Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn enw Caroline Jones. Mae'r pwynt bwled cyntaf yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol. Nawr, buaswn wedi meddwl nad oedd hyn yn rhywbeth yr oedd angen ei ddatgan. Gwn fod gan Blaid Cymru farn wahanol, wrth gwrs, ond cyn imi gael fy ethol i'r lle hwn, roeddwn wedi derbyn maniffestos a safbwyntiau...
Mark Reckless: Gallant. Ac yn amlwg, mae gennym ein rhaglenni cyfalaf a rhai lle y ceir capasiti benthyca, ond mae mwy o gylchoedd y mae'n rhaid inni neidio drwyddynt na Llywodraeth y DU er mwyn defnyddio'r rheini. Ond ni fydd cyfran mor fawr o'n hincwm yn dod o'r grant bloc yn y dyfodol ac felly nid yw'r ffaith bod y grant bloc hwnnw'n cael ei bennu am y flwyddyn i ddod yn unig yn ddadl mor gref ag y...
Mark Reckless: Mae'r Pwyllgor Cyllid yn gweithio'n galed i ymgysylltu â rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach fel rhan o'i broses o graffu ar y gyllideb. Serch hynny, yn ystod fy aelodaeth ysbeidiol o'r Pwyllgor Cyllid, rwyf wedi canfod rhywfaint o ddiffyg cysylltiad rhwng ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ac eraill a phroses y gyllideb. Ac rwy'n credu ei bod yn her wirioneddol i ymgysylltu â phobl...
Mark Reckless: A wnaiff y Llywydd ildio?
Mark Reckless: Rydych yn dweud eich bod yn teimlo dyletswydd i wthio am yr hawl i garcharorion bleidleisio, ond onid yw hynny'n ei danddatgan mewn gwirionedd? Onid ydych o dan rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny, wrth siarad ar ran y Comisiwn, yn yr un ffordd ag y byddai Jeremy Miles ar ran Llywodraeth Cymru? Fel cyrff cyhoeddus, mae'r gyfraith yn mynnu eich bod yn ystyried dyfarniadau Siarter Hawliau...
Mark Reckless: Chwe deg y cant.
Mark Reckless: A gaf i longyfarch Llywodraeth Cymru am yr hyn y mae'n ei wneud gyda'r cynnig gofal plant? Rwyf wedi gwneud rhai sylwadau eithaf cryf am feysydd megis parchu canlyniad y refferendwm neu adeiladu ffordd liniaru i'r M4, lle nad yw'r Baid Lafur wedi dilyn ei maniffesto, ond o ran hyn rydych chi wedi—yn wir, cyflawni hyn flwyddyn yn gynnar. Rwy'n eich llongyfarch ar hynny. Sylwais hefyd fod y...
Mark Reckless: O gofio bod y Prif Weinidog wedi derbyn fy nghywiriad ar nifer barnwyr y Goruchaf Lys, rwy'n derbyn ei gywiriad daearyddol gyda'r un ewyllys da. A gaf i ei holi am wahaniaeth posibl arall rhwng polisi'r DU a pholisi Cymru? Yn ei gynhadledd heddiw, mae'n ymddangos bod symudiad mawr i newid polisi newid yn yr hinsawdd a chael polisi o sero net erbyn 2030—dim ond 11 mlynedd i ffwrdd yw hynny....
Mark Reckless: Edrychais ar sianel y senedd ar y teledu fore Sul, a mwynheais wrando ar araith y Prif Weinidog yn Bournemouth. Dim ond ar ôl gwrando ar ychydig mwy o'r gynhadledd Lafur y deuthum i weld ei gyfraniad fel uchafbwynt. Ond a gaf i ofyn iddo, er hynny—? Methodd yn ei ymdrechion i berswadio cyd-Aelodau i dorri eu haddewid i barchu canlyniad y refferendwm drwy ymgyrchu dros 'aros' nawr. Mae'n...
Mark Reckless: Mae'r Prif Weinidog yn ceryddu arweinydd yr wrthblaid ynghylch parch at reolaeth y gyfraith, ond rwy'n cofio, yr wythnos diwethaf, yr hyn a ddywedodd ef a'i Gwnsler Cyffredinol am ddyfarniad rhwymol yr Uchel Lys ar y pryd yn ein hawdurdodaeth ni, a phenderfynasant y byddai'n well ganddynt dderbyn dyfarniad y llys o awdurdodaeth arall. Yr hyn y byddwn yn ei ofyn i'r Aelodau ei...
