Joyce Watson: Hoffwn i gofnodi'r diolch sydd arnom ni i gyd i'r sector gofal cymdeithasol, sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig. Maen nhw wedi rhoi o'u gorau o ran ymrwymiad ac, yn aml iawn, aberth i helpu pobl drwy gyfnod yn eu bywyd pan fo angen y gofal a'r cymorth hwnnw arnyn nhw, ac rwy'n siŵr nad oes neb yma a fyddai'n anghytuno â'r datganiad hwnnw. Gweinidog, mae'r Papur Gwyn...
Joyce Watson: Wel, mae prinder gyrwyr lorïau yn ganlyniad uniongyrchol i gynllunio gwael gan Lywodraeth Brexit Dorïaidd y DU. Mae cwmni cludo nwyddau mawr o Gymru yn fy rhanbarth i wedi colli 50 o yrwyr a oedd yn ddinasyddion yr UE gan nad oedden nhw'n bodloni meini prawf newydd y DU ar gyfer fisâu gweithwyr medrus. Er ein bod ni'n gwybod bod gyrwyr lorïau fwy nag erioed yn weithwyr allweddol, gan...
Joyce Watson: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r prinder sgiliau yn y diwydiant cludo nwyddau? OQ56736
Joyce Watson: Hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad. Mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gynnal cydraddoldeb, ac efallai eich bod yn gwybod bod Comisiwn y Senedd wedi bod yn falch erioed o fod yn sefydliad enghreifftiol o ran cynhwysiant LHDTC+. Rydym wedi gweithio, ac yn parhau i weithio, gyda'r rhwydwaith LHDTC+, Stonewall Cymru a phartneriaid eraill i ddod yn gyflogwr mwy...
Joyce Watson: Diolch. Rwyf i'n adnabod ysgol Cosheston yn dda; fe es i yno. Ond mae gen i gof hirach na'r Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Fel cynghorydd sir Benfro o 1995 ymlaen, gwelais effaith drawsnewidiol buddsoddiad digynsail yn ein hysgolion gan Lywodraethau Cymru olynol. A heddiw, er gwaethaf dros ddegawd o doriadau gan y Torïaid i gyllidebau Cymru, rwy'n credu fy mod i'n iawn wrth...
Joyce Watson: Bum mlynedd yn ôl, o drwch blewyn pleidleisiodd mwyafrif o bobl a fwriodd bleidlais yng Nghymru a'r DU gyfan i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym wedi gadael. Mae hynny'n iawn, a dyna'r canlyniad democrataidd. Ond mae democratiaeth yn gymhleth, nid gordd mohoni. Yn ogystal â phenderfyniad mwyafrifol, mae'n ymwneud â phlwraliaeth, goddefgarwch a dod o hyd i dir cyffredin, sy'n un o'r...
Joyce Watson: Mae'n peri pryder imi, fel pawb yma, pan fydd ffermydd yn cael achosion o TB. Gwyddom ei fod yn greulon, yn drawmatig, ac yn glefyd rydym eisiau ei ddileu. Yr unig adeg rwyf wedi anghytuno gydag Aelodau o'r Senedd yw ar ddifa moch daear; mae llawer o foch daear wedi'u difa dros ddegawdau lawer, ac eto mae TB yn dal i fodoli. Fodd bynnag, Weinidog, rydym wedi gwneud cynnydd da a bu gostyngiad...
Joyce Watson: —diffyg amrywiaeth yng nghyrff llywodraethu chwaraeon mwy Cymru. Iawn. Datgelodd y ffigurau, o 765 o weithwyr, mai dim ond 19 oedd o'r cymunedau hynny. A ydych yn cytuno â mi, Gweinidog, ei bod yn rhaid inni, er mwyn i bethau newid, eu newid ar y bwrdd, a rhaid i ni arwain o'r brig?
Joyce Watson: Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a'r holl randdeiliaid, wrth gwrs, sy'n ymwneud â'r holl waith y maen nhw wedi'i wneud i ddatblygu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol drafft hwn. Mae'n sicr yn feiddgar, mae'n uchelgeisiol, a dyna sydd ei angen arnom i helpu i ddileu hiliaeth yma yng Nghymru. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn gynharach, Gweinidog, mae'n cwmpasu pob maes, ac ni allwn...
