Elin Jones: Gwnawn ni ailddechrau, a bydd y drafodaeth, nawr, tan diwedd y cyfarfod, yn ymwneud â Chyfnod 3 o'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly byddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Elin Jones: Yr eitem nesaf yw eitem 4. Yr eitem yma yw'r ddadl ar y gyllideb derfynol ar gyfer 2023-24. Dwi'n galw unwaith eto ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig yma hefyd. Rebecca Evans.
Elin Jones: Y Gweinidog cyllid nawr i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.
Elin Jones: Diolch i'r Trefnydd.
Elin Jones: Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl ar gyfraddau treth incwm am y flwyddyn 2023-24, a dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Elin Jones: Diolch i'r Prif Weinidog.
Elin Jones: Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad yma—Lesley Griffiths.
Elin Jones: Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Elin Jones: Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Elin Jones: Prynhawn da a chroeso i bawb i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells.
Elin Jones: Pleidlais nawr ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Elin Jones: Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Elin Jones: Dyna ddiwedd ar y pleidleisio am y prynhawn yma.
Elin Jones: Rydyn ni'n mynd ymlaen nawr i'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan John Griffiths.
Elin Jones: Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, naw yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei basio.
Elin Jones: Pleidlais nawr ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Elin Jones: Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Elin Jones: Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7 ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gymraeg. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 23 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Elin Jones: Gwelliant 1 sydd nesaf. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os yw gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais felly ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.