Mark Reckless: Mae Rhianon Passmore hefyd yn ceisio ymyrryd, felly os caf ymdrin â'r pwynt a wnaeth hi hefyd yn gynharach, oherwydd ei fod yr un mor berthnasol—gofynnodd i un o fy nghyd-Aelodau, 'A yw Plaid Brexit bellach yn derbyn bod cysylltiad agos iawn rhwng problemau ansawdd aer a newid yn yr hinsawdd?' Ydym, rydym yn derbyn hynny. Ac un ffordd allweddol y maent wedi'u cysylltu'n agos yw polisi...
Mark Reckless: Rwyf bob amser—wel, ers imi astudio'r pwnc, ers i Margaret Thatcher roi hyn ar yr agenda am y tro cyntaf drwy siarad â'r Cenhedloedd Unedig am yr hyn a allai fod yn digwydd gyda'r hinsawdd—[Torri ar draws.] Fy marn i, byth ers i mi ddechrau edrych ar y mater hwn 20 neu 30 mlynedd yn ôl, yw ei bod hi'n debygol fod gweithgarwch dynol yn cynyddu'r hinsawdd. Yr hyn a gwestiynais yw beth y...
Mark Reckless: Mae'r wlad hon wedi lleihau allyriadau carbon deuocsid fwy na bron unrhyw wlad yn y byd. Gostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau carbon deuocsid ers 1990. Rydym wedi lleihau lefelau ein hallyriadau nid i rai'r 1980au ond i rai'r 1880au. Ble mae'r gydnabyddiaeth i hynny?
Mark Reckless: Cefais fy synnu wrth gael e-bost o un o ysgolion fy mhlant yn gynharach yn dweud, 'Rydym yn fodlon awdurdodi absenoldeb i unrhyw fyfyrwyr. Rhowch wybod i ni os bydd eich plentyn yn absennol o ganlyniad i gymryd rhan yn y streic.' Cefais fy synnu'n arbennig gan fod y plentyn dan sylw yn ddwyflwydd oed. Ond rwy'n gwrthwynebu'r streiciau hyn; nid wyf yn cefnogi streiciau yn gyffredinol. Rwy'n...
Mark Reckless: A gaf fi ofyn, Weinidog, a oes tystiolaeth rymus eto fod y parthau hyn yn llwyddo i leihau llygredd aer?
Mark Reckless: Carole Cadwalladr sydd wedi bod yn gyfrifol am rai o'r damcaniaethau cynllwyn mwyaf rhyfeddol sy'n ymwneud â refferendwm yr UE. Fe ffoniodd hi fi am y tro cyntaf oddeutu tair blynedd yn ôl ynglŷn â hyn, roedd yn ymwneud â Rwsia a gweithwyr Putin yn cyflyru miliynau o bobl i gefnogi’r ymgyrch i adael drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Yn fwy diweddar, rwy'n credu mai ei honiad yw bod...
Mark Reckless: Ond os nad yw'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cael y dasg, hyd yn hyn o leiaf, gan Lywodraeth y DU o lunio rhagolygon ar gyfer y DU, sut y byddant yn llunio'r rhagolygon hynny ar gyfer Cymru? A oes ganddynt fodel o economi Cymru ar gyfer edrych ar Gymru ar ei phen ei hun, neu a fyddant yn llunio rhagolwg ar gyfer y DU, er na chawsant y dasg o wneud hynny gan Llywodraeth y DU, ac yna'n...
Mark Reckless: Weinidog, fe sonioch chi gryn dipyn am y grant bloc ar gyfer y flwyddyn nesaf a'r hyn a wyddom bellach yn dilyn yr adolygiad gwariant un flwyddyn. Ochr arall y refeniw y bydd modd i chi ei ddefnyddio i ariannu ymrwymiadau gwariant yng Nghymru yw'r refeniw o'r trethi datganoledig, a tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â'r rheini yn y gyllideb atodol. Er i ni gael hanner...
Mark Reckless: 1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y penderfyniad i ddewis Carole Cadwalladr fel siaradwraig Gŵyl y Gelli'r Cynulliad yng ngŵyl GWLAD—Gŵyl Cymru'r Dyfodol? OAQ54306
Mark Reckless: Rwy'n falch o glywed y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ei hamcangyfrif ei hun ar effaith economaidd ymadael 'dim cytundeb', gan fod y Gweinidog newydd fabwysiadu cyfeiriad David Rees at amcangyfrif Banc Lloegr—£1,000 sy'n dod o amcangyfrif o 5 y cant. Ac eto, cyfeiriodd ei gyd-Aelod gynnau, Rebecca Evans, at amcangyfrif o 10 y cant gan y Trysorlys, a arweiniodd at yr amcangyfrif hwn o...