Canlyniadau 361–380 o 900 ar gyfer speaker:Carl Sargeant

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Aflonyddu ar Fenywod
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae gennyf ymagwedd dim goddefgarwch at fwlio, aflonyddu a cham-drin. Ni fyddwn yn poeni pe bai rhywun yn ffrind neu’n gyd-wleidydd—os ydynt yn croesi’r llinell, nid oes modd cyfaddawdu ar hyn: mae’n anghywir. Rwy’n hyderus ein bod yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hirdymor a hirsefydlog. Mae amcan 4...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Blaenoriaethau Adfywio ar gyfer Sir Benfro
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Nid wyf yn gwybod pa bryd y bydd yr Aelod yn ymweld â’r safle, ond gallaf geisio gofyn i un o fy swyddogion ymuno ag ef er mwyn cael sgwrs gyda phobl ifanc a Sipsiwn a Theithwyr ar y safle i weld pa gamau y maent eisiau eu gweld yn digwydd. Rwy’n credu bod gennym strategaeth Sipsiwn a Theithwyr gadarnhaol iawn, ac mae gennyf dîm o swyddogion sy’n gweithio’n agos iawn gyda theuluoedd...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Blaenoriaethau Adfywio ar gyfer Sir Benfro
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Mae’r blaenoriaethau adfywio ar gyfer Sir Benfro yn parhau i gefnogi’r cymunedau drwy ystod o raglenni adfywio sy’n sail i ddatblygiad cynaliadwy.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Blaenoriaethau Adfywio ar gyfer Sir Benfro
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Wrth gwrs, ac rwy’n credu bod cyfleoedd yno i weithio mewn partneriaeth. O dan y fframwaith Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, rydym yn cefnogi Cyngor Sir Penfro gyda chynllun benthyciadau canol y dref gwerth £2.25 miliwn, sef grant benthyciad ailgylchadwy 15 mlynedd. Bydd hyn, gobeithio, yn lleihau nifer y safleoedd ac adeiladu gwag a segur yng nghanol trefi fel Penfro, Aberdaugleddau a...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn diddorol iawn. Nid yw’r manylion gennyf heddiw, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn ei hysbysu ynglŷn â hynny. Rwy’n awyddus iawn i weld cymaint ag y bo modd o gyfranogiad a gweithgarwch trydydd parti mewn perthynas â’r rhaglenni hyn. Yn hytrach na phwyntiau mynediad sengl, rwy’n meddwl mewn gwirionedd ein bod yn ennill llawer wrth i’r sector...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Os yw’r Aelod am ddal i fy ngwthio i ymateb, yn hytrach na fy mod yn rhoi ymateb pwyllog iddi i’r broses hon—. A fyddant yn cael unrhyw gyllid heddiw? Na fyddant. Os mai dyna’r ymateb y mae’r Aelod ei eisiau, gallaf roi hwnnw iddi heddiw. Mewn gwirionedd, byddai’n llawer gwell pe bai’r Aelod yn aros i mi wneud penderfyniad ar y cyd ynglŷn â sut rydym yn mynd i ddyrannu’r...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Yn ddiweddar, cyhoeddais £4 miliwn ychwanegol ar gyfer y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ym mhob un o’r pedair blynedd ariannol nesaf. Daw hyn â’r cyfanswm ar gyfer prosiectau yn 2017-18 i £6 miliwn. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sy’n ceisio gwella cynaliadwyedd cyfleusterau sy’n gwasanaethu cymunedau Cymunedau yn Gyntaf.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Prosiectau Cymorth Cymunedol
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Wel, mae hynny bob amser yn wir, onid yw? Rwy’n meddwl eich bod yn cael hynny gyda phleidiau gwleidyddol ac ewyllys gwleidyddol ar draws y sbectrwm. Fy mwriad yw gwneud yn siŵr fod byrddau gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau lleol yn agos iawn at eu cymunedau. Rydym wedi deddfu ar hyn, ar y ffaith fod ymgysylltiad yn rhan hanfodol wrth wneud penderfyniadau. Byddwn yn disgwyl i unrhyw...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Prosiectau Cymorth Cymunedol
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Mae dwy elfen i hynny. Ceir cyfnod pontio lle y byddwn yn darparu 70 y cant o’r cyllid ar gyfer paratoi clystyrau Cymunedau yn Gyntaf i ddechrau meddwl am yr hyn a fydd yn digwydd yn y dyfodol a sut y gallant ddenu ffynonellau cyllid eraill. Hefyd, rydym wedi gwneud buddsoddiad o £11.7 miliwn drwy’r rhaglen gyflogadwyedd, Cymunedau am Waith, Esgyn, a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth....

