Huw Irranca-Davies: Hoffwn agor fy sylwadau drwy wneud rhai sylwadau cyffredinol iawn am ein profiadau o adrodd ar y memoranda hyn mewn perthynas â chylch gwaith ein pwyllgor. Bu'r Gweinidog yn myfyrio yn ei sylwadau agoriadol ar gymhlethdod y broses o gyflwyno Bil y DU hwn. Cytunwn â hynny. Nodwn hefyd o sylwadau'r Gweinidog y gellid gwneud mwy o welliannau mewn rhai meysydd, gan ychwanegu ymhellach at...
Huw Irranca-Davies: Diolch eto, Llywydd. Rydym wedi cyhoeddi tri adroddiad ar y pedwar memorandwm a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r Cwnsler Cyffredinol, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn croesawu'r datganiad heddiw. Mae mewn maes polisi pwysig iawn. Mae'n bleser hefyd dilyn sylwadau fy nghyd-Aelodau yn y pwyllgor, Rhys ab Owen ac Alun Davies, sy'n wybodus iawn ac, yn achos Rhys, â gwybodaeth broffesiynol hefyd. Mae'n faes y mae'n gwybod ein bod yn cymryd diddordeb...
Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, rwy'n falch o weld y cwestiwn hwn, ac, yn sicr, mae'r grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol wedi sefydlu panel arbenigol i helpu i hysbysu'r Llywodraeth am safbwyntiau rhanddeiliaid o ran yr adolygiad hefyd. Ond a gaf i ddiolch i'r Llywodraeth am ei hymgysylltiad ar yr agenda hon? Maen nhw wedi ei gwthio i fyny'r agenda yn wirioneddol. Mae'r buddsoddiad wedi cynyddu yn...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw.
Huw Irranca-Davies: Mae'n rhaid imi ddweud bod yn rhaid inni ganmol yr holl bobl yn y Comisiwn sydd wedi llwyddo i addasu'n gyflym iawn i symud gwasanaethau a darpariaeth ar-lein fel y gallwn ymgysylltu yn y ffordd rydym wedi'i gweld, ac yn enwedig, mae'n rhaid imi ddweud, gwaith yr adran allgymorth addysg, sydd ar wahân i'n pwyllgorau a phopeth arall, ac sydd wedi gwneud cymaint i gadw cysylltiad â'n...
Huw Irranca-Davies: Cwestiwn atodol syml, Gwnsler Cyffredinol. Wrth aros am ymateb gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol, tybed ar ba sail y mae’n disgwyl i'r ymgysylltiad rhwng Llywodraeth y DU a Gweinidogion Llywodraeth Cymru fel ef ei hun, y Cwnsler Cyffredinol, gael ei gynnal. A ddylai fod ar sail parch a dealltwriaeth o gymwyseddau gweinyddiaethau datganoledig? A oes ganddo unrhyw syniadau eraill ynglŷn â'r...
Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac fe fydd yn gwybod ein bod, yn ystod y pandemig, wedi gweld newid go iawn i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein i ganiatáu i bobl gael mynediad at gyfiawnder ledled Cymru. Mae'n fater o anghenraid, ac mae wedi darparu rhai cyfleoedd. Hebddo, byddai llawer mwy o bobl yn cael eu heffeithio gan yr oedi a'r ôl-groniadau a welwn. Ond mae'n rhaid...
Huw Irranca-Davies: Weinidog, fel y dywedwch, mae llawer o'n hetholwyr ledled Cymru bellach yn profi argyfwng costau byw o ddydd i ddydd. Maent yn gwneud dewisiadau—gwirioneddol—rhwng gwresogi a bwyta, naill ai bwydo eu hunain neu fwydo'r mesuryddion rhagdalu. Rydym wedi gweld effeithiau COVID-19 ac ôl-Brexit ar gadwyni cyflenwi; rydym wedi gweld oedi wrth gludo nwyddau; ffatrïoedd yn cau neu arafu...
