Mark Isherwood: Wrth siarad yma ym mis Chwefror, dywedais fod 'cyfraddau uwch treth trafodion tir uwch Llywodraeth Cymru, a darodd nifer fawr o fusnesau bach a chanolig cyfreithlon, llawer ohonynt ag eiddo ger ffin fewnol y DU â Lloegr, yn uwch na chyfraddau treth uwch tir y dreth stamp gyfatebol yn Lloegr ar gyfer prisiau prynu hyd at £125,000 yn unig, ac yn uwch ar gyfer yr holl brisiau prynu yn Lloegr...
Mark Isherwood: Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau atebolrwydd swyddogion llywodraeth leol i gynghorwyr etholedig?
Mark Isherwood: Diolch. Yn eich datganiad, rydych chi'n dweud y byddwch chi'n rhoi gwaith teg, datgarboneiddio a llesiant wrth wraidd caffael, ond nid ydych chi'n sôn am y canllawiau presennol ar gyfer caffael, sy'n seiliedig ar ansawdd, gwerth a phris a hefyd hyblygrwydd achosion lleol a chymunedol er budd cymunedau lleol. Felly, sut y byddwch chi'n sicrhau na fydd y blaenoriaethau yr ydych yn eu nodi yn...
Mark Isherwood: Rydym ni'n parhau i gadw at ein hymrwymiad hirsefydlog ni i Gymru fod yn genedl noddfa. Fel y bydd y Gweinidog o bosibl yn ei gofio, fe wnes i noddi a chynnal y digwyddiad Noddfa yn y Senedd bum mlynedd yn ôl. Mae'n rhaid i ni sicrhau y bydd pobl o Affganistan sydd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi, gan gynnwys rhai sy'n dod i'r DU a fu'n gweithio'n agos gyda'r fyddin Brydeinig a Llywodraeth y...
Mark Isherwood: Diolch. Yn gynharach y mis hwn, ymwelais â'r perchnogion fferm Einion ac Elliw Jones ar fferm Mynydd Mostyn yn Nhrelogan ger Treffynnon. Mae eu busnes peiriannau gwerthu llaeth arloesol a hynod boblogaidd a ysgogwyd gan COVID ac sy'n cyflenwi llaeth ffres ac ysgytlaeth o dan fygythiad ar ôl i swyddogion cynllunio sir y Fflint ddweud nad oedd y safle yn gyfreithlon. Yn unol â 'Pholisi...
Mark Isherwood: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynaliadwyedd yn yr economi wledig? OQ56799
Mark Isherwood: O ystyried eu hanes dros nifer o flynyddoedd, nid yw'r modd y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthod galwadau hirsefydlog am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19 yng Nghymru wedi bod yn annisgwyl. Fodd bynnag, mae'r mater hwn yn rhy bwysig i'w osgoi yn y ffordd hon. Oes, mae angen ymchwiliad ledled y DU, ond mae pobl Cymru hefyd angen i'w Llywodraeth...
Mark Isherwood: Rwy'n galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru. Yn gyntaf, ar gymorth Llywodraeth Cymru i bobl ag anableddau dysgu. Dair wythnos yn ôl, lansiodd y Coleg Nyrsio Brenhinol ei adroddiad ar nyrsio anabledd dysgu, 'Connecting for Change'. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ddirywiad sylweddol yn nifer y nyrsys anabledd dysgu ledled y DU. Mae'r Pwyllgor Nyrsio Brenhinol yn nodi bod rhywfaint o'r...
Mark Isherwood: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu?
Mark Isherwood: Wel, cefais gopi o e-bost claf at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf, yn cwyno bod diffyg meddygon teulu parhaol ym meddygfa St Mark yng Nghei Connah bellach yn 'achosi problemau mawr gan na ellir trefnu apwyntiad i weld meddyg'. Ceisiwyd ffonio'r dderbynfa o 8 y bore ymlaen ar 22, 23 a 24 Mehefin, ac ar bob achlysur, buont yn aros am 45 munud cyn cael gwybod nad oedd...
Mark Isherwood: [Anghlywadwy.]
