Adam Price: Gaf i, wrth ddechrau, gywiro un peth a awgrymwyd ddoe, Brif Weinidog, sef bod yna unrhyw gymhelliant gwrth-Seisnig mewn codi'r mater yma? Gallaf ddweud hynny gyda chryn sicrwydd, gan fy mod i yn fab i Saesnes. Mae e nid yn unig yn sarhaus i fi, fy nheulu ac i'm plaid i i awgrymu bod yna agweddau gwrth-Seisnig ynghlwm yn fan hyn, ond mae hefyd yn celu'r gwir reswm, wrth gwrs, dros ei godi fe,...
Adam Price: A yw'r Gweinidog yn ymwybodol bod agweddau o'r polisi Un Blaned wedi creu peth drwgdeimlad mewn ardaloedd gwledig, ac yw hi'n agored i ystyried galwadau gan gynghorau fel Cyngor Sir Gâr i adolygu'r polisi? Yn benodol, a yw'r Gweinidog yn credu ei bod hi'n deg bod rhaid i ymgeiswyr ar gyfer anheddau menter gwledig—rural enterprise dwellings—brofi dilysrwydd o ran bod y datblygiadau yn...
Adam Price: Mae SWTRA a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi gohebu gyda chyngor cymuned Llanegwad, ond y broblem yw bod yna wahaniaeth barn rhyngddyn nhw ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Yn benodol, mae SWTRA wedi argymell system i gasglu malurion ymhellach lan yr afon ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu hynny. Felly, y cwestiwn mae cyngor Llanegwad a finnau yn gofyn, yn naturiol, yw pa un o'r asiantaethau...
Adam Price: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y llifogydd diweddar yn ardal Pontargothi? OQ55692
Adam Price: 4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y polisi datblygiadau Un Blaned? OQ55693
Adam Price: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn y newyddion diweddaraf fod Prif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod cais pellach a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar 13 Hydref mewn perthynas â chyfyngiadau teithio? TQ494
Adam Price: Un maes lle mae angen gweithredu cyflym a phendant arnom ni yw teithio o ardaloedd lle ceir haint uchel yr ydych chi eisoes wedi cyfeirio ato. Dyma'r bedwaredd wythnos yn olynol i mi dynnu sylw at wiriondeb pobl mewn ardaloedd lle ceir cyfraddau COVID uchel yn Lloegr yn cael teithio i rannau o Gymru. Ddoe, cadarnhaodd y Gweinidog iechyd, am y tro cyntaf, bod achosion coronafeirws wedi cael eu...
Adam Price: Gadewch i ni edrych ar y dystiolaeth gan y gell cynghori technegol y cyfeiriasoch ato, Prif Weinidog. Ar 18 Medi, dywedodd: Efallai y bydd angen pecyn o ymyraethau nad ydynt yn rhai fferyllol... ar raddfa leol a chenedlaethol i ddod ag R yn ôl o dan 1...mae ymateb cynharach a mwy cynhwysfawr yn debygol o leihau'r amser y bydd eu hangen. Ailadroddodd hynny yn ei adroddiad nesaf ar 25 Medi,...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Dair wythnos yn ôl, dywedodd y Grŵp Cynghori Strategol ar Argyfyngau, SAGE, ei bod yn debygol y byddai angen cyfuniad o ymyraethau i ddod ag R ar gyfer coronafeirws yn is nag 1. Ymhlith y mesurau y dywedodd y dylid ystyried eu cyflwyno ar unwaith oedd dangosydd sbarduno cyfyngiadau, cyfnod byr o gyfyngiadau symud, i ddychwelyd nifer yr achosion i lefelau isel; cau pob bar,...
Adam Price: Rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog nad yw cyfres fyrdymor o bolisïau yn gallu cymryd lle strategaeth hirdymor, mewn gwirionedd. Ond mae adroddiad y gell gynghori dechnegol, sydd newydd gael ei gyhoeddi, a dweud y gwir, o fewn yr awr ddiwethaf, yn ddeunydd darllen difrifol iawn. Mae'r gyfradd R y mae'n ei dyfynnu nawr ar gyfer Cymru rhwng 1.3 ac 1.6, ac mae hynny'n gwrthgyferbynnu â dechrau mis...
