Lesley Griffiths: Diolch. Unwaith eto, os caf fynd yn ôl at eich ail gwestiwn, rwy'n credu bod nifer y carboniaduron sydd ar gael yn broblem wrth inni geisio canfod faint o garbon sy'n cael ei storio. Un o'r pethau y gofynnais i swyddogion edrych arno yw a allwn ddefnyddio un yn unig, fel bod pawb yn gwybod ar beth y maent yn edrych a sut i'w ddefnyddio. Yn sicr, rwy'n credu y gallwn ei gael i lawr i ffigurau...
Lesley Griffiths: Cyn i mi ateb eich ail gwestiwn, fe af yn ôl i'r cwestiwn cyntaf am y grŵp rhyngweinidogol. Rwyf bob amser yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn dilyn y grŵp rhyngweinidogol, felly bydd yr Aelod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â hynny. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach ein bod yn gwybod bod ffermwyr eisoes yn darparu cymaint o ganlyniadau...
Lesley Griffiths: Wel, gallaf sicrhau'r Aelod nad oherwydd pwysau ganddo ef y gwneuthum y penderfyniad ddydd Gwener diwethaf i'w gwneud yn orfodol i gadw adar dan do; deilliodd hynny o dystiolaeth wyddonol yn unig a'r cyngor a gefais gan y prif swyddog milfeddygol. Yn amlwg, cafodd y pedwar prif swyddog milfeddygol yr un cyngor. Mae sut y caiff ei ddehongli, felly, gan Weinidogion yn amlwg yn fater i bob...
Lesley Griffiths: Rydych chi'n hollol iawn—yn sicr fe welsom gynnydd sylweddol yn nifer yr aelwydydd a gafodd anifail anwes yn ystod y pandemig COVID-19. Ac wrth inni gefnu ar y pandemig, a phobl yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod yn gweithio gartref efallai, pan gawsant eu hanifeiliaid anwes, fe welsom angen i ailgartrefu llawer o anifeiliaid. Yn anffodus, rwy'n meddwl bod yr argyfwng costau byw hefyd nawr...
Lesley Griffiths: Diolch. Fel y nodwyd gennych, mae gennym ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid yn y cynllun. Mae'n rhaglen bum mlynedd, ac rydym yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ar yr hyn y llwyddasom i'w gyflawni yn y flwyddyn gyntaf. Nid yw'n bosibl rhoi llinell amser i chi ar gyfer yr ymgynghoriad ar unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth les, na'r cod ymarfer, mewn perthynas â lles adar hela. Ac yn...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae cynnydd wedi'i wneud ar draws ein pedwar ymrwymiad lles anifeiliaid, ac mae gwaith parhaus yn digwydd yn ôl yr amserlen. Mae gwaith ehangach wedi'i wneud ar bolisi lles anifeiliaid, ac mae'r prosiect gorfodi ar gyfer awdurdodau lleol yn sbarduno newid sylweddol, a lansiwyd yr ymgynghoriad 12 wythnos ar deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai ar 14 Tachwedd.
Lesley Griffiths: Diolch i chi, ac fel y dywedais yn fy ateb cynharach, rydym yn sefydlu gweithgor tir comin ac rwyf am i'r gweithgor hwnnw archwilio pa gymorth a chyngor penodol y gallai fod eu hangen, yn ogystal â pha hyblygrwydd y gallai fod angen inni ei gynnig i gyfrif am y cymhlethdodau sy'n cael eu hachosi gan dir comin. Fel y byddwch yn gwybod, yng nghynigion amlinellol y cynllun ffermio cynaliadwy,...
Lesley Griffiths: Diolch i chi. Rwy'n credu ei fod yn gyfle un-tro a dyma'r tro cyntaf, yn amlwg, y gallasom gael y polisi yma sy'n benodol i Gymru, ac mae'n hynod bwysig ei fod yn gweithio i'n ffermwyr ni yma yng Nghymru ac i sicrhau ein bod ni'n cadw ffermwyr ar y tir a'n bod yn gwarchod y tirweddau gwych sydd gennym yma yng Nghymru. Fe fyddwch yn gwybod bod Bil amaethyddiaeth Cymru yn cynnwys pedwar amcan,...
Lesley Griffiths: Yn amlwg, rydym wedi gweld nifer digynsail o achosion o ffliw adar. Nid ydym wedi cael unrhyw seibiant o gwbl dros yr haf, cyfnod lle nad ydym yn gweld unrhyw glystyrau o achosion o gwbl fel arfer. Mae wedi bod gyda ni yn barhaus dros y tair blynedd diwethaf. Rydym yn dechrau cyfri'r achosion newydd o 1 Hydref bob blwyddyn, ac ers 1 Hydref 2022, rydym eisoes wedi cael tri chlwstwr o achosion...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'n hynod bwysig fod y cynllun ffermio cynaliadwy yn gweithio i bob ffermwr ar bob math o fferm ym mhob rhan o Gymru. Felly, rydym wedi sefydlu hanner dwsin o weithgorau i edrych ar feysydd penodol. Mae ffermwyr tenant yn un maes, ac mae ffermwyr tir comin yn un arall. Mae'r ddau fath yn rhannau pwysig iawn o'r sector amaethyddol yma yng Nghymru. Gwyddom fod tir comin yn bwysig ar...
