Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid, yn ogystal â'r Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu at y gwaith o graffu ar Fil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r holl randdeiliaid a wnaeth gyfrannu i'r...
Jeremy Miles: Mae'r diwygiadau'n cynnwys newidiadau i Ddeddf Addysg 1997 i sicrhau y darperir addysg a gwybodaeth gyrfaoedd i bob plentyn o oedran ysgol gorfodol ar draws ysgolion a lleoliadau, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion a sefydliadau addysg bellach. Mae gyrfaoedd a phrofiad sy'n gysylltiedig â gwaith yn thema drawsbynciol sy'n rhedeg drwy fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Mae'r gwelliannau hyn yn...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Rwy'n symud y cynnig. Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, a basiwyd gan y Senedd ym mis Mawrth y llynedd, yn darparu ar gyfer sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig i gefnogi gweithredu trefniadau o dan y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r rheoliadau sydd o'ch blaen chi heddiw yn ceisio gwneud mân ddiwygiadau technegol i amrywiaeth o ddeddfwriaeth sylfaenol, sy'n...
Jeremy Miles: Ydw, rwy'n cytuno yn llwyr â phwynt Buffy Williams am y rôl, y rôl hanfodol, y mae cynorthwywyr addysgu yn ei chwarae yn ein hysgolion heddiw ac, yn sicr, y bydd yn ei chwarae wrth gyflawni potensial y cwricwlwm newydd, yn ogystal â'r ystod o ddiwygiadau eraill, gyda llaw, mewn cysylltiad â'n diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol ac amrywiaeth o rai eraill hefyd. Rwy'n credu imi grybwyll...
Jeremy Miles: Diolch ichi am hynna ac rwy'n credu bod hynny wrth wraidd y diwygiadau. A bydd Estyn yn chwarae rhan bwysig iawn, o safbwynt arolygu atebolrwydd, wrth werthuso gallu'r ysgol ei hun i hunanwella, os mynnwch chi, yn y ffordd y mae'n cynllunio'r cwricwlwm, ac rwy'n credu bod hynny'n rhan gefnogol o'r dirwedd. Rwyf eisiau mynd yn ôl, mewn ymateb i'r hyn y mae Jenny Rathbone yn ei ddweud, at y...
Jeremy Miles: Wel, rwyf bob amser yn wylaidd iawn pan fyddaf yn mynd at gwestiynau addysgu a dysgu gyda rhywun sy'n weithiwr addysgu proffesiynol, felly fe wnaf i roi'r cafeat hwnnw, os caf i, ac elfen o barch, mae'n debyg, am yr hyn yr wyf i ar fin ei ddweud. Ond rwy'n credu bod y pwynt hwnnw am daith y dysgwr unigol yn sylfaenol, ac, mewn rhai ffyrdd, efallai mai dyma'r rhan fwyaf radical o'r holl gyfres...
Jeremy Miles: Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny a'r ffordd mae hi wedi croesawu'r diwygiadau. Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Jest ar y pwynt wnaeth hi i gloi, mae cymwysterau yn dal yn mynd i fod yn bwysig, ac mae hynny'n rhan greiddiol o'r system, i sicrhau bod dysgwyr yn gadael yr ysgol gyda'r graddau a'r cymwysterau sydd y gorau posib iddyn nhw, ond nid dyna'r unig fesur. Mae mesurau helaethach...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am set eang o gwestiynau. Gobeithio y bydd yn maddau imi os cyfyngaf fy ymatebion i'r rheini sy'n berthnasol i'r datganiad. Ond rwy'n credu bod y cwestiwn gan yr Aelod yn dangos yn daclus iawn y dryswch sydd wrth wraidd y system mai bwriad y set hon o newidiadau yw dileu. Ar wahanol adegau yn ei chwestiynau, siaradodd am berfformiad, siaradodd am adroddiadau Estyn a siaradodd...
Jeremy Miles: Ataliwyd categoreiddio cenedlaethol yn 2020, a chadarnhaodd y canllawiau y bydd yn cael ei ddisodli gan broses hunanarfarnu gadarn lle rhennir arfer da ac yr eir i'r afael â methiant ar frys. Mae'r OECD wedi nodi rôl amlwg ar gyfer hunanarfarnu fel nodwedd o systemau ysgolion sy'n perfformio'n dda. Maen nhw wedi disgrifio o'r blaen sut y bydd disodli categoreiddio cenedlaethol â system...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn i gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r proffesiwn am eu hymrwymiad parhaus i ddiwygio’r cwricwlwm a blaenoriaethu lles eu dysgwyr, er gwaethaf yr heriau niferus maen nhw wedi eu hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Cymru ar daith uchelgeisiol i ddiwygio addysg, i godi safonau a dyheadau i bawb, fel y gall pawb gyrraedd eu potensial. Wrth wraidd...
