Caroline Jones: 1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o fusnesau lleol yng Ngorllewin De Cymru i fanteisio ar bŵer deallusrwydd artiffisial? OAQ53610
Caroline Jones: Diolch i chi am ei dderbyn. A ydych chi'n cytuno bod swyddogaethau Cadeiryddion yn cael eu neilltuo—nid dwy swyddogaeth Cadeirydd i un person? Yr hyn a oedd gennych chi oedd David Rowlands yn Gomisiynydd ac hefyd yn bennaeth y Pwyllgor Deisebau. Cafodd Michelle Brown ei hanwybyddu yn llwyr. Felly, rwy'n credu y byddai wedi bod mwy o gydymdeimlad â grŵp UKIP pe byddai swyddogaeth Cadeirydd...
Caroline Jones: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Roedd adroddiad Sefyllfa Byd Natur yr RSPB yn tynnu sylw at y ffaith bod effeithiau erydu yn arwain at golli 2 filiwn o dunelli o uwchbridd bob blwyddyn yn y DU. Mae colli uwchbridd yn golygu llawer mwy na'r effaith a geir ar argaeledd tir ffrwythlon ar gyfer amaethyddiaeth. Mae tir yr effeithir arno yn lleihau gallu'r pridd i ddal dŵr, a gall hyn...
Caroline Jones: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella darpariaeth gofal cymdeithasol?
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl hon a diolch yn arbennig i'r deisebydd, Stuart Davies, am gyflwyno'r ddeiseb i'r Cynulliad. Ddoe ddiwethaf bu'n rhaid i fy ngŵr fynychu Ysbyty Castell-nedd Port Talbot am biopsi poenus iawn ar ei brostad. Felly, mae hwn yn bwnc sy'n agos at fy nghalon. Mae'r ffaith y gallai fy ngŵr a channoedd o ddynion tebyg iddo gael llwybr...
Caroline Jones: Weinidog, yn ddiweddar, cyfarfûm â phenaethiaid yr ysgolion cyfrwng Cymraeg o fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac roeddent yn pryderu ynghylch yr effaith roedd toriadau yn ei chael ar addysg cyfrwng Cymraeg. Wrth ymweld ag Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, cefais fy synnu gan gyflwr gwael yr adeilad ac adnoddau'r ysgol. Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o'r effaith y mae toriadau...
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru?
Caroline Jones: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu busnesau bach?
Caroline Jones: Cefais y fraint o fod yn aelod o'r pwyllgor tra oedd yr ymchwiliad i atal hunanladdiad yn cael ei gyflawni. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, cyd-aelodau ar y pwyllgor, y clercod a'r rhai a roddodd dystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad. Fel y mae Dai'n nodi'n gwbl briodol yn y rhagair i'r adroddiad, mae nifer y marwolaethau drwy hunanladdiad yng Nghymru yn wirioneddol syfrdanol. Yn 2017, dewisodd...
Caroline Jones: Weinidog, nid llygredd aer yw'r unig beth sydd gennym i boeni amdano ym Mhort Talbot a fy rhanbarth ehangach. Mae llygryddion eraill hefyd yn cael effaith. Amlygodd adolygiad diweddar yng nghyfnodolyn Biological Conservation yr effaith roedd plaladdwyr yn ei chael ar rywogaethau infertebratau. Fel hyrwyddwr rhywogaethau ar ran corryn rafft y ffen sydd â'i gynefin yng nghysgod y gwaith...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Brif Arolygydd ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru am ei adroddiad blynyddol. Mae'n gerdyn adroddiad ar berfformiad system addysg Cymru, ac ymddengys nad ydym yn gwneud yn ddigon da. Er y bernir bod wyth o bob 10 o ysgolion cynradd yn dda neu'n well, dim ond 8 y cant o ysgolion cynradd Cymru a fernir yn ysgolion rhagorol. Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu...
Caroline Jones: Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bodoli i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau, i warchod ein hamgylchedd, i ddiogelu ein treftadaeth naturiol ac i orfodi amddiffyniadau amgylcheddol. Yn anffodus, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gamweithredol, fel yr amlygwyd gan Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyfrifon...
Caroline Jones: Weinidog, roeddwn yn falch o weld y contract economaidd newydd, o ystyried agwedd elyniaethus arweinyddiaeth eich plaid yn y DU tuag at fentrau preifat, yn enwedig canghellor yr wrthblaid. Weinidog, a wnewch chi gadarnhau mai gwir bartneriaeth rhwng y cyhoedd a'r sector preifat, a'r Llywodraeth yn darparu'r amgylchedd gorau i fentrau preifat ffynnu, yw'r allwedd i lwyddiant economaidd yng Nghymru?
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl hon, ac rwyf yn cydnabod y cynnydd a wnaed. Fodd bynnag, mae gennym gymaint mwy i'w wneud. Mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar bob rhan o'n cymdeithas; yfodd 34 y cant o ddynion a 28 y cant o fenywod fwy na'r terfynau a argymhellir ar o leiaf un diwrnod yn ystod yr wythnos diwethaf. Mae oedolion sy'n byw mewn cartrefi yn y grŵp incwm...
Caroline Jones: Yn gyntaf oll hoffwn ddiolch i David Rees am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac mae'n bleser gennyf gymryd rhan. Mae dur yn y gwaed yn fy rhanbarth. Roedd wrth wraidd y chwyldro diwydiannol, a thrawsnewidiodd dde Cymru yn bwerdy'r byd. Heb y gwaith dur, ni fyddai rhannau mawr o Orllewin De Cymru yn bodoli. Tyfodd Port Talbot allan o'r chwyldro i ddod yn un o gynhyrchwyr dur pwysicaf Prydain....
Caroline Jones: Weinidog, yn ddiweddar, cafodd fy apwyntiad ysbyty ei aildrefnu ar fyr rybudd. Yn ffodus, cefais y llythyr hysbysu y noson cyn yr apwyntiad. Fodd bynnag, gwn nad yw eraill wedi bod mor ffodus. O gofio ein bod yn cael ein hatgoffa'n gyson o'r gost i'r GIG pan fo apwyntiadau'n cael eu colli, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod cleifion yn cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau i'w...
Caroline Jones: Weinidog, yn ddiweddar, cefais wahoddiad i ymweld a'r ysgol newydd yng nghysgod gwaith dur Port Talbot, un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Er y bydd yr adeilad newydd yn helpu i fynd i'r afael ag anfanteision cyfleusterau'n dadfeilio, y cwricwlwm a sut y caiff ei ddarparu sy'n mynd i gynorthwyo pobl ifanc i ddianc rhag anfantais. Mae'r gwaith dur yn un o gyflogwyr mwyaf y...
Caroline Jones: 7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag apwyntiadau a gollwyd yn y GIG? OAQ53351
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae digartrefedd a chysgu allan yn gywilydd mawr i'r genedl. Mae'r ffaith nad oes gennym ni ddigon o dai ar gyfer ein dinasyddion yn beth digon gwael, ond mae'r ffaith ein bod yn esgeuluso rhai â phoen meddwl, gan arwain atyn nhw'n cysgu yn nrysau siopau, yn warthus, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno â mi. Mae canran fawr o'r rhai sy'n cael...