Vikki Howells: 1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen cyfleusterau cymunedol? OAQ54469
Vikki Howells: Felly, gobeithiaf y gallwn weld cynnydd ar yr uchelgeisiau hyn a throi'r symbolau hyn o ddiwydiannaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn symbolau o ffyniant cynaliadwy'r unfed ganrif ar hugain.
Vikki Howells: Rwyf am dreulio'r rhan fwyaf o fy amser yn sôn am dwnnel Aber-nant sy'n cysylltu Cwm-bach â Merthyr, neu dwnnel Merthyr, fel y'i gelwir yn lleol. Roedd yr hen dwnnel rheilffordd hwn, a gynlluniwyd gan Brunel, yn rhan o Reilffordd Cwm Nedd ac mae'n un edefyn, un gangen, o'r rhwydwaith cyfoethog o seilwaith diwydiannol hanesyddol rydym yn ei fwynhau yng Nghymru. Yn wir, am 110 o flynyddoedd,...
Vikki Howells: Rwyf mor falch fy mod wedi gallu cyd-gyflwyno'r cynnig heddiw, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod yr AC dros Aberafan a'i gyd-gyflwyno hefyd gyda Leanne Wood. Bu David Rees a Leanne Wood yn hyrwyddwyr go iawn dros dwnnel y Rhondda, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth i fy ngalwad mewn perthynas â thwnnel Aber-nant, yn ogystal ag aelodau Cymdeithas Twnnel y Rhondda a gynigiodd eu...
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Mae fy nghwestiwn yn dilyn cwestiwn a ofynnais i'r Dirprwy Weinidog ar y pwnc hwn yn y Cyfarfod Llawn ychydig cyn y toriad. Mae fy etholaeth yn cynnwys dau bentref sy'n ffinio â ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac mae'r ddarpariaeth band eang yn ofnadwy yn y ddau ohonynt. Mewn gwirionedd, cefais e-bost gan etholwr o un o'r pentrefi hynny neithiwr a ddywedai mai cysylltiad 3MB yw'r...
Vikki Howells: 5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch manteisio'n llawn ar adeiladu adrannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465? OAQ54410
Vikki Howells: Diolch, Trefnydd. Croesawaf eich sylwadau yn y fan yna am y system e-atgyfeiriadau. Amcangyfrifir bod tua 25,000 o bobl yng Nghymru yn aros am driniaeth orthodontig ar hyn o bryd, ac mae'r rhestrau yn y rhan fwyaf o'r wlad yn ddwy neu dair blynedd o hyd. Caiff y darlun hwn ei gymhlethu gan y ffaith nad oes gan rai byrddau iechyd unrhyw ddarpariaeth uniongyrchol ac achosion o atgyfeirio...
Vikki Howells: 6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fonitro'r amseroedd aros ar gyfer mynediad at driniaeth orthodontig yng Nghymru? OAQ54428
Vikki Howells: Hoffwn eilio hynny.
Vikki Howells: Diolch. Hoffwn i ddiolch i chi, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Roeddwn i'n falch iawn ichi gychwyn yr Wythnos Ailgylchu drwy ymweld â Bryn Pica yn fy etholaeth i, sydd—. Efallai bod gennyf ogwydd, ond credaf ei bod ar flaen y gad o ran ailgylchu yng Nghymru, gyda chynlluniau arloesol yno fel eu hailgylchu matresi—rwy'n credu mai nhw yw'r unig le yng Nghymru sy'n gwneud...
Vikki Howells: Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw, os caf. Yn gyntaf, ddydd Gwener diwethaf, cefais y pleser o ymweld â Fferyllfa Sheppards yn Abercynon i gael gwybod am y cynllun profi a thrin dolur gwddf newydd sy'n cael ei gynnal fel estyniad o'r cynllun anhwylderau cyffredin Dewis Fferyllfa. Mae'r cynllun arloesol hwn yn enghraifft arall o'r ffordd y gellir defnyddio fferyllfeydd...
Vikki Howells: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro amseroedd aros orthodontig yng Nghwm Cynon?
Vikki Howells: Beth bynnag, roeddwn eisiau gwneud rhai sylwadau, gan ddechrau gyda chludiant, a gwn fod pob un ohonom ni, yn Aelodau Cynulliad yn y Cymoedd, wedi codi hwn ar un adeg neu'i gilydd. Mae cysylltiadau trafnidiaeth gwell o ran ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl hanfodol, ac rwy'n falch iawn o weld bod hwn yn un o'r meysydd blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio arno. Dechreuaf drwy...
Vikki Howells: Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno'r ddadl hon yn amser Llywodraeth Cymru a rhoi cyfle i bob un ohonom ni graffu ar waith tasglu'r Cymoedd ac, yn benodol, ar y newidiadau a wnaed dros y misoedd diwethaf—
Vikki Howells: Dydw i ddim yn rhannu eich pryderon ynghylch hynny, nac ydw, oherwydd nid arian yw'r ateb i bopeth yma—[Torri ar draws.]—o ran cyllidebau dyranedig. Mae Gweinidogion â chyfrifoldeb ym mhob rhan o'r Llywodraeth; er enghraifft, mae iechyd yn rhan bwysig iawn o'r ffordd y mae angen inni edrych ymlaen gyda'r Cymoedd, hefyd. Felly, rwy'n credu y byddai'n ddull rhy syml o geisio cael pot o...
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar, cefais y fraint o gyfarfod â Craig Hope ac aelodau eraill o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yng Ngorsaf Dân Aberdâr i drafod eu dull arloesol o fynd i'r afael â thanau gwyllt. Mae Craig yn enwog yn rhyngwladol am ei waith ar y mater, er enghraifft drwy ddatblygu'r blwch offer tanau gwyllt a'r ffocws ar ddull drwy gydol y flwyddyn hefyd. Gwyddom fod nifer...
Vikki Howells: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyriadau Llywodraeth Cymru i leihau nifer yr achosion o danau gwyllt? OAQ54248
Vikki Howells: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i wella lles adar hela a gaiff eu magu at ddibenion chwaraeon?
Vikki Howells: Hoffwn i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, sy'n rhoi rhybudd plaen i ni am yr heriau sydd o'n blaenau, yr heriau sy'n cael eu gwaethygu gan bolisïau economaidd aflwyddiannus Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Byddwn i'n croesawu eich sylwadau ar yr ormodiaith beryglus a glywsom ni gan y ddau ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Rydych chi wedi cyfeirio at rywfaint o hynny yn...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Weinidog. Roedd gen i ddiddordeb yn ddiweddar mewn darllen cerdyn sgorio archfarchnad Oxfam. Mae'r ymgyrch honno'n dadansoddi pa mor dda y mae archfarchnadoedd yn hybu hawliau dynol yn eu cadwyni bwyd. Mae'r darlun yn un cymysg iawn, er enghraifft, ceir cynnydd da gan Aldi, sy'n cyferbynnu â chadwyni eraill na chafodd unrhyw sgôr o gwbl am sicrhau bod gweithwyr benywaidd...