Canlyniadau 361–380 o 3000 ar gyfer speaker:Michelle Brown OR speaker:Michelle Brown OR speaker:Michelle Brown OR speaker:Michelle Brown OR speaker:Michelle Brown OR speaker:Michelle Brown OR speaker:Michelle Brown OR speaker:Michelle Brown

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 2 Tach 2016)

Michelle Brown: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae ysgolion yn y sector preifat a’r sector annibynnol yn cyflawni canlyniadau gwell na rhai yn sectorau’r wladwriaeth. A ydych yn ceisio dysgu o arferion gorau yn y sector preifat a’r sector annibynnol?

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 2 Tach 2016)

Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. Pa ddarpariaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi ar waith i sicrhau y gall pobl ifanc yng Nghymru ganolbwyntio ar addysg dechnegol a galwedigaethol heb gael eu dargyfeirio gan bynciau nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb ynddynt o bosibl?

10. 6. Datganiad: Y Targed o 20,000 o Dai Fforddiadwy ( 1 Tach 2016)

Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Amcangyfrifir bod tua 20,000 o gartrefi yn sefyll yn wag yng Nghymru. Pe byddech yn dod â’r rhain yn ôl i ddefnydd, byddech yn cyrraedd eich targed ar gyfer y tymor. Rwy’n cydnabod yr addewid o ran gwariant, ond faint o'r £1.3 biliwn hwn mewn gwirionedd fydd yn cael ei wario ar gartrefi, a faint fydd yn cael ei wario ar...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Ysbyty Glan Clwyd
( 1 Tach 2016)

Michelle Brown: A yw'r Prif Weinidog yn credu ei bod yn dderbyniol i rywun sy'n dioddef poen pen-glin cronig orfod aros 10 mis i weld meddyg ymgynghorol, a beth mae'r Prif Weinidog yn bwriadu ei wneud am y peth?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Ysbyty Glan Clwyd
( 1 Tach 2016)

Michelle Brown: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd? OAQ(5)00230(FM)

8. 7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei Ymchwiliad i Fil Cymru Llywodraeth y DU (19 Hyd 2016)

Michelle Brown: Hoffwn yn gyntaf ddiolch i’r pwyllgor am eu gwaith ar Fil Cymru ac am yr adroddiad cynhwysfawr a gynhyrchodd y pwyllgor. Mewn egwyddor, mae’r newid o fodel rhoi pwerau i fodel cadw pwerau yn gam cadarnhaol. Fodd bynnag, fel nododd y pwyllgor, mae’r Bil yn un cymhleth ac anhygyrch. Mae’r newid i fodel cadw pwerau felly yn cael ei danseilio gan y cymhlethdod hwnnw a chan nifer y cymalau...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Buddsoddi mewn Twristiaeth yng Ngogledd Cymru
(18 Hyd 2016)

Michelle Brown: Brif Weinidog, a allem ni gael ychydig mwy o fanylion am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu marchnata’r gogledd fel cyrchfan wyliau, os gwelwch yn dda?

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(12 Hyd 2016)

Michelle Brown: Ond mae gallu dod o hyd i’r heddlu’n rhwydd yn dal i fod yn fater cymunedol, ac yn amlwg mae gan Lywodraeth Cymru fewnbwn i faint o fynediad sydd gan y gymuned leol at yr heddlu, a pha mor weladwy a hygyrch yw’r gwasanaeth heddlu.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(12 Hyd 2016)

Michelle Brown: Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, caewyd llawer o’r prif orsafoedd heddlu yn ein trefi, yn sicr yn y gogledd. Dilynwch yr arwydd at yr heddlu ac fe ddowch at ffôn ar y wal. Pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i’r comisiynwyr heddlu a throseddu ac awdurdodau’r heddlu i sicrhau bod y gwasanaeth heddlu’n weladwy, yn hygyrch ac yn adeiladu perthynas effeithiol â chymunedau lleol?

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(12 Hyd 2016)

Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. Cyhoeddwyd y penderfyniad gweinidogol i gau Ysgol Uwchradd John Summers yn 2017 gan Kirsty Williams ym mis Awst 2016. Cofnodwyd bod Ysgol Uwchradd John Summers wedi gwasanaethu mwy o blant teithwyr nag unrhyw ysgol arall yn Sir y Fflint ac o bosibl ar draws Cymru. A all y Gweinidog roi sicrwydd y bydd anghenion addysg cymuned y teithwyr yn Sir y Fflint yn cael eu...

8. 7. Dadl: Mynd i’r Afael â Throseddau Casineb — Cynnydd a Heriau (11 Hyd 2016)

Michelle Brown: Rwy’n croesawu mesurau effeithiol o fynd i'r afael â throseddau casineb a rhagfarn o bob math. Mae troseddau casineb yn droseddau sy’n seiliedig ar ragfarn a chulni. Rwyf bob amser wedi dilyn yr egwyddor y dylech fyw yn y modd yr ydych yn dewis, a chredu’r hyn a fynnwch ar yr amod nad ydych yn niweidio unrhyw un. Yn anffodus, mae llawer o bobl nad ydynt yn dilyn yr egwyddor...

