Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog. Ychydig wythnosau yn ôl, gofynnais y cwestiwn i’ch cyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac awgrymodd, yn ddefnyddiol iawn, mai chi sydd yn y sefyllfa orau i ateb y cwestiwn. Rwy'n siŵr y byddech, wrth gwrs, yn croesawu'r £600 miliwn a ddyrannwyd gan y Canghellor y mis diwethaf mewn cyllid canlyniadol gwarantedig i Lywodraeth Cymru,...
Russell George: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid ar draws Llywodraeth Cymru yn sgil cyhoeddiad y Canghellor ynghylch £600 miliwn o symiau canlyniadol ychwanegol gan Lywodraeth y DU? OQ55901
Russell George: Gweinidog, a gaf i ddiolch ichi am eich datganiad heddiw? Rwy'n gyffredinol o blaid y diwygiadau a'ch dull gweithredu, os ydyn nhw, wrth gwrs, yn llwyddiannus o ran symleiddio ac addasu'r systemau rheoleiddio tacsis a hurio preifat. Yn gyffredinol, nid wyf yn cefnogi Llywodraeth Cymru pan fydd yn canoli pwerau a'u tynnu oddi wrth awdurdodau lleol, ond yn hyn o beth, credaf fod achos dros hyn,...
Russell George: Gweinidog, a gaf i ddiolch ichi am gopi ymlaen llaw o'ch datganiad a hefyd am y briff technegol ddoe, a gynhaliwyd gennych chi eich hun, i lefarwyr y gwrthbleidiau? Gwerthfawrogwyd hynny'n fawr. Gan fod y strategaeth hon yn eithaf eang, rwy'n siŵr yr hoffai Aelodau ei hystyried yn fanwl yn ystod y cyfnod ymgynghori sydd i ddod. O'm rhan i, rwy'n sicr yn credu ei bod hi'n hen bryd cael y...
Russell George: Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Fe fyddwn innau'n cytuno bod penderfyniad Tata Steel i rannu busnesau'r DU a'r Iseldiroedd yn achos gofid mawr i weithwyr dur ledled Cymru, eu teuluoedd a'r cymunedau lleol a'r gadwyn gyflenwi ehangach. Hen beth annifyr yw ansicrwydd yn aml, ac rwy'n ofni ein bod ni wedi gweld digon o hynny yn ystod 2020, yn anffodus. Rwy'n...
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n beio fy hun, oherwydd cytunais i gais y Pwyllgor Busnes i leihau'r amser ar gyfer y ddadl hon, felly rwy'n beio fy hun—dim ond 50 eiliad sydd gennyf, neu 45 nawr. Roedd Helen Mary yn canolbwyntio ar ailgylchu'r bunt gyhoeddus yng Nghymru. Dadleuodd Jenny Rathbone—wel, ei bod yn pryderu bod y polisi'n dal i ddatblygu ar y cam hwn. Roedd David Rowlands yn...
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn gennym ym mis Chwefror, ond yn ddealladwy, gohiriwyd ymateb y Llywodraeth oherwydd y pandemig, a daeth hwn i law ym mis Gorffennaf. Canolbwyntiodd ein hymchwiliad ar sut y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiadau hirdymor i gynyddu caffael lleol fel rhan o'r ymgyrch i greu cadwyni cyflenwi...
Russell George: Felly, ar y gylchfan honno, rydym yn aros am ymgynghoriad pellach hefyd, felly efallai y gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny hefyd.
Russell George: Diolch, Weinidog. Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig ynglŷn â hyn yr wythnos diwethaf ac fe roesoch ateb i mi, felly byddai'n dda gwybod pryd rydych yn disgwyl gwneud y rhaglen ymgynghori ddiwygiedig honno'n gyhoeddus o ran—. Mae peth oedi wedi bod ar Bont ar Ddyfi oherwydd y pandemig, felly byddai'n dda gwybod pryd y gallwn ddisgwyl gweld cynnydd pellach yn hynny o beth. Ac os caf hefyd...
Russell George: Diolch am eich ateb. Fe symudaf ymlaen efallai o'r pwynt hwn i fy nghwestiwn olaf heddiw. Pan gyfeiriwn at gefnogi busnesau, rydym yn siarad wrth gwrs nid yn gymaint am fusnesau mawr gyda phentwr o gronfeydd wrth gefn, rydym yn siarad am gwmnïau teuluol bach, busnesau bach sy'n cael eu rhedeg gan unigolion. Mae busnesau angen eglurder ar frys. Nawr, rwy'n gwybod, Weinidog, fod disgwyl i chi...
Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n cytuno â'ch safbwyntiau hefyd. Rwy'n credu ei bod yn well fod pleidiau'n gweithio gyda'i gilydd lle gall hynny ddigwydd. Roedd yn gwestiwn a ofynnais yr wythnos diwethaf, ac efallai eich bod yn iawn i ddweud bod hwn yn gwestiwn i'r Gweinidog cyllid, ond mae Prifysgol Caerdydd wedi amcangyfrif bod mwy na £1 biliwn yn parhau i fod heb ei ddyrannu o...
Russell George: Diolch, Lywydd. Rhaid imi ddweud, Weinidog, mae'r sedd arbennig honno yn y Siambr yn gweddu i chi y prynhawn yma.
Russell George: Weinidog, byddwn yn croesawu'r £600 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Canghellor yr wythnos diwethaf mewn symiau canlyniadol gwarantedig i Lywodraeth Cymru, ac mae hynny, wrth gwrs, ar ben yr £1.1 biliwn a warantwyd yn gynharach eleni. Daw hynny â chyfanswm y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU i £5 biliwn i ymladd y pandemig yma yng Nghymru. Nawr, rwy'n sylweddoli mai dim ond yr...
Russell George: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau gwella ffyrdd yn Sir Drefaldwyn? OQ55811
Russell George: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb nawr? Roedd yn gynhwysfawr iawn ac rwy'n credu mai dyna rwyf fi a llawer o'r Aelodau eraill ei angen er mwyn gallu ateb ymholiadau gan etholwyr. Ac a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am gyflwyno'r cwestiwn? Rwy'n credu hefyd ei bod yn siomedig iawn fod pobl yn cam-drin staff Busnes Cymru yn eiriol. Rwy'n deall rhwystredigaethau pobl, ond ni ddylid...
Russell George: Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Nodais hefyd y cyllid a gyhoeddwyd gennych y bore yma. Darllenais ddatganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â £3 miliwn o gyllid ychwanegol. Byddwn yn hoffi meddwl efallai bod fy nghwestiwn, a gyflwynwyd yr wythnos ddiwethaf, ac a ofynnwyd heddiw, wedi helpu i ysgogi'r cyhoeddiad hwnnw am gyllid. A gaf fi ofyn, Weinidog, sut y cyrhaeddoch...
Russell George: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y cyfyngiadau symud cenedlaethol ar iechyd meddwl a lles pobl yng nghanolbarth Cymru? OQ55773
Russell George: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac am y copi o flaen llaw hefyd yr oeddwn yn dra diolchgar amdano? Rwyf braidd yn siomedig, Gweinidog, nad ydych chi wedi cyflwyno datganiad ar y dydd Mercher olaf cyn hanner tymor. Yn hytrach, bu'n rhaid i mi ac Aelodau ddarllen amdano yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw yn y cyfryngau. Ond byddai'n ddefnyddiol pe gallech chi ddweud...
Russell George: Prif Weinidog, rydych chi wedi sôn am yr angen i gefnogi'r rhai hynny ar incwm is. Mae 42 diwrnod wedi mynd heibio erbyn hyn ers i'ch Llywodraeth gyhoeddi y byddai'n cyflwyno taliadau o £500 yr wythnos i'r rhai hynny ar incwm isel y gofynnir iddyn nhw hunanynysu, ond nid yw'r taliadau wedi dod i law eto. Nawr, mae pobl yn Lloegr a'r Alban wedi bod â hawl i daliadau o £500 ers 28 Medi,...
Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n ddiolchgar eich bod yn cydymdeimlo, fel y nodwyd gennych. Mae dwy ganolfan awyr agored, fel mae'n digwydd, wedi bod mewn cysylltiad â mi, canolfannau sydd wedi'u lleoli ym Mhowys yn fy etholaeth; rwy'n gwybod, Weinidog, y bydd gennych ganolfannau awyr agored tebyg yn eich etholaeth eich hun ym Mhowys hefyd. Maent yn awyddus i Lywodraeth Cymru ddarparu...