Julie James: Fodd bynnag, y realiti yw nad oes gan unrhyw weithredwr rheilffyrdd lefel safonol o hyblygrwydd ychwanegol i allu darparu'r un lefel o wasanaeth yn union ar ddiwrnodau pan fydd digwyddiadau torfol yn digwydd ag a fyddai ganddynt ar ddiwrnodau eraill.
Julie James: Wel, Rhun, cytunais yn llwyr â rhan gyntaf eich dadansoddiad, wrth gwrs, ac nid wyf am drafferthu ailadrodd hynny. Ac mae'n ddrwg gennyf glywed bod eich etholwr yn teimlo hynny, oherwydd yn sicr nid dyna'r argraff y dymunem ei rhoi. Yn ôl ein harolygon teithwyr cyn y pandemig, a gynhaliwyd gan y gweithredwr, roedd 77 y cant o'r bobl a oedd yn teithio ar y gwasanaeth yn ei ddefnyddio at...
Julie James: Wel, credaf ein bod wedi cael enghraifft gwbl ragorol o'r hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei feddwl o'u hymrwymiad i sero net. Gadewch inni ariannu gwasanaeth awyr sy'n fasnachol hyfyw, ond sy'n ddinistriol i'r amgylchedd, er mai'r hyn y dylem ei wneud yw rhoi'r arian hwnnw tuag at wasanaethau rheilffyrdd. [Torri ar draws.] A byddech yn well o lawer, Darren Millar—[Torri ar draws.]
Julie James: Byddech yn well o lawer yn defnyddio eich egni emosiynol diamheuol i gael y Llywodraeth yn San Steffan i ariannu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn briodol, a chefnogi'r ymrwymiad sero net y dywedwch y byddwch yn ei gefnogi, ond bob tro y gwnawn unrhyw beth tuag ato, rydych yn dweud rhywbeth gwahanol. Nonsens llwyr yw dweud mai'r ateb i gysylltedd gogledd Cymru yw rhoi mwy o awyrennau...
Julie James: Yn sicr, Carolyn. Yn hollol gywir: mae'n amlwg fod angen inni wella cysylltedd rhwng pob rhan o'r gogledd a'r de cyn gynted â phosibl. Bydd y trenau 197 newydd sbon a gyflwynir yn y gogledd yn cael eu cyflwyno ymhell cyn iddynt gael eu cyflwyno yng ngweddill Cymru, ac maent i fod i ddechrau gwasanaethu erbyn diwedd eleni fan bellaf, ac rydym yn gweithio i sicrhau bod hynny'n digwydd cyn...
Julie James: Diolch, Carolyn. Yn dilyn dadansoddiad cost a budd llawn, rydym wedi penderfynu rhoi'r gorau i bob cefnogaeth i'r gwasanaeth. Nid ydym yn credu y bydd lefelau teithwyr yn dychwelyd i lefel sy'n gwneud y gwasanaeth hwn yn hyfyw, naill ai'n economaidd neu'n amgylcheddol. Byddwn yn defnyddio'r cyllid a glustnodwyd ar gyfer y cyswllt awyr i gyflymu gwaith i wella cysylltedd rhwng y gogledd a'r de.
Julie James: Diolch yn fawr iawn, Jayne Bryant. Mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn, onid ydy, oherwydd mae angen i ni wneud nifer o bethau. Rwy'n hapus iawn i edrych eto i weld a allwn ni gryfhau galluoedd gorfodi'r gwahanol asiantaethau yn y maes, ond mewn gwirionedd, yr hyn y mae gwir angen i ni ei wneud yw ei gwneud yn amlwg iawn bod hwn yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig a chadwraeth natur nes ei bod...
Julie James: Diolch, John. Rwy'n gwybod, John, eich bod chi'n frwdfrydig iawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gadeirio'r bartneriaeth Lefelau Byw, sydd yn sicr wedi ein helpu ni i'w symud ymlaen. Mae gwir angen i ni wella'r canllawiau cynllunio strategol ar gyfer y meysydd y gwnes i eu crybwyll o'r blaen. Ni allaf i wneud sylw ar nifer o geisiadau cynllunio sy'n weddill am resymau amlwg, felly nid wyf...
Julie James: Diolch, Delyth. Rwyf innau'n rhannu'ch brwdfrydedd drosto. Nid wyf i wedi bod yn ddigon ffodus i weld un o'r gwenyn eto, ond yr wyf i wedi rhoi cynnig arni ambell waith. Yn sicr, rwyf i wedi gweld lluniau a fideos, ond nid yn bersonol eto, felly rwy'n edrych ymlaen at hynny. Y rheswm dros gyflwyno hyn heddiw yw oherwydd mai'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei ystyried yw os gallwn ni ddatblygu...
Julie James: Wel, nid wyf i'n gwybod yn iawn ble i ddechrau gyda hynny, Janet. Mae lefel y sinigiaeth sydd wedi'i dangos yn eich sylwadau wedi fy syfrdanu i'n llwyr, a dweud y gwir, hyd yn oed gennych chi. Felly, fe geisiaf i ymdrin â rhai o'r pethau a gafodd eu codi gennych chi. Felly, yn gyntaf oll, mae'r bartneriaeth Lefelau Byw wedi gweithio'n galed iawn. Mae John Griffiths yn ei gadeirio, a fydd,...
