, Nick.
Lesley Griffiths: Dof at hynny mewn eiliad. Cefais gyfarfod y bore yma, mewn gwirionedd, gyda Carl Sargeant, sydd bellach yn gyfrifol am dai, wrth gwrs, pan fuom yn trafod yr union fater hwnnw. Ond byddaf yn cyfeirio at hynny yn nes ymlaen. Rwy’n meddwl bod y system ynni eisoes yn cael ei thrawsnewid, ac mae hyn yn amlwg o’r adroddiad ar gynhyrchu ynni carbon isel a gyhoeddwyd gennym fis Tachwedd diwethaf....
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Llyr Gruffydd am gyflwyno’r ddadl fer hon. Fel y dywedoch, dyma’r gyntaf yn y pumed Cynulliad hwn, ac rwy’n credu ei fod yn bwnc pwysig iawn i’w ddewis ar gyfer y ddadl gyntaf. Mae adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ynni craffach yn gyfraniad pwysig iawn, rwy’n credu, i’r ddadl ar y polisi ynni, ac rwy’n edrych ymlaen at ymateb...
Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Nathan Gill am ei gwestiwn, er fy mod yn meddwl ei fod braidd yn sur. Roedd yn drueni mai dyna oedd y cwestiwn olaf i roi terfyn ar yr hyn yr wyf yn meddwl sydd wedi bod yn ddatganiad cadarnhaol iawn. Wyddoch chi, nid yw'r ystadegau’n ategu’r hyn yr ydych yn ei ddweud. Nid wyf yn credu ein bod wedi gorfod defnyddio moron a ffyn. Rwyf yn meddwl bod...
Lesley Griffiths: Diolch ichi, Jenny Rathbone. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud wrth Aelodau blaenorol am fy safbwyntiau ar gynlluniau blaendal-dychwelyd, o ran eich cwestiwn olaf. Mewn perthynas â thaflu yn ôl pwysau, roedd briff yr oeddwn yn ei ddarllen yn cofleidio’r hyn y mae gwledydd eraill yn Ewrop wedi ei wneud. Credaf fod Awstria a'r Eidal a rhannau o Wlad Belg yn ardaloedd lle'r oedd treth...
Lesley Griffiths: Diolch i Darren Millar am ei gwestiwn. Roeddwn yn gwybod bod Conwy yn bwriadu cynnal cynllun peilot i dreialu casgliadau bob pedair wythnos. Credaf eu bod yn dechrau ddiwedd y mis nesaf. Nid oes gennym ni yn Llywodraeth Cymru bolisi ar gyfer casglu sbwriel na ellir ei ailgylchu yn fisol. Mater i awdurdodau lleol yw penderfynu pa mor aml y maent yn casglu gwastraff a beth sydd orau i’w...
Lesley Griffiths: Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Rydych yn iawn—clywsoch fi’n dweud wrth Simon Thomas ein bod wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth yr Alban, ac yn sicr mae swyddogion yn gwylio’r hyn a wnânt yno. Byddant yn cyflwyno rhywfaint o gyngor y byddaf yn ei ystyried yn sicr cyn diwedd y flwyddyn, ond mae'n broses gymhleth iawn dechrau cynllun blaendal-dychwelyd o...
Lesley Griffiths: Diolch ichi, David Melding, am eich geiriau caredig. Ddoe ddiwethaf y sylweddolais—oherwydd, wrth gwrs, dim ond ers 2007 yr wyf yma—fod 'Ysgrifennydd Cabinet' yn arfer cael ei ddefnyddio. Felly, unwaith eto, roedd honno’n jôc well o lawer nag un Simon Thomas. [Chwerthin.] Rydych yn llygad eich lle, ac mae'n dda iawn eich bod yn cydnabod cyflawniad uchel y cyfraddau ailgylchu...
Lesley Griffiths: Wel, nid wyf wedi ymgymryd â’r darn hwnnw o waith ym mis cyntaf y portffolio. Ond credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae’r posibilrwydd hwnnw o ddod â mwy o swyddi. Soniais y gallem fod yn edrych ar annog busnesau yn y ffordd yr wyf wedi’i chrybwyll ynglŷn ag etholaeth Ken Skates a’r busnes prennau hongian cotiau. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod ein...
Lesley Griffiths: Hoffwn ddiolch i Simon Thomas am ei sylwadau ac edrychaf ymlaen at ei gael yn fy nghysgodi; rwyf yn gobeithio y bydd ei jôcs yn gwella dros y misoedd nesaf. Rwyf yn cytuno â chi am yr economi gylchol, oherwydd pan roddwyd teitl y datganiad o fy mlaen, fe betrusais ychydig. Ond credaf eich bod yn iawn; mae arnom angen rhywbeth y mae pobl yn ei ddeall yn iawn ac yn gallu cydio ynddo. Rydym...
Lesley Griffiths: Diolch ichi, Lywydd. Rwyf am dynnu sylw'r Senedd at stori lwyddiant go iawn i Gymru a sut y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwn ar gyfer y dyfodol. Yng Nghymru y mae’r gyfradd ailgylchu trefol uchaf yn y Deyrnas Unedig a phe byddai’n adrodd ar wahân, y bedwaredd gyfradd uchaf yn Ewrop. Hoffwn dalu teyrnged i’m rhagflaenydd, Carl Sargeant, am ei gyfraniad i gyflawniadau Cymru o ran...
Lesley Griffiths: Carwyn Jones.