David Rees: Weinidog, mae llawer o gwestiynau eisoes wedi eu gofyn, ac rwyf yn llwyr gefnogi pwyntiau Julie Morgan ynglŷn â thoiledau cyhoeddus. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod y strategaeth yn cael ei rhoi ar waith mewn gwirionedd, a bod pobl yn cael mynediad at yr holl gyfleusterau. Ac os nad oes rhai yno, nad ydyn nhw’n gallu dweud yn syml, ‘Ni allwn ei fforddio’, ond eu bod yn gwneud...
David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a gaf i adleisio sylwadau Bethan Jenkins. 15 mlynedd yn ôl i heddiw digwyddodd y ddamwain erchyll yn ffwrnais chwyth Rhif 5 pryd y collodd tri gweithiwr eu bywydau, dau o fy etholaeth i ac un o Faesteg, a chafodd llawer eu hanafu? Roedd y sylwadau ddoe gan Brif Weinidog y DU, neu'r adlewyrchiad ar y Prif Weinidog oherwydd na wnaeth hi, mewn gwirionedd,...
David Rees: Brif Weinidog, mae'n ddiddorol ac yn braf clywed y bydd y canllawiau yn cael eu cyhoeddi yn fuan iawn oherwydd, yn fy awdurdod fy hun, ceir 114 o blant hysbys sy'n cael eu haddysgu gartref, ond dim ond un swyddog rhan-amser sy’n gweithio gyda’r rheini. A allwch chi hefyd sicrhau bod y canllawiau’n mynd i orfodi a rhoi mwy o bwysau ar awdurdodau lleol i gael perthynas rhwng nifer y plant...
David Rees: Diolch. Dim ond i egluro pwynt, mae band eang yn broblem mewn rhai ardaloedd yn fy etholaeth i hefyd.
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad arall?
David Rees: Unwaith eto, diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych felly yn croesawu adolygiad Donaldson, sy’n gosod cymhwysedd digidol a’r fframwaith digidol yn ganolog i rywfaint o’i waith, ac felly bydd y cwricwlwm mewn gwirionedd yn cynnwys yr hyn rydych yn ei ddweud?
David Rees: Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad ac rwy’n croesawu’n fawr y penderfyniad gan Google Digital Garage i ddod i Gymru am gyfnod o dri mis i sefydlu cynlluniau hyfforddi yma yng Nghymru—yn wir, roedd y ddau ddiwrnod cyntaf yn fy etholaeth i ym Mhort Talbot. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud llawer iawn â hwy er mwyn dod â hwy i Gymru mewn gwirionedd, er mwyn i ni gael yr...
David Rees: A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch ardal Castell-nedd Port Talbot, lle rydym yn gweld twf yn nifer y plant sydd eisiau mynd i ysgolion addysg cyfrwng Cymraeg? A wnaiff groesawu’r ffaith hefyd fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cydnabod hyn ac yn adeiladu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd ar hen safle Ysgol Gyfun Sandfields? A wnaiff weithio gyda’i gyd-Aelodau yn y...
David Rees: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi addysg yn y cartref?
David Rees: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi addysg yn y cartref?
David Rees: Rwy’n sylweddoli’r cyfyngiadau amser felly byddaf i’n gyflym ac yn fyr. Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y diweddariad a gawsom ac rwy'n edrych ymlaen at eich holi chi yr wythnos nesaf pan fyddwch chi’n dod i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y mater penodol hwn. Credaf ei bod yn bwysig heddiw i dynnu sylw at y...
David Rees: Brif Weinidog, mae’r diwydiant dur yn dal i fod mewn argyfwng. Nid yw wedi diflannu. Mae gennym ni lawer o broblemau a heriau yn ein hwynebu o hyd, er bod y gweithluoedd ar draws Cymru wedi dangos ymrwymiad i wella proffidioldeb. Beth mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei wneud o ran ardrethi busnes? Roedd hon yn broblem, yn sicr, yn gynnar yn y flwyddyn ac ystyriwyd eithriadau ar gyfer offer...
David Rees: Weinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru? A gaf i ddatganiad yn gyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig? Cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2016, cawsom ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ar foratoriwm ar ffracio. Byddai'n ddiddorol cael cadarnhad o’r ymrwymiad hwnnw gan Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau nad yw ffracio yn opsiwn i unrhyw...
David Rees: Brif Weinidog, ar 28 Mehefin, dim ond newydd benderfynu gadael yr UE oedd y wlad. O ganlyniad i hynny, mae’n bosibl y gallai fod goblygiadau deddfwriaethol yma yng Nghymru. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd i ystyried y goblygiadau i’r rhaglen ddeddfwriaethol yr ydych chi’n ei chyflwyno, yn seiliedig ar y ffaith y gallem ni weld llawer mwy o...
David Rees: Diolch i chi am dderbyn ymyriad. A yw’n deg dweud, ac rwy’n cydnabod eich sylwadau, ers i’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant ddod i rym ym mis Ebrill mewn gwirionedd, nad ydym wedi cael cyfle i asesu’r dystiolaeth, a gwnaed sylwadau ar hyn o’r blaen, ynglŷn ag a yw’r Ddeddf honno mewn gwirionedd yn cyflawni’r nod roeddem am ei gyrraedd o dan yr amgylchiadau?
David Rees: Dwy frawddeg, a byddaf wedi gorffen. Dylent gael y sicrwydd y bydd eu plentyn yn derbyn y gwasanaethau sydd eu hangen heb ymladd ag unrhyw awdurdod, boed yn gyngor neu’n awdurdod iechyd. Maent am i’w plant gael yr hyn rydym ei eisiau i’n plant ni; gadewch i ni eu helpu i gyflawni hyn.
David Rees: Rwy’n derbyn yn llwyr nad yw awtistiaeth yn rhywbeth a fydd yn newid; bydd yno ar hyd eu hoes, ond yr hyn rwyf newydd ei nodi yw bod yna bosibilrwydd o edrych i weld a all y Bil helpu mewn gwirionedd ai peidio. At hynny roeddwn yn cyfeirio—[Torri ar draws.] At hynny roeddwn yn cyfeirio. Weinidog, fel fy nghyd-Aelod o Gaerffili, rwy’n gobeithio y byddwch yn gweithio gyda rhanddeiliaid,...
David Rees: Gwnaf.
David Rees: Fel y dywedwyd eisoes gan Mark Isherwood, mae awtistiaeth yn anabledd gydol oes sy’n effeithio ar y modd y mae pobl yn gweld y byd ac yn rhyngweithio ag eraill. Fel fy nghyd-Aelod o Gaerffili, deuthum ar draws sawl unigolyn yn ystod fy amser yn y byd addysg. Fel y rhan fwyaf o’r Aelodau a glywsom ar draws y Siambr y prynhawn yma, rwyf wedi cael nifer o sylwadau gan deuluoedd sydd â...
David Rees: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Unwaith eto, mae’r sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn hanfodol. Yn fy etholaeth i, mae gwirfoddolwyr yn gweithio mewn llyfrgelloedd cymunedol, canolfannau cymunedol a gwasanaethau cymorth ar draws y dref a’r etholaeth i sicrhau bod y gwasanaethau hynny’n parhau yn y cymunedau. Mae’r gwirfoddolwyr unigol hyn yn allweddol i waith...