Jane Hutt: Rwy’n parhau i drafod ein hymrwymiad ar y cyd i gryfhau hawliau pobl anabl gyda fy nghyd-Weinidogion. Ategir ein gwaith gan y model cymdeithasol o anabledd, a sefydlwyd y tasglu hawliau pobl anabl i ymateb i adroddiad 'Drws ar Glo' er mwyn mynd i'r afael â'r rhwystrau a'r anghydraddoldebau y mae pobl anabl yn eu hwynebu.
Jane Hutt: Mae hwnnw'n gwestiwn dilys iawn, gan y gwyddom fod proffil oedran ein gwirfoddolwyr yn codi, ac mae'r pwysau ar eu bywydau hwythau, o ran yr argyfwng costau byw, yn sylweddol, felly rydym yn sicr yn edrych ar effaith tlodi bwyd a thanwydd ar bensiynwyr a phobl hŷn, gyda llawer ohonynt yn wirfoddolwyr. Cadeiriais gyngor partneriaeth y trydydd sector yn ddiweddar, lle roedd yr argyfwng costau...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn. Rwy’n siŵr fod Aelodau ar draws y Siambr wedi bod yn ymweld ac wedi bod yn ymwybodol nid yn unig o'u banciau bwyd ond o rai o’r mentrau bwyd cymunedol, fel y pantrïoedd sydd wedi'u sefydlu, a’r berthynas â FareShare yn benodol o ran cael gafael ar fwyd o’n harchfarchnadoedd. Soniais am y ffaith inni gael uwchgynhadledd bord gron ar dlodi bwyd yn ogystal â’r...
Jane Hutt: Mae hwnnw’n bwynt difrifol iawn, ac mae'n dilyn y cwestiynau gan Tom Giffard a Rhys ab Owen, gan fod angen mwy nag un ganolfan breswyl i fenywod arnom. Mae’r pwyntiau allweddol, ac nid wyf am eu hailadrodd, o ran yr hyn y bydd y ganolfan hon yn ei wneud, yn ymwneud â gwasanaethu’r gymuned leol, gwasanaethu menywod lleol a’u teuluoedd yn eu cymuned leol. Mae hynny’n briodol ar gyfer...
Jane Hutt: Roeddwn yn ddiolchgar iawn am y cyfle i ddod i siarad, fel rwyf wedi'i wneud fwy nag unwaith, rwy’n credu, gyda'ch grŵp trawsbleidiol ar drechu tlodi tanwydd. Gwyddoch fod ein cynllun tlodi tanwydd yn ymrwymo i fuddsoddiad parhaus yn rhaglen Cartrefi Clyd, yn enwedig y gwaith o ddatblygu a chyhoeddi’r cynllun ymdopi â thywydd oer. Wrth gwrs, mae’r ffactor allweddol, o ran iechyd a...
Jane Hutt: Diolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn. Fe wnaethom alw am y cyhoeddiad, a oedd i’w groesawu’n fawr, gan Ganghellor y Trysorlys ar 26 Mai. Fe wnaethom alw am gymorth ychwanegol i aelwydydd, ac yn wir, fe wnaethom alw am y ffaith nad yn unig y dylem gael y cyllid, ond y dylid ei dargedu’n glir at y rheini sydd fwyaf agored i niwed. Felly, mae'n galonogol iawn y bydd biliau cartrefi yn...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae hwn yn gam mawr ymlaen, onid yw, y trawsnewidiad hwnnw. Ni all ddod yn rhy fuan yn fy marn i—mae 2024 yn teimlo ymhell i ffwrdd, ac ni allwn fod yn aros wedyn i weld sut y mae hyn yn gweithio. Mae'n cael ei gynllunio i sicrhau y bydd yn gweithio; bydd yn cynnig yr holl wasanaethau a ddisgrifiais. Ac mae angen inni ddechrau rhoi pwysau—diolch am y cwestiwn...
Jane Hutt: Diolch i Tom Giffard am ei gwestiwn, ac yn wir, am ei gefnogaeth i'r ganolfan breswyl arloesol hon i fenywod. Ac rwy’n siŵr y bydd yn ymuno â mi i groesawu’r ffaith bod Cymru’n arwain y ffordd. Mae hyn wedi digwydd o ganlyniad i bartneriaeth. Er mai cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw hyn, rwyf wedi gwthio’n galed iawn i sicrhau bod canolfan breswyl i fenywod yn cael ei...
Jane Hutt: Rwyf wedi ymgysylltu’n rheolaidd â Gweinidogion cyfiawnder Llywodraeth y DU, sy’n arwain ar y rhaglen waith bwysig hon, a byddaf yn parhau â’r dull cydweithredol hwn wrth i'r gwaith o ddatblygu'r ganolfan breswyl i fenywod fynd rhagddo.
