Ken Skates: We are doing everything possible to support all businesses in Wales affected by the pandemic. I announced the release of up to £140 million for phase 3 of the economic resilience fund on 28 September. This latest phase includes up to £60 million for a rapid reaction local lockdown fund.
Ken Skates: Nawr, elfen allweddol o economi Ynys Môn, fel y nododd Rhun, yw twristiaeth a lletygarwch. Felly, bydd yr £20 miliwn sydd wedi'i neilltuo fel rhan o drydydd cam y gronfa cadernid economaidd yn hanfodol bwysig i lawer o fusnesau ar yr ynys. Rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio trydydd cam y gronfa cadernid economaidd i ysgogi cyfleoedd cyflogaeth i rai dan 25 oed. Bydd cymhelliad...
Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw, a diolch hefyd i'r Aelod am gymryd rhan yn y drafodaeth bord gron yr wythnos diwethaf ynghylch dyfodol safle'r Wylfa? Nid oes dianc rhag difrifoldeb y sefyllfa economaidd ehangach sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd ledled Cymru, ledled y byd, ac yn enwedig ar Ynys Môn, lle mae...
Ken Skates: Diolch i Mick Antoniw am ei gwestiynau. Byddwn ni'n sicr yn edrych ar gategoreiddio cwmnïau bysiau. Wrth gwrs, bydd cwmnïau bysiau'n gallu gwneud cais ac, os ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf, byddan nhw'n gallu sicrhau cyllid cadernid economaidd drwy'r trydydd cam, yn union fel yr oedden nhw'n gallu ei sicrhau yn ystod dau gam cyntaf y cymorth. Byddwn i hefyd yn adleisio'r sylwadau a wnaeth...
Ken Skates: A allaf ddiolch i Dai Rees am ei gwestiynau a'i sicrhau ein bod yn cyflwyno'r achos dros ddiwydiant dur Cymru bob wythnos y mae gennym gysylltiad â Llywodraeth y DU? Mae'n gwbl hanfodol bod cymorth yn cael ei gyflwyno ar gyfer y sector dur ac, fel y dywedais yn gynharach, ar gyfer y sector modurol, ar gyfer awyrofod ac ar gyfer hedfan. Gan roi sylw uniongyrchol i'r cwestiwn a gododd am...
Ken Skates: Diolch. O ran busnesau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, rydym yn amlwg yn cynnal trafodaethau parhaus â Llywodraeth y DU. Mae fy nghyfaill a'm cyd-Aelod Dafydd Elis-Thomas mewn cysylltiad rheolaidd iawn â chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ac mae wedi bod yn trafod pecyn cymorth sy'n gysylltiedig â thwristiaeth a lletygarwch gan Lywodraeth y DU. Bydd grantiau datblygu busnes yn gofyn i...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei sylwadau a'i gwestiynau? Fel arfer, yn ystod dirwasgiad, mae anghydraddoldebau'n gwaethygu, ac rydym yn gweithio'n ddiflino i sicrhau, wrth i ni adfer o'r coronafeirws, ein bod yn lleihau anghydraddoldebau yn ein rhanbarthau ac ar draws y rhanbarthau. Ac felly, bydd buddsoddi ym menter y Cymoedd Technoleg a buddsodd yn y cymunedau y mae'r Aelod yn eu...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau pwysig y mae hi'n eu gwneud am weithgynhyrchu? Mae busnesau gweithgynhyrchu'n cyflogi 10 y cant o'r gweithlu yng Nghymru. Ledled y DU, y ganran gyfatebol yw 8 y cant, ac felly mae gan weithgynhyrchu le pwysicach yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol o ran ei gyfraniad i'r economi. Efallai fod yr Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi lansio cynllun...
Ken Skates: Wel, a gaf i ddiolch i Dawn Bowden am ei chwestiwn hi a dweud mai ein man cychwyn ni yw blaenoriaethu iechyd y cyhoedd? Mae'n rhaid inni sicrhau ein bod ni'n rheoli'r feirws yn yr ardaloedd hynny sydd dan gyfyngiadau lleol. Mae hynny'n hollbwysig nid yn unig i fuddiannau a lles ac iechyd pobl, ond hefyd i les economïau lleol ac economïau'r cymunedau a nodwyd gan Dawn Bowden. O ran...
