Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Y rheswm y dewiswyd 2007 oedd ei fod ar adeg pan oedd modd cymharu'r canlyniadau yng Nghymru a Lloegr. Euthum ymlaen i ddweud yn fy nghyfraniad, er bod y ddwy wlad wedi gwella dros y cyfnod hwnnw mewn gwirionedd, tan eleni mae Lloegr wedi gwneud yn well na Chymru. Ond eleni, mae Cymru wedi dychwelyd i'r man cychwyn hwnnw.
Suzy Davies: Efallai fod asesu perfformiad disgyblion ym mlynyddoedd 4 i 9 yn ymwneud â nodi sut i helpu pob disgybl i wella, ac rwy'n deall hynny, ond mae'r sgoriau hynny hefyd yn gweithredu fel rhybudd. Nid yw disgyblion blwyddyn 9 heddiw mewn sefyllfa mor gryf ag yr oedd disgyblion blwyddyn 11 eleni ddwy flynedd yn ôl—nid yn y Saesneg, nid yn y Gymraeg, nid mewn mathemateg, ac nid mewn gwyddoniaeth...
Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac wrth gwrs, fe gynigiaf y cynnig. Yn gyntaf oll—a gwn y byddwch i gyd yn ymuno â mi yn hyn o beth—a gaf fi longyfarch yr holl fyfyrwyr, athrawon a staff am eu hymroddiad a'u gwaith yn yr arholiadau eleni? Nid yw'r ddadl yn feirniadaeth arnynt hwy. Mae'n ymwneud â dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ynglŷn â sut y maent yn gwneud—mae'n ddrwg gennyf, a sut y...
Suzy Davies: A gaf i hefyd ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith? Roedd cyhoeddi strategaeth 2050 yn uchelgeisiol, a bydd ei llwyddiant yn dibynnu ar nifer o gamau, gan gynnwys hyrwyddo. Felly, roeddwn yn falch o weld yr adroddiad hwn. Doeddwn i ddim yma pan basiwyd y Mesur iaith. Mae wedi bod yn gyfraith ers cyfnod hir erbyn hyn, ac felly mae'n hollol briodol ei hadolygu ac ystyried ei heffaith. Yn bendant,...
Suzy Davies: Weinidog, efallai y byddwch hefyd yn cofio gohebiaeth flaenorol rhyngom ynghylch yr oedi cyn blaenoriaethu dolen basio ar gyfer rheilffordd Maesteg i Ben-y-bont ar Ogwr. Y tro diwethaf i mi edrych ar hyn, fe egluroch chi y byddai'n cael ei ohirio tan gyllideb 2018-19 o gyllideb y flwyddyn flaenorol. Mae hyn wedi'i ohirio ers sawl blwyddyn eisoes, felly efallai y gallwch esbonio'r oedi. Ond...
Suzy Davies: Rwy'n falch iawn o glywed y sylwadau olaf yna, Trefnydd. Dyna oedd rhan o'r cwestiwn yr oeddwn i'n mynd i'w ofyn i chi, ond byddwch yn falch o wybod nad dyna oedd y cwestiwn cyfan. Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig i'w wneud yn y fan yma yma yw bod y syniad hwn sy'n gwneud synnwyr perffaith yn dal i fod yn syniad gwych i'r rhanbarth, i Gymru gyfan ac, yn wir, i gadwyn gyflenwi'r DU. Mae grŵp y...
Suzy Davies: Yr eitem nesaf, eitem 5, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar hawliau pleidleisio i garcharorion. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.
Suzy Davies: Diolch, Weinidog.
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw'r datganiad 90 eiliad. Angela Burns.
Suzy Davies: Rwy'n ddiolchgar am yr ymateb hwnnw, Weinidog, oherwydd er ein bod yn cydnabod mai'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r cyllid uniongyrchol, pryder y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fel y gwyddom, yw nad yw'r cyllid hwnnw wedi'i ddiogelu mewn unrhyw ffordd. Pan fyddwch yn cynhyrchu canlyniadau eich adolygiad, ac yn ymateb i'r ddadl mewn gwirionedd, bydd yn ddiddorol iawn...
Suzy Davies: O gofio'r newidiadau enfawr a fydd yn digwydd mewn ysgolion, yn enwedig gyda'r newid yn y cwricwlwm a'r paratoadau ar gyfer hynny, ond hefyd y cwynion hirsefydlog a difrifol iawn a wneir gan ysgolion yn awr am eu cyllid uniongyrchol, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy siomi nad wyf wedi gweld hynny'n fwy penodol yn themâu trawsbynciol y Llywodraeth, oherwydd, wrth gwrs, os na chewch...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, gwnaeth y Gweinidog Cyllid ddatganiad yn nodi ei barn am oblygiadau cylch gwariant 2019 Llywodraeth y DU i Gymru, ac yn hwnnw cadarnhaodd farn y Llywodraeth y dylid seilio penderfyniadau gwariant y gyllideb ar wyth maes blaenoriaeth. Pam nad yw addysg oedran ysgol yn un o'r meysydd blaenoriaeth hynny?
Suzy Davies: Weinidog, wrth edrych ar Ystadegau Cymru, mae'n rhaid cyfaddef fy mod yn synnu braidd o weld, yn ogystal â'r rhai sy'n gymwys i ddysgu Cymraeg fel iaith gyntaf, fod 40 y cant o'n gweithlu addysgu yn gymwysedig i ddysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Wrth gwrs, mae'n anos gwybod a ydynt yn defnyddio'r sgiliau hynny ai peidio. Mae nifer y newydd-ddyfodiaid sy'n dewis...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog.
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw eitem 6, datganiad gan y Ddirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—cyflwyno'r cynnig gofal plant i Gymru. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Suzy Davies: Ac, yn olaf, Vikki Howells.
Suzy Davies: Diolch. Andrew R.T. Davies.
Suzy Davies: Er fy mod i'n hapus iawn gyda'r ateb diwethaf yna, cwestiwn am y ddwy fargen oedd hwn mewn gwirionedd, gan fod pethau yn edrych yn dawel iawn ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i o safbwynt ochr Caerdydd. Roedd croeso mawr, wrth gwrs, i'r cyhoeddiad o'r Egin ac ardal ddigidol glannau Abertawe. Rwy'n deall gan y bwrdd y bydd yr arian yn cael ei ryddhau. Mae'r amser hwnnw'n agos...
Suzy Davies: Hoffwn gydnabod gwaith ein dwy Lywodraeth mewn dod ag Ineos i gyrion fy rhanbarth i, ond er budd y rhanbarth cyfan a thu hwnt. Mae'r datblygiad economaidd y cyfeiriodd Huw Irranca-Davies ato, wrth gwrs, angen gweithlu sydd wedi ei baratoi'n dda sydd wedi cael y gorau o'u profiad yn yr ysgol a'r coleg. Tybed ai un o'r risgiau mwyaf i'r datblygiad economaidd parhaus hwnnw yr oedd yn sôn...