Lesley Griffiths: Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn sefydlu pedwar amcan rheoli tir yn gynaliadwy fel y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer polisi amaethyddol yn y dyfodol. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn cynnwys camau a fydd yn helpu ffermwyr i wneud y defnydd gorau o'u hadnoddau a gwella cadernid eu ffermydd a'u busnesau.
Lesley Griffiths: Diolch yn fawr iawn, a diolch i'r ddau Aelod a gyfrannodd at y ddadl hon, ac rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ganiatáu i ni gael y ddadl hon heddiw drwy hwyluso'r adroddiad. Gofynnodd Mabon ap Gwynfor gwestiynau perthnasol iawn ynghylch y rheoliadau yr ydym yn eu cyflwyno heddiw. Un o'r cwestiynau a ofynnwyd gennych oedd ynghylch pam y...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n falch o ddod â'r rheoliadau hyn i'r Siambr y prynhawn yma. Byddent yn creu cynllun cymorth ariannol i gefnogi'r sector yng Nghymru o dan Ddeddf Pysgodfeydd y DU 2020. Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, rydym ni'n manteisio ar y cyfle i ddylunio cynllun buddsoddi yn benodol ar gyfer Cymru. Bwriad y cynllun yw darparu ystod eang o ddewisiadau polisi a chaniatáu'r hyblygrwydd i...
Lesley Griffiths: Ie, diolch i chi, ac, fel rwy'n dweud, fe roddais i'r ateb i Sam Kurtz y byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd gyflwyno datganiad ysgrifenedig. Efallai y byddai hynny'n well yn y flwyddyn newydd yn hytrach na chyn y Nadolig, ond yn sicr fe fyddaf i'n sicr yn gwneud hynny ar yr amser mwyaf manteisiol i wneud felly. Rwy'n deall eich pwynt chi'n llwyr ynglŷn â busnesau ynni-ddwys. Os...
Lesley Griffiths: Diolch i chi. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gydnabod y bydd nifer o fusnesau'r ardal yn wynebu ansicrwydd oherwydd bod y bont wedi cau. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod gyda phrif weithredwr a swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn. Mae'r awdurdod lleol—fel rydych chi'n ymwybodol, rwy'n siŵr—yn drafftio cynllun gweithredu ar gyfer cefnogi'r gymuned fusnes, ac rwy'n ymwybodol bod...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae Jane Dodds yn codi pwynt pwysig iawn, a byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog, ac mae'n debyg Gweinidog yr Economi, yn nodi'r rhesymau pam eu bod yn credu'i bod yn iawn mynd i'r gemau y gwnaethon nhw. Byddwch chi wedi gweld y datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog, a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon, yn nodi'r cyfarfodydd y cafodd a'r ffyrdd, yn sicr, y gwnaeth...
Lesley Griffiths: Wel, mae datblygu ETS y DU wedi bod yn ddarn o waith hir a chymhleth iawn, ac yn sicr, fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd gyflwyno datganiad—mae sgyrsiau, rwy'n gwybod, yn digwydd rhwng y ddwy Lywodraeth am hyn—ar yr adeg fwyaf priodol, efallai yn y flwyddyn newydd. Ond, fe wnaf ofyn iddi gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Lesley Griffiths: Diolch. Yn bersonol, nid ydw i'n ymwybodol o unrhyw sgyrsiau sydd wedi digwydd rhwng unrhyw un o fy nghydweithwyr gweinidogol a Llywodraeth y DU, ond yn sicr fe wnaf i ymholiadau ac fe wnaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod os oes sgyrsiau o'r fath wedi bod.
Lesley Griffiths: Rwy'n siŵr y gallem ni wneud hynny. Fel y gwyddoch chi, mae Gweinidog yr Economi yn Qatar ar hyn o bryd ac yn amlwg bydd yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig ar ôl dychwelyd yn nodi pa gyfarfodydd ac ati y bydd wedi'u cael tra yr oedd yn Qatar. Rwy'n gobeithio i Aelodau weld datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog yn dilyn ei ymweliad ef—rwy'n credu mai ddoe y cafodd hwnnw ei gyhoeddi....
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu ein bod ni'n cydnabod yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, bod yr heddlu weithiau'n treulio'n rhy hir gyda rhywun a ddylai fod yn cael defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl mewn gwirionedd, er enghraifft yn y ffordd yr ydych chi'n nodi. Rwy'n gwybod bod tipyn o waith yn cael ei wneud rhwng y byrddau iechyd a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl i sicrhau nad yw hynny'n...