Neil McEvoy: A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gymorth anfeirniadol i ddioddefwyr cam-drin domestig?
Neil McEvoy: Rwy'n ceisio datganiad gan y Llywodraeth ar Ddydd Gŵyl Dewi, ddydd Iau, a'r hyn a ddylai ddigwydd yn fy marn i yw y dylai holl staff y Cynulliad a holl weithwyr y Llywodraeth gael diwrnod o wyliau. Rwy'n rhoi diwrnod o wyliau i fy staff i, felly tybed beth y mae'r Llywodraeth yn ei feddwl am hynny ac a fyddwch yn gwneud ymdrech y flwyddyn nesaf.
Neil McEvoy: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi porthladdoedd Llywodraeth Cymru?
Neil McEvoy: Terfysgaeth wladwriaethol yw hyn. Mae dinasyddion yn cael eu bomio. [Anghlywadwy.]
Neil McEvoy: Arweinydd y Siambr, codais helynt y Cwrdiaid yn Afrin, Syria yn ddiweddar, y mae gwladwriaeth ymosodol Twrci yn ymosod arnyn nhw. Gofynnais ichi a fyddech chi'n ysgrifennu at Lywodraeth y DU i bwyso arnyn nhw i ddefnyddio eu sianeli diplomyddol i stopio beth mae Twrci yn ei wneud. Mae Cwrdiaid y tu allan i'n Senedd ar hyn o bryd sy'n dod o Afrin ac maen nhw'n poeni yn ofnadwy am eu teuluoedd...
Neil McEvoy: Rydw i'n cynrychioli'r Tyllgoed yma yng Nghaerdydd.
Neil McEvoy: Rwy'n falch iawn o gynrychioli fy nghymuned ar Gyngor Caerdydd. Ond rwy'n credu bod y cyhoedd yn gweld drwy hyn. Mae'n eithaf amlwg eich bod yn ceisio chwarae gwleidyddiaeth plaid a chyflawni drwy ddeddfwriaeth yr hyn na allwch chi ei chyflawni drwy'r blwch pleidleisio. Pleidleisiodd dwy fil, pedwar cant a phedwar ar ddeg o bobl imi eistedd yn y fan yna fis Mai diwethaf, ac, fel mater o...
Neil McEvoy: Rwy'n mynd i gyfeirio at ddiwylliant y Llywodraeth hon o warafun dewis i bobl, a chwestiynu hynny. Buaswn yn wirioneddol hoffi eglurhad ynghylch pam y gallwch chi fod yn landlord, gyda'ch cynigion, ac yn Aelod Cynulliad, gallwch fod yn gyfarwyddwr cwmni ac yn Aelod Cynulliad, gallwch fod yn ddarlithydd prifysgol, hyd yn oed, ac yn Aelod Cynulliad, a gallwch hyd yn oed fod yn aelod o'r...
Neil McEvoy: Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â thegwch ymgynghoriadau. Rwy'n croesawu'r ymgynghoriad a gynhelir gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd ynglŷn â'r mater gyda Nant y Rhath, ond rwy'n cwestiynu pam na roddir yr un cwrteisi i drigolion y Barri, sy'n ymgyrchu'n ddygn yn erbyn y llosgydd yno. Rwy'n credu y dylid eu trin yn yr un ffordd yn union ac fe hoffwn i gael...
Neil McEvoy: Ie, ond fe gafodd ei gyflwyno a'i dderbyn fel y Prif Weinidog.
Neil McEvoy: Iawn, diolch.
Neil McEvoy: Iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith ynglŷn â'r sgandalau gwerthu tir a ddigwyddodd yn 2012, ond rwy'n bryderus iawn ei bod wedi cymryd cymaint â chwe blynedd i gyrraedd y pwynt hwn. Dyna chwe blynedd ers i fy etholwyr golli £39 miliwn yn Llys-faen, pan werthwyd y tir yn rhad i gwmni tramor, a £7 miliwn yn y Rhws ym Mro Morgannwg. Caf...
Neil McEvoy: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cwestiwn i'r Prif Weinidog oedd hwn, ond nid yw yma, felly—
Neil McEvoy: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn dau gwmni mewn perthynas â gwerthu tir drwy Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio? 113
Neil McEvoy: Arweinydd y Siambr, ar 22 Mawrth 2016, ar ôl yr ymosodiad terfysgol erchyll ym Mrwsel, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n hoffi mynegi ei gydymdeimlad a'i gydsafiad â phobl Gwlad Belg. Aeth yn ei flaen i ddweud ei bod yn rhaid gwrthwynebu pla terfysgaeth ym mhobman a'i bod yn rhaid inni wrthsefyll y bygythiad i'n ffordd o fyw. Rwy'n codi'r datganiad hwnnw heddiw oherwydd ei fod yn dangos...
Neil McEvoy: Yn lled ddiweddar, cafodd fy nghanolfan ieuenctid leol ei chau gan Gyngor Llafur Caerdydd. Felly, yn awr, os cerddwch o gwmpas fy ardal i, byddwch yn gweld —[Torri ar draws.] Mae rhai pobl ar fy llaw dde yn y grŵp Llafur mewn gwirionedd yn chwerthin ar y datganiad hwnnw, ac mae hynny'n gywilyddus. Os ydych yn dod —. Gwnaf ddatgan buddiant; rwy'n gynghorydd yng Nghyngor Caerdydd. Os...
Neil McEvoy: Rwyf eisoes wedi egluro fy mod yn pleidleisio yn erbyn cyllideb ddiffygiol y Blaid Lafur. Mae hon yn gyllideb gan blaid sydd wedi colli cysylltiad ac y mae angen rhoi terfyn ar ei Llywodraeth. Rydym ni i gyd wedi gweld, dros yr ychydig fisoedd diwethaf, y math o blaid yr ydych chi. Mae ein gwlad falch yn cael ei llusgo drwy eich llanast chi ac mae'n rhaid i hynny ddod i ben. Rydych chi'n...
Neil McEvoy: Rwyf wedi edrych drwy'r ddogfen ac ni allaf weld unrhyw gyfeiriad at y diwydiant twf newydd yng Nghymru, sef gwaredu llaid niwclear yn amgylchedd morol Cymru. Fel y gwyr y Siambr, mae yna gynigion i waredu 300,000 o dunnelli o laid o'r tu allan i Hinckley Point ychydig oddi ar yr arfordir, heb fod ymhell o'r fan lle'r ydym ni'n eistedd ac yn sefyll heddiw. Yn y Pwyllgor Deisebau heddiw,...
Neil McEvoy: Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r rhestr o bobl sydd wedi goroesi mewnblaniadau rhwyll yn tyfu bob dydd, yn ogystal â'r ymgyrch yn erbyn eu defnyddio'n amhriodol. Mae Seland Newydd, i bob pwrpas, wedi rhoi terfyn ar y defnydd o fewnblaniadau rhwyll yn y wain ac mae cwestiynau ynghylch cydsyniad yn cynyddu drwy'r amser. Mae cyrff rhai pobl yn gwrthod y mewnblaniadau rhwyll hyn mewn ffordd...
Neil McEvoy: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio mewnblaniadau rhwyll yng Nghymru? OAQ51465