Jeremy Miles: Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd Ymchwil Data Gweinyddol Cymru eu harchwiliad o'r cysylltiad rhwng absenoldeb a gwaharddiadau o'r ysgol a chyflyrau niwroddatblygiadol a meddyliol a gofnodwyd mewn carfan fawr o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Canfu fod cyfraddau absenoldeb a gwaharddiadau o'r ysgol yn uwch ar ôl 11 oed ymhlith y plant i gyd, ond yn anghymesur felly yn y rhai â chyflwr a...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd dros dro. Gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl fer hon? Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gael addysg sy'n eu hysbrydoli, eu hysgogi a'u paratoi i gyflawni eu potensial mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Rwyf am fod yn glir y dylai'r penderfyniad i wahardd dysgwr ond gael ei wneud pan fetho popeth arall, hynny yw, mae'r ysgol yn derbyn bod yr holl...
Jeremy Miles: Diolch i Heledd Fychan am godi'r cwestiwn. Fe welson ni yn ystod cyfnod y pandemig gynnydd o bron i 4,500 o bobl ifanc, sy'n cynrychioli bron i 20 y cant o'r cofrestriadau newydd, ar blatfform Gwirfoddoli Cymru, sy'n galonogol, dwi'n credu. Mae gwirfoddoli yn ffordd bwysig o ddangos gwerthoedd dinasyddiaeth, ac yn ran bwysig o'r broses ddemocrataidd cymunedol hefyd. Dwi'n cwrdd yn rheolaidd...
Jeremy Miles: Mae cyfleoedd gwirfoddoli fel rhan o addysg yn hanfodol er mwyn creu cymdeithas o wirfoddolwyr a meithrin yr arfer o wirfoddoli ymysg pobl ifanc. Rydyn ni’n parhau i gefnogi cyrff seilwaith y trydydd sector a chynlluniau grant cenedlaethol i hwyluso mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei bwynt. Mae'n gwestiwn pwysig iawn. Efallai ei fod wedi gweld rhai o'r sylwadau a wneuthum yr wythnos diwethaf yn benodol am fynediad at bob math o addysg i bobl ifanc o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig. Am y tro cyntaf eleni, ac ym mhob blwyddyn ddilynol, byddwn yn gallu darparu data—yn amodol ar gydsyniad yr unigolyn wrth gwrs—drwy UCAS, er enghraifft, ar...
Jeremy Miles: Gwelir y lefel uchaf o fuddsoddiad mewn addysg bellach mewn hanes diweddar yn setliad 2022-23. Rydym yn cydnabod bod mwy o ddysgwyr yn dewis aros mewn addysg ôl-16. Drwy'r gyllideb, byddwn yn sicrhau bod dysgwyr mewn addysg ôl-16 yn cael cynnig y cymorth gorau posibl, yn enwedig yn dilyn effaith y pandemig.
Jeremy Miles: Rwyf wedi cyfarfod â'r bwrdd arholi wrth gwrs a chyda Cymwysterau Cymru, fel rwy'n ei wneud yn rheolaidd, ac wedi trafod tymor arholiadau yr haf hwn yn rhan o'n trafodaethau yn gyffredinol. Mae dysgwyr eleni wedi wynebu cyfres arbennig o heriau, y garfan gyntaf efallai i beidio â bod wedi sefyll unrhyw arholiadau allanol, ond yn eu hwynebu am y tro cyntaf eleni. Yn amlwg, fel y dywedais yn...
Jeremy Miles: Yn ogystal â'r addasiadau a gyhoeddwyd i gynnwys arholiadau a ffiniau graddau, rhoddwyd pecyn cymorth gwerth £24 miliwn ar waith, gan gynnwys yr ymgyrch Lefel Nesa. Mae'r buddsoddiad hwn wedi rhoi gwybodaeth, adnoddau arholiadau, a chynghorion i ddysgwyr i'w helpu i baratoi ar gyfer tymor arholiadau 2022.
Jeremy Miles: Mae amrywiaeth o gyfleoedd addysg alwedigaethol ar gael ar bob lefel i weddu i'n dysgwyr yn sir Benfro. Mae cymwysterau galwedigaethol yn chwarae rhan hanfodol yn darparu'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen ar ein dysgwyr i fynd i'r afael â gofynion ein heconomi.
Jeremy Miles: Rwy'n hapus iawn i ymuno â'r Aelod i longyfarch y coleg, ac rwy'n edrych ymlaen at fod gydag ef yfory yng Ngholeg Sir Benfro, lle y cawn gyfle i siarad â llawer o'r dysgwyr ifanc yno—a'r manteision y gallant eu cael o'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael yno hefyd. Fel y gŵyr, o ran ein dull o ymdrin â phrentisiaethau, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu ein cyfleoedd prentisiaeth ledled...