Ken Skates: Wel, a gaf i ddiolch i David Rowlands am y ffordd y mae ef wedi cymeradwyo ein camau ni hyd yn hyn? Rwy'n ddiolchgar iawn iddo am y sylwadau a wnaeth heddiw. Ac, ydynt, mae ein camau ni wedi arwain at ddiogelu nifer fawr iawn o swyddi: dros 106,000 yn ystod dau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd ac, wrth gwrs, diogelwyd 16,000 o swyddi drwy'r cymorth a gyflwynodd y banc datblygu. Fe fydd...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau a'i chyfraniad, ac a gaf i ddweud bod Helen Mary Jones wedi bod â rhan yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn briodol ac yn ddigonol i anghenion busnesau? Mae'r sgyrsiau rheolaidd a gawsom wedi helpu i lunio pob un o dri cham y gronfa cadernid economaidd, ac rwy'n hynod ddiolchgar iddi hi am nid yn unig y gefnogaeth ond y...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau a'i ymateb adeiladol a chadarnhaol iawn i'r datganiad heddiw? A gaf i ddiolch ar goedd i Russell George a holl lefarwyr y gwrthbleidiau am y cyfle sy'n dod yn rheolaidd i drafod yr argyfwng economaidd sy'n ein hwynebu ni? Rwy'n croesawu eu cyfraniadau nhw, eu syniadau nhw a'u beirniadaethau nhw'n fawr iawn. Fe ofynnodd Russell George nifer o...
Ken Skates: Yn olaf, rwy'n rhoi ystyriaeth i sut y gellid defnyddio Banc Datblygu Cymru i atgyfnerthu a sicrhau cyfalaf tymor hir i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru wrth inni ymlwybro drwy'r misoedd nesaf. Fe fydd y grantiau datblygu busnes yn agored i fusnesau o bob maint. Fe fydd microfusnesau, y rhai sy'n cyflogi rhwng un a naw o bobl, yn gallu gwneud cais am hyd at £10,000, ar yr amod eu bod...
Ken Skates: Diolch yn fawr iawn. Fel y dywedwyd o'r blaen, mae'r darlun economaidd yn llwm ac yn ansefydlog, a'i lwybr i'r dyfodol yn gwbl gysylltiedig â chwrs y pandemig ac, yn wir, â diwedd cyfnod pontio'r UE. Wrth i'r darlun o'r sefyllfa economaidd ddod yn fwy amlwg, rydym wedi gorfod canolbwyntio'n llymach dros y dyddiau diwethaf ar y cydbwyso cymhleth hwn a geir rhwng iechyd y cyhoedd ar y naill...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Dawn Bowden am ei chwestiwn atodol, a dweud, yn gyntaf oll, ynghylch rhai o'r datganiadau, nad yw'r symiau canlyniadol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu derbyn yn cyfateb i £500 miliwn, fel y cyhoeddodd y Canghellor, ond yn hytrach i £12.5 miliwn mewn symiau canlyniadol? Nawr, rwy'n croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i leihau treth ar werth ar gyfer y sector lletygarwch....
Ken Skates: Er bod datganiad y Canghellor yn cynnwys rhai cyhoeddiadau i'w croesawu, nid yw'n mynd yn ddigon pell i gyfateb i raddau'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae angen gweithredu'n helaethach ac yn fwy pellgyrhaeddol i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn yn uniongyrchol ac i adeiladu'n ôl yn well.
Ken Skates: Dyna'n union sydd wedi digwydd dros y ffin, ac ni fyddem yn dymuno gweld busnesau yn gwastraffu adnoddau gwerthfawr ar osod rhwystrau ffisegol, canllawiau ac arwyddion na fyddant yn eu lle am gyfnod maith o amser. Wrth gwrs, mae'r rheoliadau dan adolygiad parhaus yng Nghymru, ond mae'n gwbl glir bod 2m o ymbellhau cymdeithasol yn amddiffyniad gwell nag 1m, ac felly, lle bynnag y bo modd...
Ken Skates: Wel, er ein bod ni'n cydnabod bod y pandemig coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd, iechyd y cyhoedd sy'n dod yn gyntaf. Y peth gwaethaf a allai ddigwydd i'r economi yw ail don, a dyna pam mae'n rhaid i unrhyw ddull gweithredu rhesymegol fod yn bwyllog. Fe fyddwn ni'n ymgynghori â busnesau ac ag undebau llafur i sicrhau bod ein dull ni o weithredu yn gymesur ac...
Ken Skates: Wel, yn sicr, fe wnaf i hynny, ac fe hoffwn i ddiolch i Huw unwaith eto am y cwestiwn ynglŷn â'r prosiect pwysig hwn, a allai wneud gwahaniaeth enfawr o ran cysylltedd a chludiant cyflym rhwng cymunedau yn ei etholaeth ef ac o'i hamgylch. Mae'r Aelod yn ymwybodol, rwy'n gwybod, ein bod ni'n parhau i ymgysylltu â Network Rail ynghylch bwrw ymlaen â'r cynllun hwn. Rydym wedi annog Network...
Ken Skates: Gwnaf, wrth gwrs. Rydym wedi rhoi grantiau trafnidiaeth lleol o £300,000 i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr cyn hyn i werthuso'r dewisiadau ym Mhencoed. Fe fyddai'r cynllun hwn yn cyfrannu llawer at liniaru tagfeydd ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd ym Mhencoed ac yn yr ardaloedd cyfagos.