Jane Hutt: Wel, mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn am ynni cartref. Ers 2009-2010 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021, mae dros £394 miliwn wedi’i fuddsoddi i wella effeithlonrwydd ynni cartref drwy raglen Cartrefi Clyd, ac mae hynny wedi bod o fudd i fwy na 67,100 o aelwydydd incwm is, a hefyd, yn bwysig, cyngor ar effeithlonrwydd ynni, drwy raglen Cartrefi Clyd—mae 160,000 o bobl yn cael y...
Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr am eich cwestiwn, Buffy Williams. Mae’r trydydd sector wedi chwarae rhan bwysig, yn genedlaethol ac yn lleol, o ran mynd i’r afael â’r materion hyn ar ran y teuluoedd hynny—felly, y nifer o aelwydydd y maent yn gweithio gyda hwy sydd wedi'u taro galetaf gan yr argyfwng costau byw Torïaidd. Nawr, gwnaethom gynnal uwchgynhadledd bord gron yn ôl ar 17 Chwefror gyda...
Jane Hutt: Yn Rhondda Cynon Taf, mae 14,716 o aelwydydd wedi derbyn taliad o £200 gennym drwy gynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Mae amcanestyniadau a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2022 yn awgrymu y gallai hyd at 45 y cant o holl aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd ac y gallai hyd at 98 y cant o aelwydydd incwm is fod mewn tlodi tanwydd bellach.
Jane Hutt: Our Council Tax Reduction Scheme supports low-income households to pay their council tax. Around 20% of all households in Wales are in receipt of this support. When people struggle to pay their bill, our Single Advice Fund services help to maximise their income and tackle underlying causes of their debt.
Jane Hutt: I have established a Ukraine External Stakeholders Group to identify and coordinate support from local authorities and the third sector for hosts and arrivals. People can also access support through our Sanctuary website which provides information on rights and entitlements including health, education and employment.
Jane Hutt: I have regularly engaged with UK Government Justice Ministers who are leading on this important programme of work. I will continue this collaborative approach as the development of the Residential Women’s Centre progresses.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch yn fawr am yr holl gyfraniadau. Diolch i'r Aelodau am gymryd rhan heddiw. Rwy’n credu bod y ddadl wedi dangos yn glir bwysigrwydd diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru ar draws ystod eang o faterion, a daw ar ôl tri datganiad sy'n mynd i'r afael â'n hymrwymiadau i weithredu'r cynllun gweithredu gwrth-hiliol, a hefyd, yn wir, cyflwyno'r Bil...
Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Rwy’n croesawu’r ddadl hon ar adroddiad effaith Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2020-21. Mae Llywodraeth Cymru wedi elwa ers blynyddoedd lawer o berthynas waith gadarnhaol a chynhyrchiol gyda thîm y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, ac mae hyn wedi parhau drwy'r cyfnod y mae'r adroddiad hwn yn ymdrin ag ef, ac mae wedi'i adlewyrchu...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Joyce Watson. Rydych wedi'i egluro mor glir—mae hyn yn ymwneud â rhoi terfyn ar hiliaeth sefydliadol. Felly, rhaid i ni edrych ar y sefydliadau hynny, gan gynnwys ein rhai ni, a mynd i'r afael â hynny. Fe'i gadawaf i'r Dirprwy Weinidog, a fydd, rwy'n siŵr, yn mynd i'r afael â'r cwestiynau, yn enwedig yn ei phortffolio ynghylch chwaraeon, a'r Gweinidog addysg ar addysg....
Jane Hutt: Diolch i chi am ddatganiadau mor bwerus, sydd yn wir yn dangos cryfder y broses o ddod at ein gilydd yn ein cytundeb cydweithredu, am bwysigrwydd cryfder, y credaf y gallai ddod o bob rhan o'r Siambr hon, ond rhaid ei gyflawni o ganlyniad i'n hymrwymiad ar y cyd a rhannu ein nodau a'n gwerthoedd yn y cytundeb cydweithredu. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod yn cael ei fynegi a'i fod yn glir...
Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain, am eich cyfraniad a'ch cwestiynau. Dechreuais fy natganiad drwy gyfeirio mewn gwirionedd at y ddadl honno a gynhaliwyd gennym y llynedd, pan wnaethom ni, y Senedd gyfan—. Yn wir, rwy'n cofio siarad â Darren Millar am y cynnig yr oeddem ni i gyd yn cytuno arno, bob plaid, fel y gwnaethom ni y flwyddyn flaenorol. Fe wnaethom ni gefnogi'r cynnig...