Lynne Neagle: Ydw, yn sicr, a chredaf fod hynny'n gwbl warthus. Rydych chi'n meddwl nad yw'r pethau a ddywedwch yn y fan hon—[Torri ar draws.] Rydych chi'n meddwl nad yw'r pethau rydych chi'n eu dweud yma yn cael effaith go iawn. Wel, maent yn cael effaith. Gallwn anghytuno—anghytuno'n angerddol—am yr hyn y credwn sydd orau i economi Torfaen, ond mae fy nghyhuddo o beidio â malio am farn pobl...
Lynne Neagle: Ni fydd llawer o achlysuron y prynhawn hwn nac unrhyw brynhawn arall lle caf reswm i ddiolch i Blaid Brexit, ond rwy'n gwneud eithriad heddiw i ddiolch iddynt am eglurder eu cynnig, sy'n galw'n benodol am Brexit 'dim bargen' ac i'r diawl â'r canlyniadau i gymunedau fel Torfaen. [Torri ar draws.] Ydy, mae. Mae cyfuno'r brwdfrydedd newydd hwn o blaid dim cytundeb gan wrthod cydnabod yr angen...
Lynne Neagle: Wel, nid dadl am y fformiwla llywodraeth leol yw hon. Mae'r penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth hon wedi bod o ganlyniad i gyni y Torïaid. Ac fel yr oeddwn i'n ei ddweud am gyllid Ewropeaidd, mae wedi creu 48,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd, mae 25,000 o fusnesau wedi cael cyllid neu gymorth, ac mae 86,000 o bobl wedi cael cymorth i gael gwaith. Nid oedd unrhyw rwystrau...
Lynne Neagle: Yn gyflym iawn.
Lynne Neagle: Digwyddodd ddau beth yr wythnos hon a ddylai roi rhywbeth i bawb ei ystyried o ran y posibilrwydd o fod â chronfa ffyniant gyffredin wedi'i chynllunio gan Lywodraeth bresennol y DU. Y cyntaf yw'r adroddiad gan Communities in Charge, y cyfeiriwyd ato eisoes gan fy nghyd-Aelod Alun Davies. Mae'r ffigurau moel hynny—siec o £200 i bob unigolyn yn Llundain, bil o £700 i bob unigolyn yng...
Lynne Neagle: Dychmygwch fod yn ifanc yn deffro ar un o'r diwrnodau ysgol olaf ym mis Rhagfyr, adeg pan fydd cyffro a hwyl yn rhedeg drwy'r ysgol fel trydan. Mae'n golygu cyngherddau, gemau a chyfnewid cardiau, ond wedyn rydych chi'n sylweddoli na fyddwch chi'n mynd i mewn y diwrnod hwnnw. Ni fyddwch yn mynd i mewn oherwydd mae'n ddiwrnod siwmper Nadolig, ac nid oes gennych siwmper Nadolig; ni all eich...
Lynne Neagle: Mae'r wlad wedi cael digon ar gael ei dal yn wystl gan felodrama mewnol plaid ar Ewrop. Gwyddom na ellir gwireddu'r addewidion a wnaed am Brexit, gwyddom fod celwydd wedi'i ddweud wrth y cyhoedd, fod costau real i adael—i'n heconomi, i'n GIG ac i'n diogelwch—ac na fydd gorfodi Brexit yn rhoi sicrwydd ynglŷn â ble rydym yn mynd. P'un a ydych am aros yn yr UE neu adael, dim ond un ffordd...
Lynne Neagle: Fe wneuthum. Fe sylwais ar sylwadau'r Arlywydd heddiw, ond nid wyf yn ei gredu ac nid wyf yn meddwl bod unrhyw un arall yma yn ei gredu chwaith. Nawr, nid wyf yn gyffyrddus ag unrhyw ran o'r hafaliad hwnnw, yn enwedig y rhan olaf. Yr unig beth a allai fod wedi gwneud y sefyllfa hon yn waeth yw ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol sy'n gynyddol ddod yn gystadleuaeth i fesur Brexit caled. Ni...
Lynne Neagle: Mewn eiliad. —a safonau lles anifeiliaid yn gyfnewid am gyw iâr wedi'i glorineiddio a chig eidion wedi'i chwistrellu â hormonau. Ac mae'n cefnogi Boris Johnson yn agored i gyflawni hyn ar ei ran. Yn gyflym, Mark.