Huw Irranca-Davies: 3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiau cynllun cymorth tanwydd y gaeaf Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol? OQ57406
Huw Irranca-Davies: 4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith technoleg ddigidol ar fynediad i gyfiawnder yng Nghymru? OQ57410
Huw Irranca-Davies: 8. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill y DU mewn perthynas ag adolygiad Llywodraeth y DU o gyfraith yr UE a ddargedwir? OQ57407
Huw Irranca-Davies: 1. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith COVID-19 ar weithgareddau ymgysylltu'r Senedd a'i phwyllgorau? OQ57408
Huw Irranca-Davies: Rhoddodd ein hadroddiad cyntaf ni, y gwnaethom ni ei osod gerbron y Senedd fis Tachwedd diwethaf, grynodeb o'n hystyriaeth ni o femorandwm gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar y Bil, yn ogystal â memorandwm Rhif 2. Nawr, yn yr adroddiad hwnnw, daethom ni i nifer o gasgliadau a oedd yn llywio'r argymhellion a wnaethom ni wedyn i'r Gweinidog. Hyd yma, rydym ni'n dal i aros am ymateb ffurfiol i'r...
Huw Irranca-Davies: Diolch eto, Llywydd. Rydym wedi llunio dau adroddiad sy'n cwmpasu'r tri memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar y Bil hwn. Gobeithiaf eu bod wedi bod o gymorth i'r Gweinidog wrth iddo barhau i lywio trafodaethau rhynglywodraethol ar y Bil, yn ogystal ag i'r Aelodau sy'n cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma.
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, diolch yn fawr i chi am y sicrwydd hwnnw. Nid wyf i'n siarad fel Cadeirydd y pwyllgor yn y fan yma, rwy'n siarad fel aelod ufudd o'r meinciau cefn, ond mae llawer ohonom ni'n aelodau undeb ac wedi bod ers ein dyddiau cynharaf yno. Rwy'n croesawu'r sicrwydd y mae hi newydd ei roi mewn ymateb i'r cwestiwn gan Rhun am drafodaethau, ond hefyd y pwyslais ar gyflogwyr yma, sy'n bwysig yn...
Huw Irranca-Davies: 'asesiadau effaith cryno wedi'u cyhoeddi yn flaenorol sy’n cynnwys effeithiau sy’n ymwneud â gorchuddion wyneb.' Fodd bynnag, ni chyfeirir at asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb sy'n ymwneud â newidiadau i reoliadau sy'n eithrio imiwnedd naturiol fel ffordd o ddangos statws COVID-19 at ddibenion y pas COVID. Nawr, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau y bydd asesiad effaith...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd, a diolch, Gweinidog, hefyd. Ystyriwyd y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddoe, a gosodwyd ein hadroddiadau i'r Senedd sy’n cynnwys pwyntiau adrodd ar y rhinweddau ar gyfer pob un o'r rheoliadau hyn yn syth wedyn.
Huw Irranca-Davies: Nawr, weithiau, rwy'n ymwybodol bod cydweithwyr weithiau'n gweld ein harsylwadau ychydig yn sych wrth i ni geisio taflu goleuni, yn hytrach na gwres, ond byddwch yn amyneddgar, gan ein bod yn gobeithio y bydd ein sylwadau'n helpu'r Senedd hon yn ei gwaith craffu ac yn helpu'r Llywodraeth drwy wella'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau a'r esboniadau a ddaw yn ei sgil. Nawr, mae ein hadroddiadau ar...
Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, diolch ichi am yr ateb yna. Byddwch chi'n gwybod mai dyma un o'r prif addewidion ym maniffesto Llafur Cymru, a enillodd gefnogaeth mor gryf gan bobl Cymru y llynedd. Roedd yn cynnwys bargen deg ar gyfer gofal, gyda'r cyflog byw gwirioneddol i ofalwyr; gwlad wyrddach, gan gynnwys coedwig genedlaethol i Gymru; cymunedau mwy diogel, gyda 500 yn fwy o Swyddogion Cymorth Cymunedol,...