Mohammad Asghar: Mae ffigurau swyddogol yn dangos mai ym mhrifysgolion Cymru y cafwyd y gostyngiad mwyaf yn y Deyrnas Unedig o ran nifer yr ymgeiswyr o'r Undeb Ewropeaidd rhwng 2017 a 2018. Gostyngodd ceisiadau gan fyfyrwyr o'r UE gan 10 y cant yng Nghymru, o'i gymharu â chynnydd o 2 y cant yn Lloegr a chynnydd o 3 y cant yng Ngogledd Iwerddon. O gofio y bydd Brexit yn effeithio ar y Deyrnas Unedig gyfan,...
Mohammad Asghar: Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau bach dros y 12 mis nesaf?
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar y bydd mynediad i bobl anabl yn cael ei ddarparu yng ngorsaf reilffordd y Fenni ar ôl ymgyrch hir gan drigolion lleol. O gofio nad yw bron i chwarter y gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru yn hygyrch i gadeiriau olwyn, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrth y Cynulliad hwn pa drafodaethau y mae wedi'u cael ynglŷn â sicrhau bod...
Mohammad Asghar: Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar yr anghydraddoldeb o ran y gwasanaethau a ddarperir gan fyrddau iechyd lleol yn y GIG, os gwelwch yn dda? Mae etholwr sy'n dioddef o glefyd y rhydweli coronaidd cynyddol, CAD, wedi cysylltu â mi. Mae'r clefyd yn peri i'w rydwelïau orlifo'n raddol, gan gynyddu ei risg o gael trawiad ar y galon, strôc, neu...
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Gweinidog. Canser yr ysgyfaint yw'r trydydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, ond mae'n gyfrifol am y rhan fwyaf o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chanser. Fel pob math o ganser, gellir ei drin yn effeithiol neu gellir gwella cyfraddau goroesi os ceir diagnosis cynnar. Fodd bynnag, dim ond 16 y cant o gleifion yng Nghymru sy'n cael diagnosis yng nghyfnod 1....
Mohammad Asghar: 4. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i wella canlyniadau canser yr ysgyfaint dros y 12 mis nesaf? OAQ52808
Mohammad Asghar: Os ydym i leddfu'r pwysau ar ein GIG, rhaid inni ymdrin â mater cymorth ac adnoddau ar gyfer gwasanaethau ataliol. Un gwasanaeth o'r fath yw gofal y tu allan i oriau. Mae'n ffaith bod gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau yn hollbwysig ar gyfer lleddfu'r pwysau ar wasanaethau brys yng Nghymru. Yn ddiweddar, cynhyrchodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad ac arolwg a ganfu fod bron...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, mae hanner y gwahanol fathau o salwch meddwl yn dechrau erbyn y bydd yr unigolyn yn 14 oed. I nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU gyfres o fesurau ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Roedd y rhain yn cynnwys recriwtio timau cymorth iechyd meddwl newydd a fydd yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod pobl ifanc sydd â...
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr am eich ateb manwl, ond fe fyddwch yn ymwybodol fod adroddiad diweddar gan Estyn wedi canfod nad yw'r rhan fwyaf o ddarparwyr prentisiaethau lefel uwch yn eu rheoli'n dda a bod llawer o gyrsiau wedi dyddio. Aethant ymlaen i ddweud, o ganlyniad i hynny, nad yw llawer o ddarparwyr yn adlewyrchu ymarfer cyfredol ac anghenion cyflogwyr yng Nghymru. Mae Dŵr Cymru yn anfon eu staff...
Mohammad Asghar: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau y mae eu hangen ar fusnesau i dyfu economi Cymru? OAQ52759
Mohammad Asghar: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella amodau gwaith ar gyfer athrawon?
Mohammad Asghar: Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu'r weithdrefn ar gyfer cwynion yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
Mohammad Asghar: Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ynglŷn â phengliniau â microbrosesyddion sydd ar gael yn y GIG yng Nghymru? Mae'r pengliniau hyn, a elwir yn MPKs, ar gyfer pobl sydd wedi colli coes uwch ben y pen-glin ac felly heb ben-glin nac ychwaith gweddill y goes. Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar, roedd wedi colli ei goes dde hyd at y glun ar...
Mohammad Asghar: Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, yn ystod y datganiad busnes, codais achos gyrrwr yng Nghasnewydd a aeth yn groes i gyngor ei optegydd i gadw oddi ar y ffordd oherwydd ei olwg gwael. Yn dilyn hynny, achosodd ddamwain ffordd angheuol ar yr M4. Ar hyn o bryd, cyfrifoldeb y gyrrwr yw hysbysu'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau nad ydyn nhw'n cael gyrru mwyach. A gaf i ofyn i'r...
Mohammad Asghar: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r diwydiant manwerthu?
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl adroddiad 'Cenhedloedd Cysylltiedig' Ofcom ar gyfer Cymru, yr ardal sydd wedi gweld y gwelliant mwyaf yw Casnewydd, lle mae band eang cyflym iawn bellach wedi cyrraedd 96 y cant. Fodd bynnag, 66 y cant yn unig yw'r cysylltedd yng nghefn gwlad Cymru. Pa gynlluniau sydd gan yr arweinydd i gynyddu cysylltedd band eang cyflym iawn mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd...
Mohammad Asghar: Arweinydd y Tŷ, a oes modd i mi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai ynglŷn â'r hyn arall y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar er mwyn dwyn ei achos i'm sylw. Cefais lythyr, a dweud y gwir, wedi'i ysgrifennu gan berson digartref ar stryd fawr Casnewydd. Dim ond 24 oed ydyw. Yn hytrach na darllen ei...
Mohammad Asghar: Prif Weinidog, cynhaliodd IFF Research arolwg o hawlwyr credyd cynhwysol yn ddiweddar ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Canfuwyd tystiolaeth ganddynt o ganlyniadau cyflogaeth cadarnhaol i hawlwyr credyd cynhwysol gyda chyfran yr hawlwyr a oedd mewn swydd gyflogedig wyth mis i mewn i'w hawliad bron yn dyblu. Hysbyswyd ganddynt hefyd gynnydd i nifer yr oriau a weithiwyd a lefelau incwm...
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Prif Weinidog. Mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos bod allforion o Gymru i'r Undeb Ewropeaidd, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2018, wedi cynyddu gan 6.8 y cant, o'u cymharu a'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, cynyddodd allforio i wledydd nad ydynt yn yr UE gan 0.3 y cant yn unig. O ystyried methiant Llywodraeth Cymru i arallgyfeirio ei chyrchfannau...
Mohammad Asghar: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu gwerth allforion i wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd? OAQ52714