John Griffiths: 8. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i leihau nifer y bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru? OAQ54400
John Griffiths: Rwy'n ddiolchgar am ymwneud Llywodraeth Cymru ac yn wir, wrth gwrs, yr ymgyrch gref gan yr undebau llafur ar ran y gweithlu a'r ymrwymiad a gafwyd na fydd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol ond adleoli, o bosibl, yng ngweithfeydd Tata yn Llanwern a Phort Talbot. Ond yr ymgyrch sylfaenol, wrth gwrs, yw cadw'r gwaith ar agor a buaswn yn ddiolchgar am rywfaint o wybodaeth am weithgareddau Llywodraeth...
John Griffiths: 1. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd ers cyhoeddi'r bwriad i gau gwaith dur Orb yng Nghasnewydd? 339
John Griffiths: Rwy'n credu bod y Llywodraeth wedi dweud y byddai pecyn o fesurau i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon, ac mae'n ymwneud â rhianta cadarnhaol a sicrhau y bydd y cyngor a'r cymorth a'r arweiniad ar gael i sicrhau'r rhianta cadarnhaol hwnnw, ac rwy'n credu y byddai hynny'n mynd i'r afael â'r materion hynny yr ydych chi'n eu codi hefyd. Mae dros 50 o wledydd, fe wyddom, eisoes wedi gwneud y newid hwn...
John Griffiths: Fe wnaf ildio i Darren Millar.
John Griffiths: Wel, rwyf i'n cefnogi'r Bil hwn yn llawn ac yn frwd, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd rhoi terfyn ar yr amddiffyniad o gosb resymol a darparu mwy o eglurder drwy sicrhau bod plant yn gydradd ag oedolion. Ac mae'n hen bryd hefyd o ran bod yn gyson â'n rhwymedigaethau rhyngwladol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac mae'n hen bryd rhoi mwy o...
John Griffiths: Tybed a allech roi gwybod i mi, Trefnydd, a yw Llywodraeth Cymru yn cynllunio dadl neu ddatganiad ar anghenion sgiliau Cymru yn fuan? Mae adroddiad i'w lansio yr wythnos nesaf gan ColegauCymru o'r enw 'Adeiladu Cymru Well—gwersi gan Ewrop', sy'n ymwneud ag anghenion sgiliau Cymru yn y dyfodol ac yn archwilio'r cysylltiad rhwng sgiliau lefel uwch a chydnerthedd economaidd rhanbarthol. Mae'n...
John Griffiths: Prif Weinidog, mae dur wedi cael ei wneud ar safle'r Orb yn Nwyrain Casnewydd ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn ystod y 120 o flynyddoedd hynny, mae'r gweithlu a'r cynhyrchu wedi newid ac addasu'n barhaus, ac mae buddsoddiad wedi ei wneud i fodloni'r galw sy'n esblygu am ddur. Ac rwy'n credu, o gofio'r hanes hwnnw, ei bod hi'n berffaith bosibl newid ac addasu ymhellach, gyda'r...
John Griffiths: Rydym wedi bod mewn argyfwng cenedlaethol, fel y mae llawer wedi'i ddisgrifio heddiw, ers rhyw dair blynedd bellach yn dilyn canlyniad y refferendwm a ffiasgo neu drychineb Brexit parhaus, ac mae pethau'n cyrraedd penllanw yn awr mae'n debyg, gydag arweinwyr newydd ar lefel Llywodraeth y DU yn gogwyddo llawer mwy tuag at adael heb gytundeb, gyda'r holl ddifrod y byddai hynny'n ei achosi....
John Griffiths: Ydw yn awr. Y ddwy frawddeg olaf, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr. Hoffwn gloi drwy ddweud nad dyma ddiwedd y gwaith hwn. Yn amlwg, byddwn yn parhau i fynd ar drywydd y materion hyn wrth i ni graffu ar y gyllideb ac yn wir yn ein gwaith craffu mwy cyffredinol ar bolisi. Mae asesu effaith yn ystyrlon yn hanfodol ar gyfer datblygu polisïau a phenderfyniadau cyllidebol effeithiol. Diolch yn fawr.
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy adleisio'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am y dull newydd hwn o graffu ar y gyllideb, a'i fod yn fodel, efallai, ar gyfer gwaith yn y dyfodol, ac rwy'n synhwyro fy mod yn siŵr y bydd pwyllgorau eraill am fwrw golwg gofalus arno. Rwy'n credu ei bod yn adeiladol iawn i dri...
John Griffiths: Yn ddiweddar, roeddwn mewn agoriad gardd gymunedol ar Wharf Road yng Nghasnewydd, Weinidog, ac roedd yn enghraifft wych, yn fy marn i, o sut rydych yn troi tir diffaith yn ardal gyda blodau a llwyni a phlanhigion yn gyffredinol sy'n gyfraniad gwerthfawr. Ond yr hyn roeddwn am ofyn amdano mewn gwirionedd oedd: a fyddech yn cytuno â mi, lle mae gennym ardaloedd o dir sy'n bwysig iawn i...
John Griffiths: Prif Weinidog, mae digartrefedd a chysgu ar y stryd yn broblemau mawr, ac yn amlwg mae llawer o flynyddoedd o gyni cyllidol Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi cael effaith ddifrifol ar ein gwasanaethau cyhoeddus ac ar bobl agored i niwed yn ein cymunedau. Ac mae'n effaith gyfunol o flwyddyn i flwyddyn, felly, wrth geisio gwrthsefyll hynny, rwy'n credu bod polisi Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru...
John Griffiths: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi tai Llywodraeth Cymru? OAQ54246
John Griffiths: Ar ddydd Sadwrn, 6 Gorffennaf, bydd Gŵyl Maendy yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd. Mae'n ddigwyddiad pwysig ac yn un o uchafbwyntiau'r haf a bywyd diwylliannol yn fy etholaeth. Sefydlwyd cymdeithas yr ŵyl yn 1997 ac mae wedi trefnu a chodi arian ar gyfer digwyddiadau blynyddol ers hynny. Mae'n dechrau gyda gorymdaith ysblennydd lle mae pawb yn gwisgo i fyny ac yn ymuno â'r ffigyrau...
John Griffiths: Nid oes gennyf gwestiwn atodol ar hyn, Lywydd.
John Griffiths: Weinidog, un mater pwysig y mae'n rhaid inni wneud cynnydd pellach arno yw nifer y rhai sy'n smygu yng Nghymru. Diolch byth, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol, ond fel arfer, mae mwy o waith i'w wneud, ac mae'n arbennig o berthnasol, rwy'n credu, i rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Dangosodd yr arolwg diweddar o iechyd a lles myfyrwyr yng Nghymru fod 9 y cant o ddisgyblion ysgol...
John Griffiths: 4. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru? OAQ54163
John Griffiths: Diolch, Llywydd. Dim ond i groesawu'n fawr y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ac ailddatgan yr hyn a ddywedodd y pwyllgor yn ei adroddiad, rydym yn credu mai'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yw'r ffordd briodol o fwrw ymlaen â'r mesurau hyn fel y maent yn berthnasol i Gymru. Ac a gaf fi ddweud, fel Cadeirydd, Llywydd, fy mod i'n croesawu'n fawr y gallu i gynnwys y cwestiynau hynny ar...
John Griffiths: Gwnaf.