David Rees: Diolch i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A ydych yn cytuno felly ei bod yn bwysig ein bod yn ailddefnyddio nwy gwastraff, a’i bod yn bwysig felly ein bod yn cadw’r pen trwm yn y gwaith dur i gynhyrchu’r nwy gwastraff hwnnw mewn gwirionedd, fel bod y gwaith integredig yn parhau’n waith integredig?
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych, felly, yn gresynu at rôl ASEau UKIP yn 2014 yn peidio â chefnogi moderneiddio a symud mecanweithiau tariff masnach ac amddiffyn masnach? Dyma eiriau cynrychiolydd UKIP: Nid yw UKIP yn pleidleisio o blaid yr UE yn gwneud pethau ar ein rhan. Nid oeddent yn malio am y diwydiant dur.
David Rees: Weinidog, rwy’n falch iawn o glywed yr ateb rydych newydd ei roi i Bethan Jenkins mewn perthynas â’r strategaeth sydd wedi bod ar y gweill. Fodd bynnag, strategaeth yw strategaeth ac nid oes unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol ar awdurdodau a chyrff cyhoeddus a dyna un o ganlyniadau’r Ddeddf awtistiaeth. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o rieni sydd wedi cael trafferth cael gwasanaethau ar...
David Rees: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r gefnogaeth i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol?
David Rees: Diolch i chi am ildio. Rwy’n cytuno â chi yn llwyr ac nid oes gennyf unrhyw ddadleuon, ond a ydych hefyd yn meddwl bod angen hyfforddi’r meddygon sydd gennym yn barod oherwydd bod gan rai ohonynt ddiffyg dealltwriaeth weithiau o rai o'r problemau sydd gan y bobl sy’n dod atynt? Felly, mae'n ymwneud â hyfforddi'r meddygon sydd gennym yn barod, yn ogystal â rhagor o feddygon.
David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn gyflym iawn, iawn. [Chwerthin.] A gaf fi ddiolch i’r Aelod yn gyntaf oll am ddod â’r mater pwysig hwn i’r Siambr, oherwydd yr hyn rydym yn ei wneud yw darparu cyfleoedd i’n plant ifanc mewn cyfleusterau newydd modern er mwyn sicrhau eu bod yn gallu datblygu i mewn i’r unfed ganrif ar hugain? Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am ofyn un peth. Byddaf yn...
David Rees: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad a chyn i chi fynd ymlaen at gynllun datblygu Caerdydd eto, fe sonioch fod geiriau brwd gennyf fi, er enghraifft. Onid ydych yn cytuno bod yr awdurdod Llafur yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r Llywodraeth Lafur wedi cymryd camau i fonitro ansawdd aer ym Mhort Talbot er mwyn sicrhau bod cynllun ar waith i ni allu sicrhau bod hwnnw’n gostwng, a bod hynny’n...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw?
David Rees: Rwy’n amddiffyn yr aer drwg yn yr ystyr fod yna nifer fechan iawn o achlysuron pan fydd y gwynt yn chwythu i gyfeiriad Abertawe; daw’n bennaf oddi ar yr arfordir i Bort Talbot.
David Rees: Diolch, Lywydd—Ddirprwy Lywydd, mae’n ddrwg gennyf. Rwy’n croesawu’r cyfle i siarad yn y ddadl heddiw. Gall llygredd aer niweidio ein hiechyd yn fawr iawn, fel y crybwyllodd nifer o’r siaradwyr eisoes. Mae’n gysylltiedig ag amrywiaeth eang o gyflyrau anadlol a llidiol, wrth i ronynnau, gan gynnwys sylffadau, nitradau a charbon du, dreiddio i’r system gardiofasgwlaidd. Mae’n...
David Rees: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. 9.5 ar raddfa o 10 ydyw, rwy’n meddwl. Ceir graddfa a ddyrennir, ac mae’n 9.5 ar y raddfa honno. Felly, dyna’r gwerth uchaf.
David Rees: Eilio.
David Rees: A gaf i wneud ymyriad? Rydych newydd amlygu’r posibilrwydd o roi tariffau ar ddur a fewnforir i'r DU. Bydd hynny’n amlwg yn rhoi tariffau ar allforio dur o'r DU o ganlyniad. Gan fod dros 50 y cant o'r dur ym Mhort Talbot mewn gwirionedd yn mynd i'r UE, a ydych chi felly yn cau Port Talbot drwy gyflwyno tariffau o'r fath?
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar ddur?
David Rees: Ar ddur.
David Rees: Mae addasu gwasanaethau ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio sy’n cynyddu yn ei maint, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig, yn un o’r heriau allweddol sy’n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein poblogaeth yn tyfu’n raddol, ond mae hefyd yn heneiddio’n raddol. Mae ystadegau diweddar gan Gydffederasiwn y GIG yn dangos y bydd nifer y boblogaeth ar draws y DU sydd dros 65 oed...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o brosiectau adfywio cymunedol yn fy etholaeth wedi cael eu cefnogi gan gyllid yr UE, o Lansawel a Sandfields i ddyffryn Afan. Maent yn amrywio o gynorthwyo pobl yn ôl i waith i adeiladu canolfannau ar gyfer gweithgareddau cymunedol. Mae’r rhain wedi bod yn hanfodol i gryfhau’r cymunedau hynny. Fodd bynnag, mae llawer yn awr yn wynebu heriau pellach o...
David Rees: Yn dilyn y cwestiwn hwnnw, mae’n amlwg fod yr ansawdd aer ym Mhort Talbot, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi cael sylw fel un o’r gwaethaf yng Nghymru. Yn wir, dywedodd adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd a gyhoeddwyd yn ddiweddar mai dyna’r ansawdd aer gwaethaf yn y DU mewn perthynas â rhai gronynnau, ac yn sicr mae’n un o’r rhai gwaethaf yn y DU. Rwy’n deall y problemau sydd gennym....
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r strategaeth hinsawdd hefyd yn gosod targedau ar gyfer gwella defnydd effeithlon o ynni yn ein cartrefi. Mae rhan o’r dull o gyflawni hyn yn cynnwys rhoi cladin allanol ar rai o’r adeiladau sy’n cael eu defnyddio’n eang, ond hefyd ar stoc a adeiladwyd cyn 1919, sy’n adeiladau bloc solet neu waliau solet yn bennaf. Mae’r cladin allanol yn ei gwneud...