Mark Isherwood: —pan gynigiwyd atebion y gellir eu cyflawni i ni. Felly, yn hytrach na drysu'r mater hwn gydag ail gartrefi wedi'u hadeiladu at y diben hwnnw, fel yr oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw, pa gamau uniongyrchol y byddwch chi yn eu cymryd nawr felly i nodi'r angen lleol penodol yn y mannau poblogaidd hyn ar gyfer cartrefi i'w rhentu'n gymdeithasol ac, ar wahân, tai fforddiadwy ar gyfer rhent...
Mark Isherwood: Yr haf diwethaf, adroddwyd bod bron i 40 y cant o'r eiddo a werthwyd yng Ngwynedd yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2020 wedi'u prynu fel ail gartrefi, ond mae tystiolaeth anecdotaidd gref yn dangos bod hyn yn deillio o nifer anghymesur o fawr o ail gartrefi presennol ar y farchnad. Pan ofynnais o'r blaen i Lywodraeth Cymru pa ddadansoddiad yr oedd wedi'i wneud felly i weld a oedd hon yn sampl...
Mark Isherwood: Wel, fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a luniodd yr adroddiad 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well' y llynedd, clywsom, yn yr Alban, fod datganoli'r broses weinyddu, yn enwedig asesiadau o rai budd-daliadau, wedi sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol lwyr yn yr Alban. Ond nododd ein hadroddiad hefyd bod yn rhaid cydbwyso 'gwobr bosibl darparu...
Mark Isherwood: —yn chwarae rhan bwysig. Mae arnom ei angen ar gyfer y bwyd rydym yn ei fwyta, yr aer rydym yn ei anadlu, a'r dŵr rydym yn ei yfed. Rwy'n dod i ben. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos ei bod o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r argyfwng natur drwy ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod blwyddyn gyntaf y Llywodraeth i osod targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith ar gyfer adfer...
Mark Isherwood: Gyda chweched Cynhadledd ar hugain y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, COP26, i'w chynnal yn Glasgow o dan lywyddiaeth y DU ymhen pedwar mis, mae'r ddadl hon yn ailbwysleisio'r angen am sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth. Mae gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig yn...
Mark Isherwood: Mae gormod o bobl anabl yn parhau i ddioddef anghyfiawnder cymdeithasol oherwydd y rhwystrau i fynediad a chynhwysiant a roddir yn eu ffordd ar bob lefel o gymdeithas. Ar 24 Chwefror eleni, pleidleisiodd y Senedd o blaid fy nghynnig deddfwriaethol gan Aelod ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain, neu Fil BSL. Fel aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar yn y Senedd ers 2003, ac fel...
Mark Isherwood: Fel y nodais, y cyrff hyn a nododd yn glir fod y rhain yn broblemau hirsefydlog. Oes, mae'n rhaid inni drin y symptomau, ond mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r achosion hefyd. Mae maniffesto 2021 yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau ar gyfer cymunedau iachach, hapusach a chryfach yng Nghymru yn dechrau drwy ddweud, 'Mae gan bob cymuned yng Nghymru yr adnoddau a’r dylanwad sydd eu hangen...
Mark Isherwood: Diolch. Mae arnaf ofn nad ateboch chi fy nghwestiwn, a dyfynnais amryw o gyrff a nododd fod y problemau hyn yn bodoli ymhell cyn COVID, ac maent yn galw, felly, am newid trywydd. Fel y dywedais yma fis Tachwedd diwethaf, mae adroddiad diweddar yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, 'Building Stronger Welsh Communities: Opportunities and barriers to community action in Wales', yn ymwneud â...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Mae Llywodraethau Cymru wedi bod yn gyfrifol, fel y gwyddoch, am gydlynu mesurau trawsbynciol i hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi yng Nghymru ers dros 22 mlynedd. Fel yr adroddodd Sefydliad Joseph Rowntree y llynedd, Cymru sydd wedi gweld y gyfradd dlodi uchaf o holl wledydd y DU drwy gydol y cyfnod datganoli ers 1999. Yn ychwanegol at hyn, canfu eu hadroddiad 'Tlodi yng...