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Prosiectau Cymorth Cymunedol
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid craidd ar gyfer cynghorau gwirfoddol sirol ledled Cymru, gan gynnwys Cynghorau Gwirfoddol Sirol yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam. Yn ogystal, bydd prosiectau cymorth cymunedol yn elwa ar gyfnod pontio Cymunedau yn Gyntaf, cyllido etifeddol a’r grant cyflogaeth.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Diogelwch Rhag Tân
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rwy’n cytuno gyda’r Aelod—rwy’n hynod o falch o’n diffoddwyr tân ledled Cymru. Mae gennym wasanaeth gwych, ac yn wir, mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn darparu nifer o raglenni diogelwch tân i bobl ifanc yng Nghaerdydd a thu hwnt. Mae’r rhain yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a’u darparu ar y cyd â phartneriaid yn y sector...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Diogelwch Rhag Tân
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Wel, mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain. Mae nifer yr achosion o danau wedi mwy na haneru ers datganoli ac mae’r cyfrifoldeb am y gwasanaethau tân wedi dod i Gymru. Mae’r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith ei fod wedi cyrraedd uchafbwynt mewn tanau glaswellt. Edrychwch, mae unrhyw dân sy’n cael ei gynnau felly yn anghyfreithlon, ac rwy’n annog yr awdurdodau, neu...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tlodi Plant
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Wel, dylem ddweud, ‘Llongyfarchiadau a diolch’ wrth staff Dechrau’n Deg ledled Cymru. Yn Nwyrain De Cymru, rydym wedi cyrraedd ychydig o dan 10,000 o blant yn yr ardal honno, gan eu cefnogi gyda gwasanaethau ar gyfer eu teuluoedd. Gyda’r pontio rhwng Cymunedau yn Gyntaf a’r rhaglenni cryfder cymunedol newydd, mae Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf yn rhan o’r ymagwedd...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Diogelwch Rhag Tân
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Rydym yn parhau i gefnogi awdurdodau tân ac achub yng Nghymru i wella diogelwch tân. Rydym wedi darparu £1.4 miliwn ar eu cyfer eleni.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tlodi Plant
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Rwy’n synnu braidd ynglŷn â chwestiwn yr Aelod. Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn y Siambr wythnos yn ôl pan wneuthum gyhoeddiad ynghylch cyfnod pontio Cymunedau yn Gyntaf a’r rhaglenni. Ni fydd yn gweld yn unrhyw un o’r datganiadau a wneuthum fy mod yn bwriadu cael gwared ag unrhyw raglen. Rydym wedi gwneud argymhelliad cadarnhaol iawn ar gyfer pontio. Mae fy nhîm wedi bod allan...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Diwygio Lles
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Mae’r gwahaniaethau yn y Lwfans Tai Lleol yn effeithio ar rai cymunedau yn fwy nag eraill. Bydd yn rhywbeth y byddaf yn cael trafodaeth yn ei gylch gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid—i gael trafodaethau pellach gyda’r Trysorlys, pan fydd yn eu cael, ar sail reolaidd.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tlodi Plant
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Mae ein blaenoriaethau ar gyfer trechu tlodi plant yn cynnwys gwella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar, adeiladu economi gref, cynyddu cyflogadwyedd a chynorthwyo rhieni i gael gwaith. Bydd cymunedau sydd wedi’u grymuso ac sy’n cymryd rhan yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o sicrhau bod plant yn ne-ddwyrain Cymru, a thrwy weddill Cymru, yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Diwygio Lles
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Rydym wedi gwneud gwaith ar y risgiau i system les y DU yng Nghymru. Rwy’n siŵr y byddai Llywodraeth y DU wrth ei bodd yn trosglwyddo’r risg i Gymru, ac maent wedi gwneud yn y gorffennol mewn perthynas â budd-dal y dreth gyngor, lle y gwthiwyd rhywfaint o arian drosodd o’r M4, ond nid oedd yn ddigon, ac rwy’n siŵr y byddant yn parhau i wneud hynny. Rydym yn ceisio sicrhau cymaint...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Diwygio Lles
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Fe siaradais â’r Gweinidog Gwladol dros Bobl Anabl, ac ysgrifennodd ataf yn dilyn ei chyhoeddiad yn datgan nad oedd hwn yn newid polisi mewn perthynas â thaliadau, ac na fyddai’n golygu bod unrhyw un sy’n hawlio taliad annibyniaeth personol yn cael gostyngiad yn swm y taliadau annibyniaeth personol a ddyfarnwyd iddynt yn flaenorol. Fodd bynnag,...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Diwygio Lles
( 8 Maw 2017)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod dros Ogwr am ei gwestiwn. Rydym wedi asesu effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU a gyflwynir rhwng 2015-16 a 2019-20 ar Gymru. Bydd aelwydydd yng Nghymru yn colli 1.6 y cant o’u hincwm ar gyfartaledd. Mae hynny oddeutu £460 y flwyddyn, sy’n cyfateb i £600 miliwn y flwyddyn yng Nghymru yn ei chyfanrwydd.

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.