David Rees: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Aberafan wedi elwa o gronfeydd adfywio’r UE ac wedi gweld llawer o brosiectau’n cael eu datblygu yn y cymunedau, gan gynnwys cwm Afan. Yn amlwg, bydd penderfyniad pobl Prydain i adael yr UE yn dod â’r ffrwd gyllido hon i ben. Ond nid yw hynny’n atal effaith y caledi sy’n deillio o San Steffan, yn enwedig ar yr awdurdodau lleol sy’n...
David Rees: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree ei adroddiad, ‘We Can Solve Poverty in the UK’, a dynnai sylw at bum pwynt. Un o’r rhain oedd cryfhau teuluoedd a chymunedau, sy’n rhan o’ch cylch gwaith. Maent hefyd yn cynnwys pedwar argymhelliad. Yn fy etholaeth i, sef Aberafan, mae llawer o deuluoedd yn ei...
David Rees: Weinidog, a gaf fi ymuno â’r Aelod dros Orllewin De Cymru, oherwydd roeddwn innau hefyd am holi’r cwestiwn ynglŷn â sicrhau bod y prosiect Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, prosiect a welwn yn cyflawni canlyniadau rhagorol mewn gwirionedd ym Mhort Talbot, gydag ystad ddiwydiannol y Parc Gwyrdd yn cael ei thrawsnewid yn ardal werdd hyfryd a thai cymdeithasol, adfywio hen orsaf y frigâd...
David Rees: 5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â threchu tlodi plant yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0021(CC)
David Rees: 8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â gweinidogion cyfatebol yn San Steffan ynghylch cyllid adfywio yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE? OAQ(5)0027(CC)
David Rees: Hoffwn ddechrau drwy ddatgan bod fy ngwraig yn gweithio i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi tynnu sylw at rai o'r agweddau da sy'n digwydd, yn ogystal â thynnu sylw at yr ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer PABM mewn gwasanaethau canser a gofal heb ei drefnu ymlaen llaw. Pa waith monitro y byddwch yn ei wneud i sicrhau, wrth i ni...
David Rees: Brif Weinidog, diolch i chi am yr ateb yna, ac rydym ni’n gweld cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r diwydiant dur, drwy’r prosiectau hyn, yr wyf yn eu croesawu’n fawr iawn, ym Mhort Talbot. Ond hefyd, rydym ni wedi gweld dros yr haf, ers i ni gyfarfod ddiwethaf, gwelliannau ariannol yn y diwydiant dur ym Mhort Talbot hefyd, lle gwelsom golledion o £1 filiwn y dydd cyn hynny, ac rydym...
David Rees: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r trafodaethau a gafodd yn America mewn perthynas â hyrwyddo a chefnogi'r gwaith cynhyrchu dur yng Nghymru?
David Rees: Mae gen i nifer o gwestiynau.
David Rees: Rwy’n sylweddoli hynny, Lywydd, ond rwy'n siŵr y byddwch chi’n gwerthfawrogi bod yr etholaeth yn llawn—
David Rees: Y cwestiwn olaf, felly. Mae'r undebau llafur wedi mynegi eu barn i mi. Fe wnaethant fy ffonio i heddiw. Nid ydyn nhw eisiau i’r broses werthu gael ei hatal. A wnewch chi drafod â Tata a Llywodraeth y DU i gael y broses werthu yn ôl ar y trywydd cywir, os dim byd arall, ochr yn ochr â'r ystyriaethau eraill sydd ganddyn nhw?
David Rees: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb yna ac am ei sicrwydd bod Llywodraeth Cymru wir yn parhau i ddilyn y gwahanol agweddau? Fodd bynnag, fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, mae’r diwydiant dur wedi bod mewn sefyllfa anodd ers nifer o flynyddoedd. Yn wir, eleni, ym mis Ionawr, cyhoeddodd Tata Steel y byddai 1,000 o swyddi yn cael eu colli; ym mis Mawrth, cyhoeddodd werthiant...
David Rees: A wnaiff y Gweinidog roi manylion y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â Tata Steel a Llywodraeth y DU yn dilyn cyhoeddi bwriad Tata i atal y broses o werthu ei weithfeydd gwneud dur yn y DU? EAQ(5)0036(EI)
David Rees: A wnaiff yr Aelod ildio?
David Rees: Ai eich cynigion felly—? A ydych felly yn barod i gael gwared ar yr holl ddiwydiant yng Nghymru er mwyn i chi gael amgylchedd glân, oherwydd dyna rydych newydd ei ddweud?
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: Nid wyf am gymryd ail un, nac ydw. Rwy’n croesawu’r gwelliant gan y Ceidwadwyr Cymreig mewn gwirionedd, sy’n annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda’i gilydd i lunio strategaeth i hyrwyddo i sicrhau cymaint â phosibl o hyfywedd a photensial hirdymor i gynhyrchiant dur yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth y bûm yn galw amdano ers amser hir. Gorymdeithiais ochr yn ochr...
David Rees: Gwnaf.
David Rees: Ydw, rwy’n derbyn y pwynt fod y bunt yn is, felly mae’r allforion yn rhatach ac o bosibl yn fwy deniadol i brynwyr, ond wrth gwrs, rydym yn prynu deunyddiau crai mewn doleri, ac mae’r bunt wedi suddo fel plwm i bwynt is nag y gwnaeth ers 31 o flynyddoedd yn erbyn y ddoler, felly mae’r canlyniadau sydd gennym, yn ôl pob tebyg efallai, yn sefyllfa waeth, nid yn sefyllfa well o reidrwydd.
David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y mae’r Aelodau’n llwyr ymwybodol, dur yw calon fy nhref enedigol ac rwy’n croesawu cyfle arall i drafod dyfodol y diwydiant yma heddiw. Fodd bynnag, heddiw, dylem fod yn trafod sut y gallwn sicrhau dyfodol cynaliadwy drwy weithio gyda’n gilydd i adeiladu amgylchedd economaidd sefydlog a mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu gweithwyr dur, yn...