Adam Price: Mae Llywodraeth yr Alban, Prif Weinidog, wedi cadarnhau y bydd yn cyflwyno cyfyngiadau llawer tynnach yn y dyddiau nesaf. Rydych chi eich hunan wedi cael cyngor gan y gell gynghori dechnegol yn dweud mai'r cynharach y bydd mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno, y mwyaf effeithiol y byddan nhw. Gallai'r math o fesurau ychwanegol y gallem ni fod yn sôn amdanyn nhw yn ein cyd-destun ni, er...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Ddydd Llun, Prif Weinidog, adroddwyd bod 596 o achosion COVID cadarnhaol newydd wedi'u nodi yng Nghymru yn dilyn prawf labordy—y ffigur uchaf, rwy'n credu, ers i'r pandemig ddechrau ac mae SAGE wedi dweud ei bod yn debygol bod achosion yn gyffredinol yng Nghymru yn cynyddu rhwng 1 y cant a 5 y cant bob dydd. Dros y pythefnos diwethaf, rwyf i wedi codi gyda chi y gwiriondeb...
Adam Price: Yn amlwg, fel y clywsom yn y ddadl, y sbardun ar gyfer y drafodaeth ar incwm sylfaenol cyffredinol yw'r don enfawr o newid technolegol sy'n datblygu o flaen ein llygaid. Mae yna ddadl economaidd ynglŷn ag i ba raddau y bydd awtomatiaeth, deallusrwydd artiffisial a thechnolegau cysylltiedig yn creu diweithdra technolegol torfol yn barhaol. Mae yna economegwyr difrifol sy'n credu bod yr hyn...
Adam Price: Ar 4 Medi, Prif Weinidog, rhybuddiodd SAGE bod risg sylweddol y gallai addysg uwch chwyddo trosglwyddiad COVID-19 yn lleol ac yn genedlaethol. Dywedasant fod angen trosolwg cenedlaethol o'r risg, ac unwaith eto, nodwyd ganddyn nhw bod profi yn hollbwysig. Ar 15 Gorffennaf, dywedasoch chi, 'Heddiw gallwn gynnal 15,000 o brofion y dydd.' Ddydd Sul, dywedasoch, 'nid yw 15,000 yn darged...
Adam Price: Prif Weinidog, mae'r haf wedi bod yn gyfnod pryderus iawn i bobl ifanc, fel y gwyddoch. O ganlyniad i'r llanast Safon Uwch, gadawyd llawer ohonyn nhw ddim yn gwybod a oedden nhw'n mynd i'r brifysgol o gwbl, heb sôn am ba un. Ar ôl cyrraedd y campws yr wythnos diwethaf, y pryder nawr fydd a fyddan nhw'n cael dychwelyd adref ar gyfer y Nadolig. Mae myfyrwyr fel Meg, myfyriwr y gyfraith...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Bydd llawer ohonom ni wedi cael ein synnu a'n dychryn braidd gan y golygfeydd o ben yr Wyddfa dros y penwythnos, gyda chiwiau hir o bobl yn ceisio cyrraedd y copa gan ddiystyru yn llwyr, mae'n ymddangos, canllawiau cadw pellter cymdeithasol, ond mae'n codi mater ehangach wrth gwrs. Bydd llawer o'r rhain wedi bod yn ymwelwyr ac nid oes dim wedi'i nodi yn y canllawiau ar hyn o...
Adam Price: Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i drafod y mesurau ar gyfer Cymru gyfan a gyhoeddwyd ddoe gan y Prif Weinidog. Fodd bynnag, hoffwn innau gofnodi pa mor annerbyniol yw’r ffaith na chawsom gyfle i wneud hyn ddoe. Mae'r Senedd wedi cael ei gwthio i'r cyrion dro ar ôl tro o blaid llywodraethu drwy friffiau i'r wasg. Nid oedd yn wir, fel y dywedwyd wrthych, Lywydd, na allem drafod hyn neithiwr gan...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Yn ystod ein trafodion ni heddiw, roedd nifer o Aelodau o ran y gwrthbleidiau ac hefyd ar ochr y Llywodraeth wedi gofyn am ddatganiad gan y Prif Weinidog i'r Senedd os oes yna unrhyw fwriad i gyflwyno unrhyw newidiadau polisi ynglŷn â choronafeirws a'r cyfyngiadau heddiw. Rŷn ni’n cael ar ddeall bod yna'n dal cyhoeddiad yn mynd i fod. Ydych chi wedi cael cyfathrebiad gan...
Adam Price: Ie, a dyna fydd testun datganiad llawn yn ddiweddarach y prynhawn yma, Prif Weinidog—
Adam Price: Yn gryno iawn ar gydnerthedd a phrofion—gwn ein bod ni wedi siarad am hyn o'r blaen—o ran y labordai goleudy, mae'n amlwg bod cynyddu ein capasiti ein hunain yn gwbl hanfodol. Ceir arbrawf diddorol yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, lle maen nhw i bob pwrpas wedi cymryd labordy goleudy i berchnogaeth gyhoeddus, mae'n debyg y byddech chi'n ei alw, a hefyd maen nhw'n ei dargedu at awdurdodau...