Lynne Neagle: Dywedodd Aneurin Bevan unwaith ein bod yn gwybod beth sy'n digwydd i bobl sy'n oedi ar ganol y ffordd. Cânt eu taro. Yn anffodus i fy mhlaid i, dyna'n union a ddigwyddodd yn yr etholiadau Ewropeaidd ddydd Iau diwethaf. Roedd ein methiant i fod yn feiddgar ar fater pwysicaf ein cyfnod yn gadael y drws yn agored i gawdel o fanteiswyr, penboethiaid a thwyllwyr. Un peth a unai'r criw anfad hwnnw...
Lynne Neagle: Weinidog, rydych yn ymwybodol iawn o fy mhryderon fod diffyg cefnogaeth ar gael i bobl sydd wedi wynebu profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Nghymru. Mae hyn yn bwysig nid yn unig am fod hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol, ac mai dyma'r peth iawn i'w wneud, ond hefyd am y gwyddom fod pobl sy'n galaru oherwydd hunanladdiad yn llawer mwy tebygol o farw drwy hunanladdiad. Felly, mae...
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog, ac rwy'n falch iawn fod rhywun wedi'u penodi i fwrw ymlaen â hyn bellach, gan fy mod yn siŵr eich bod chi, fel fi, yn gweld bod yr ansicrwydd ynghylch SenCom wedi effeithio'n wael iawn ar forâl staff yn y gwasanaeth. Hoffwn ddiolch i chi am eich goruchwyliaeth a'ch mewnbwn i hyn, ac rwy'n falch o glywed y bydd hynny'n parhau. Tybed a wnewch chi ymuno â mi heddiw i...
Lynne Neagle: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth SenCom yng Ngwent? OAQ53957
Lynne Neagle: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygu gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru? OAQ53956
Lynne Neagle: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn cydnabod bod llawer ohonom ni o bob rhan o'r Cynulliad yn croesawu'n fawr eich cyhoeddiad o gefnogaeth i bleidlais y bobl, ond a ydych chi hefyd yn cydnabod bod angen eglurder llwyr a'i bod yn hanfodol eich bod chi a'ch holl gynrychiolwyr mewn unrhyw fforwm, gan gynnwys y Blaid Lafur, yn hollol glir? Felly, a wnewch chi gadarnhau eich bod chi'n...
Lynne Neagle: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei gefnogaeth i bleidlais y bobl ar Brexit? OAQ53978
Lynne Neagle: Pan gytunodd ein partneriaid Ewropeaidd i ymestyn y dyddiad terfyn Brexit ddeufis yn ôl, roedd y neges gan Jean-Claude Juncker yn glir iawn: peidiwch â'i wastraffu'r tro hwn. Ers hynny, rydym wedi cael chwe wythnos o drafodaethau ofer rhwng y Ceidwadwyr a Llafur, ac yn awr, mewn gweithred ddigyfaddawd o ail-syllu ar eu hunain, mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan ar fin cychwyn cystadleuaeth...
Lynne Neagle: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch Brexit? OAQ53930
Lynne Neagle: Daw un o'r dyfyniadau sy'n sefyll allan yn yr adroddiad hwnnw gan rywun a oedd yn ceisio tywys pobl ifanc drwy'r realiti newydd dryslyd hwnnw. Meddai: Mae gan lawer o bobl ifanc broblemau mawr o ran pryder, problemau iechyd meddwl... Mae'r ysgol yn fath da o ddull strwythuredig ar eu cyfer ac yn darparu cymorth iddynt... Pan ddaw'r cymorth hwnnw i ben, pan fydd y strwythur a'r drefn reolaidd...
Lynne Neagle: Nid ein cynnyrch domestig gros na rhagolwg economaidd yw'r man cychwyn ar gyfer fy achos felly, ond adolygiad thematig o farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad tebygol. Mae'r adolygiad hwnnw, a gyhoeddwyd yn 2014 ac sydd i'w ddiweddaru'n fuan, yn cynnwys astudiaethau achos a dadansoddiadau manwl ac yn archwilio ffactorau addasadwy a allai fod wedi cyfrannu at farwolaethau o...