Canlyniadau 361–380 o 2000 ar gyfer speaker:Andrew RT Davies

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad — Adroddiad 02-20 ( 2 Rha 2020)

Andrew RT Davies: Hoffwn gofnodi fy mod yn cefnogi'r adroddiad, a chefnogaf argymhellion yr adroddiad, ond fel cynrychiolydd y Ceidwadwyr ar y pwyllgor hwn, er trylwyredd, credaf y dylai'r holl bapurau fod wedi'u darparu i'r adroddiad—wedi'u hatodi wrth yr adroddiad. Collais y bleidlais ar hynny, ac rwy'n parchu'r penderfyniad hwnnw. A dyna pam y bydd y grŵp Ceidwadol yn ymatal ar yr adroddiad hwn, oherwydd...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Brechlynnau COVID-19 ( 2 Rha 2020)

Andrew RT Davies: Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn eich datganiad y bore yma, yn amlwg, fe dynnoch chi sylw at yr hyn a fydd yn hanfodol ar gyfer cyflawni'r rhaglen frechu, pa frechlyn bynnag a fydd—sef y staff a'r unigolion sy'n gyfrifol am gyflawni'r gwaith ar lawr gwlad. Fe ddywedoch chi fod ymarferion hyfforddi wedi'u cynnal gyda staff amrywiol ledled Cymru. A allwch roi sicrwydd inni fod yr ymarferion...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 2 Rha 2020)

Andrew RT Davies: Rwy'n ddiolchgar am eich ateb, Weinidog iechyd, yn enwedig eich sicrwydd y bydd miliynau o ddosau ychwanegol yn dod i'r Deyrnas Unedig erbyn diwedd mis Rhagfyr. Yr hyn yr hoffwn ei archwilio gyda chi hefyd yw gwytnwch y GIG ar gyfer ymdrin â'r rhaglen frechu a'i waith bob dydd. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom dreulio cryn dipyn o amser yn edrych ar amseroedd aros, ac rydym yn ymwybodol o’r...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 2 Rha 2020)

Andrew RT Davies: Rwy'n ddiolchgar am eich eglurhad, oherwydd yn sicr, rwy’n ei ystyried yn gerdyn apwyntiad, yn hytrach na cherdyn adnabod. Ond fel y dywedais, mae rhai rhannau o’r cyfryngau eisoes yn cyfeirio ato fel cerdyn adnabod, a chredaf fod hynny'n destun gofid. O'ch ateb, rwy’n cymryd na fydd gan y cerdyn hwn unrhyw statws cyfreithiol. Os caf symud ymlaen at ddyrannu, fe sonioch chi am rai o'r...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 2 Rha 2020)

Andrew RT Davies: Diolch, Lywydd. Weinidog, mae heddiw’n ddiwrnod newyddion da, diolch byth, ar ôl llawer o ddyddiau tywyll, a dweud y lleiaf. Rwy'n canmol pawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu'r brechlyn, neu’r brechlynnau, gan y bydd rhai eraill, gobeithio, yn dod i’r amlwg yn y dyfodol heb fod yn rhy bell. Diolch am eich datganiad y bore yma hefyd; roedd yn ddatganiad manwl ac ystyriol...

Datganiad gan y Llywydd ( 2 Rha 2020)

Andrew RT Davies: Diolch, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i chi am ystyried y cynnig a gyflwynwyd ar gyfer heddiw. Rwy'n deall bod yn rhaid i chi fel Llywydd bwyso a mesur wrth benderfynu sut i fwrw ymlaen â’r pethau hyn. Credaf ei fod yn gyfle a gollwyd. Clywaf yr hyn a ddywedwch am y Llywodraeth yn cyflwyno eu cynnig ddydd Mawrth nesaf i ni bleidleisio arno, ond mae hwn yn fater o gryn ddiddordeb i’r...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Brechlynnau COVID-19 ( 2 Rha 2020)

Andrew RT Davies: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddosbarthu brechlynnau COVID-19 ledled Cymru? OQ55958

8. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws — Cyfyngiadau Mis Rhagfyr ( 1 Rha 2020)

Andrew RT Davies: Diolch i chi, Llywydd. Dau bwynt cyflym, os caf i, Prif Weinidog. Yn gyntaf oll, hoffwn roi ar y cofnod fy mod i'n anghytuno â'r camau yr ydych chi wedi eu cymryd, ond rwy'n deall bod gennych chi, fel Llywodraeth, yr hawl i wneud hynny. Rwyf yn gofyn am eich cefnogaeth, serch hynny, wrth ofyn am ddadl yn y Siambr hon yfory. Rwyf wedi cyflwyno cynnig yn y Swyddfa Gyflwyno i'w ystyried. Rwy'n...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 1 Rha 2020)