Julie James: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu siarad heddiw am y cynnydd sy'n cael ei wneud ledled un o ardaloedd gwarchodedig pwysicaf Cymru, sef gwastadeddau Gwent. Fel Llywodraeth, mae ymdrin â'r argyfyngau hinsawdd a natur wrth wraidd popeth a wnawn. Rhaid i ni ddiogelu ein hamgylchedd i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau, a chwarae ein rhan ar y llwyfan byd-eang. Yn fyd-eang, mae natur...
Julie James: Diolch, Mike. Felly, un o'r pethau amlwg y bydd y Ddeddf rhentu cartrefi yn ei wneud pan gaiff ei gweithredu yw rhoi nifer o fesurau ar waith yn erbyn achosion dialgar o droi allan o'r math yr ydych newydd ei ddisgrifio. Ar hyn o bryd, nid oes gan rentwyr amddiffyniad rhag hynny, ac nid oes ganddynt amddiffyniad ychwaith rhag rhai o'r agweddau eraill ar y Ddeddf. Rwy’n dal i fod mor...
Julie James: Diolch, Mabon. Credaf imi ateb rhan sylweddol o hynny yn fy ateb i Jenny Rathbone. Rydym yn ariannu ystod eang o asiantaethau cynghori, yn fwy penodol, Shelter Cymru, i roi cyngor a chymorth i denantiaid sydd mewn sefyllfa lle y gallent fod yn cael eu troi allan. Rydym hefyd yn darparu cryn dipyn o gymorth grant wrth gwrs, gan gynnwys cymorth grant i denantiaid yr effeithiwyd arnynt gan...
Julie James: Diolch, Jenny. Felly, yn amlwg, mae'n destun gofid ein bod wedi gorfod cymryd y cam hwn, ond rydym mewn cyfnod digynsail. Yn benodol, mae landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru yn ein helpu gydag argyfwng ffoaduriaid Wcráin, ac mae gennym nifer fawr o achosion o ddigartrefedd ledled Cymru y bydd yn rhaid inni ymdrin â hwy ar yr un pryd. Nid yw landlordiaid wedi cael chwe blynedd i roi’r...
Julie James: Diolch. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhan o’r cytundeb cydweithio. Anaml iawn y gwelwn ddiwygiadau mawr o’r math y mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn eu gwneud, ac yn erbyn cefndir o bwysau cwbl ddigynsail, rydym am wneud popeth a allwn i sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol yn enwedig yn cael digon o amser i wneud y paratoadau angenrheidiol i gydymffurfio â gofynion y Ddeddf a chael...
Julie James: Bydd y Ddeddf rhentu cartrefi yn cryfhau hawliau tenantiaid yn sylweddol. Gwnaed y gohiriad byr mewn ymateb i’r pwysau digynsail sy’n wynebu landlordiaid cymdeithasol. Mae gennym lu o fesurau ar waith i gefnogi rhentwyr, a bydd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth.
Julie James: Rwy'n gwybod; mae hynny'n iawn. Rwy’n parablu nawr, ond trof at y darn olaf, sef y darn sy'n ymwneud â charbon glas, fel y nododd Joyce Watson. Mae honno'n rôl hynod bwysig yn ein taith i gyrraedd sero net. Rydym yn cydnabod yr angen i warchod ac adfer glaswellt y môr, morfeydd heli a chynefinoedd. Mae'r archwiliad dwfn o fioamrywiaeth yn cynnwys Athro o Brifysgol Abertawe ar laswellt y...
Julie James: Nid wyf yn enwog am ofni'r math yna o beth, Huw. [Chwerthin.] Felly, nid wyf yn credu fy mod am ddechrau yn awr. Yr hyn rwy'n ei olygu wrth ddweud 'dod â hwy gyda ni' yw sicrhau bod pawb yn deall goblygiadau'r hyn rydym yn ei gynnig yn iawn, ac nad ydynt yn eu hystyried yn rhywbeth negyddol i ymladd yn ei erbyn, ond yn rhywbeth i'w gefnogi er mwyn gwella eu statws economaidd eu hunain a'u...
Julie James: Ni wnaf osgoi'r cyfle i wneud hynny byth, Huw, felly rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu gwneud hynny. Gan grwydro o fy sgript am eiliad, roeddwn yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig y bore yma am y grid a rhwydwaith ynni Cymru, ac un o'r rhwystredigaethau gwirioneddol i ni yw nad yw'r holl ddulliau sydd eu hangen arnom yn ein dwylo ni. Felly, annog Llywodraeth y DU i...
Julie James: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i aelodau'r pwyllgor ac yn enwedig i'r Cadeirydd am yr adolygiad a'r ffocws diweddar ar yr amgylchedd morol, gan gydnabod yn llwyr y rôl hanfodol y mae'n ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Ac os caf ddweud, Llyr, rwy'n credu eich bod wedi gwneud gwaith anhygoel o fynd drwy'r hyn a wnaethoch mewn amser...