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwella’r Broses Gynllunio
(11 Hyd 2016)

Michelle Brown: Iawn. Rwy’n dod ato nawr, Lywydd. [Yn parhau.]—ac ar hyd coridor yr A55 yn gwneud dim ond gwaethygu'r broblem. A ydych chi’n fodlon cyflwyno deddfwriaeth i gadw canran o'r stoc tai ar gyfer prynwyr lleol, ac, os felly, pryd ydych chi’n cynnig gwneud hynny?

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwella’r Broses Gynllunio
(11 Hyd 2016)

Michelle Brown: Ers y 1960au, adeiladwyd degau lawer o filoedd o gartrefi newydd yng Nghymru nad oeddent i fod ar gyfer prynwyr lleol erioed. Mae hyn wedi digwydd ar raddfa fawr ledled Cymru ac, yn benodol, yn fy ardal gartref i yn y gogledd-ddwyrain. Y sefyllfa a welwn yng nghefn gwlad gogledd Cymru, ac yn enwedig mewn rhannau o Sir y Fflint, yw bod cymudwyr o dros y ffin yn prynu’r tai cyn gynted ag y...

5. 4. Dadl Plaid Cymru: Y Stryd Fawr a Chanol Trefi ( 5 Hyd 2016)

Michelle Brown: Na wnaf. Yn erbyn y cefndir hwn, mae ardrethi busnes yn taro’r hoelen olaf i arch ein strydoedd mawr. Drwy gyfrif yn fras, yn seiliedig ar werth nominal, caiff siopau’r stryd fawr eu cosbi oherwydd eu lleoliad. Efallai fod siopwyr yn talu eu hardrethi busnes, ond yn rhy aml bydd hynny ar draul llithro ar ei hôl hi gyda’u rhent neu beidio â recriwtio staff. Mae gallu gan awdurdodau...

5. 4. Dadl Plaid Cymru: Y Stryd Fawr a Chanol Trefi ( 5 Hyd 2016)

Michelle Brown: Mae cyflwr llawer o’n strydoedd mawr yn olygfa drist. Yn lle strydoedd mawr ac unigryw a arferai fod yn llawn o weithgaredd, yn awr ceir sefydliadau gamblo, tafarndai cadwyn, siopau bwyd brys neu siopau elusen, neu fel arall, siopau gwag. Mewn rhai achosion, bron na allwch weld y pelenni chwyn yn rholio ar hyd canol y stryd fawr. Anadl einioes y stryd fawr yw nifer yr ymwelwyr a hwylustod....

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Adeiladu Tai Cymdeithasol
( 4 Hyd 2016)

Michelle Brown: Brif Weinidog, ceir tir llwyd sylweddol mewn ardaloedd ledled Cymru y gellid ei ddefnyddio i adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy. Fodd bynnag, mae safleoedd tir llwyd yn aml yn amwys, ac os byddwn yn ychwanegu at y gymysgedd y potensial ar rai safleoedd o halogiad gan asbestos, plwm a sylweddau eraill, mae'n hawdd gweld pam mae datblygwyr yn aml yn amharod i gymryd y risg o ddatblygu...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(28 Med 2016)

Michelle Brown: Mae Llafur Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid refferenda pan fyddant yn gweddu i’w dibenion gwleidyddol, sef ar ddatganoli pellach a diwygio pleidleisio. Felly, gadewch i mi ddefnyddio’r cyfle hwn i ofyn i Ysgrifennydd Addysg y Democratiaid Rhyddfrydol mewn Llywodraeth Lafur roi cyfle i bobl leol sefydlu ysgolion gramadeg newydd, lle mae digon o alw lleol wedi’i ddangos drwy...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(28 Med 2016)

Michelle Brown: Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ei wneud ynglŷn â ffioedd dysgu yng Nghymru yn awr fod adroddiad Diamond wedi cael ei gyhoeddi? A fyddai’n cytuno nad yw’r system gyfredol o roi cymhorthdal i fyfyrwyr o Gymru i astudio yn Lloegr yn gynaliadwy ac nad yw’n ddefnydd da o adnoddau gwerthfawr Llywodraeth Cymru?

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(28 Med 2016)

Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, os nad yw Cymru’n gallu gwneud unrhyw gynnydd sylweddol yn y safleoedd PISA ym mis Rhagfyr, fel y mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn ei ragweld, beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ei wneud i wella ein safle erbyn y tro nesaf?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Twristiaid sy’n Ymweld â Chymru
(27 Med 2016)

Michelle Brown: Brif Weinidog, mae llawer o fusnesau yn y gogledd yn ddibynnol ar dwristiaeth ac wedi bod dan anfantais ers talwm yn y gogledd, yn rhannol oherwydd y methiant i hysbysebu atyniadau lleol ar hyd yr A55 yn ddigonol. Mae'n broblem barhaus a brofir gan atyniadau—ymwelwyr lleol yn mynd ar yr A55, stopio yn eu cyrchfan, heb unrhyw syniad o'r gweithgareddau amrywiol oddi ar yr A55 nad oes...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.