Joyce Watson: Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad am y gostyngiad sylweddol mewn euogfarnau am dreisio yng Nghymru. O'i gymharu â 2016-17, fe wnaeth yr euogfarnau am dreisio yn 2020 ostwng bron i ddwy ran o dair, o gofio mai dim ond 5 y cant oedd yn llwyddiannus yn y lle cyntaf. Mae hynny gyda llai nag un o bob 60 o achosion o dreisio yn cael eu cofnodi gan yr heddlu sy'n arwain at gyhuddo'r sawl sydd dan...
Joyce Watson: Bydd Paul Davies yn gwybod bod busnesau yng Nghymru wedi cael £400 miliwn yn fwy mewn cymorth coronafeirws nag y bydden nhw wedi ei gael pe byddai'r un busnesau hynny wedi bod yn Lloegr. Dyna y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gefnogi'r economi, ym Mhreseli Sir Benfro ac ym mhob cwr o Gymru. Ond, wrth edrych i'r dyfodol, Prif Weinidog—gwn eich bod wedi siarad am hyn yn eithaf manwl yr...
Joyce Watson: Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â'r gwaith o adfer coedwigoedd a'r pwyslais ar blannu mwy o goed, ac rwy'n cefnogi hynny. Ceir llawer iawn mwy o atebion ar sail natur sy'n llai hysbys efallai fel adfer tir mawn a chynefinoedd morwellt. Mae'r rheini wedi'u diraddio'n ddifrifol yn y blynyddoedd diwethaf, ond maent yr un mor bwysig ar gyfer lleihau...
Joyce Watson: Diolch, Lywydd. Rwyf wedi bod yn darllen y cynigion 'Adnewyddu a diwygio' y bore yma, Weinidog, ac rwyf hefyd wedi siarad ag athrawon, a byddwn yn dweud y bydd eich penderfyniad i gadw'r 1,800 o staff tiwtora amser llawn a recriwtiwyd yn gwneud byd o wahaniaeth eleni i ddisgyblion ac athrawon. Cafodd Llywodraeth flaenorol Cymru gydnabyddiaeth ryngwladol, wrth gwrs, a gan y Sefydliad Polisi...
Joyce Watson: Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r cynnig hwn. Mae'n rhoi cyfle cynnar i'r Senedd hon drafod pwnc hollbwysig, sef iechyd a dyfodol dyfrffyrdd ein gwlad. Mae'r cynnig yn gofyn inni nodi effaith andwyol polisi'r Llywodraeth ar amaethyddiaeth yng Nghymru. Rwy'n credu rywsut fod hynny'n chwerthinllyd gan blaid a fyddai'n troi cefn ar ffermwyr Cymru am gytundeb masnach rydd gydag...
Joyce Watson: Diolch ichi am eich ateb. Rydym bellach wedi brechu cyfran fwy o'n poblogaeth nag unrhyw wlad arall sydd â mwy nag 1 filiwn o bobl, ac mae'r llwyddiant eithriadol hwn yn golygu y gallai Cymru ddechrau brechu plant, tra'n aros am y dystiolaeth a'r cyngor rydych newydd eu crybwyll. Ond mae arwain y byd yn golygu na allwn ddilyn drwy esiampl, a bydd cynnig y brechlyn i blant yn her newydd. Un...
Joyce Watson: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion i roi'r brechlyn COVID-19 i blant? OQ56562
Joyce Watson: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i'r diwydiant twristiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Joyce Watson: Rydym ni'n gwybod bod tandaliadau o ran pensiwn y wladwriaeth i ryw 200,000 o fenywod priod wedi mynd ymlaen am dros 20 mlynedd, ac mae wedi effeithio yn arbennig ar fenywod a oedd â phensiwn y wladwriaeth gwael yn eu hawl eu hunain. Roedd ganddyn nhw hawl i hawlio 60 y cant o bensiwn y wladwriaeth yn seiliedig ar gyfraniadau pensiwn eu gŵr. Yr hyn sy'n arbennig o warthus am y camgymeriad...
Joyce Watson: 3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr Adran Gwaith a Phensiynau yn tandalu pensiynau i fenywod? OQ56575
Joyce Watson: Hoffwn enwebu David Rees.