Andrew RT Davies: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Un mewn cysylltiad â'r cynllun canser sy'n dod i ben ddiwedd y mis hwn, 31 Rhagfyr. Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dogfen olynol er gwaethaf y dyddiad terfyn hwn sy'n hysbys iawn i'r Llywodraeth. Rwy'n sylweddoli bod swyddogaeth y Llywodraeth wedi bod yn canolbwyntio ar COVID, ond nid rhywbeth sydd newydd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Marwolaethau yn Dilyn Coronafeirws a Gafwyd yn yr Ysbyty ( 1 Rha 2020)

Andrew RT Davies: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac yn amlwg, mae ein meddyliau gyda'r holl deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid, ble bynnag maen nhw yng Nghymru, i coronafeirws. Ond yn fy rhanbarth etholiadol fy hun, mae bwrdd iechyd Cwm Taf wedi dioddef nifer enfawr o farwolaethau, mewn ysbytai, ac mae'n ymddangos ei fod wedi mynd drwy'r tri ysbyty cyffredinol rhanbarthol sydd wedi'u lleoli o fewn y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Marwolaethau yn Dilyn Coronafeirws a Gafwyd yn yr Ysbyty ( 1 Rha 2020)

Andrew RT Davies: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y bobl sydd wedi marw ar ôl cael y coronafeirws yn ysbytai Cymru? OQ55957

8. Dadl y Ceidwadwyr: Effaith COVID-19 ar Wasanaethau Iechyd (25 Tach 2020)

Andrew RT Davies: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn am ailadrodd fy mod yn credu bod safbwynt y Ceidwadwyr ar gyfyngiadau'r cyfnod atal byr yn safbwynt cyson, a phe bai'r bleidlais honno'n dod heddiw, byddem yn sefyll wrth y bleidlais honno ac yn pleidleisio yr un ffordd. Oherwydd roedd cyngor SAGE ddiwedd mis Medi hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd effeithiolrwydd a chanlyniadau cyfnod atal byr...

8. Dadl y Ceidwadwyr: Effaith COVID-19 ar Wasanaethau Iechyd (25 Tach 2020)

Andrew RT Davies: Mae dadl a thrafodaeth i'w cael bob amser ynglŷn â pha arian sydd ar gael i'r GIG, a gwyddom fod symiau canlyniadol sylweddol—. Ac rwy'n derbyn bod y symiau canlyniadol hynny wedi dod, nid oherwydd ein bod yn achos arbennig a'n bod yn eu haeddu, ond oherwydd gwariant a ddigwyddodd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig sydd wedi ysgogi fformiwla Barnett. Mae gwerth £1.6 biliwn o arian yn...

8. Dadl y Ceidwadwyr: Effaith COVID-19 ar Wasanaethau Iechyd (25 Tach 2020)

Andrew RT Davies: Pan edrychwch ar amseroedd aros diagnostig a therapïau hefyd, bu naid sylweddol yn yr amseroedd aros hynny, a gwelwyd cynnydd mawr o rhwng 30,000 a 35,000 o bobl rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Erbyn hyn mae 143,000 o bobl yn aros am apwyntiadau diagnostig a therapi yn GIG Cymru. Ac yn ddiddorol, ar y mathau hynny o rifau, mae'r niferoedd wedi tyfu'n sylweddol ers mis Mehefin a mis Gorffennaf...

8. Dadl y Ceidwadwyr: Effaith COVID-19 ar Wasanaethau Iechyd (25 Tach 2020)

Andrew RT Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar ar y papur trefn y prynhawn yma. I'r rheini nad ydynt yn ymwybodol o drefniadau cyflwyno Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu Senedd Cymru fel y dylwn ei galw bellach, efallai y bydd y bobl hynny'n meddwl tybed pam nad ydym wedi rhoi'r amseroedd aros a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf yn y cynnig. Ond fel y...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Gwyliau Blynyddol (25 Tach 2020)

Andrew RT Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Gomisiynydd, a byddwn yn ategu'r sylwadau rydych wedi'u cofnodi—pa mor bwysig yw hi i les staff eu bod yn cymryd eu gwyliau, ac yn bwysig, yr ymroddiad a'r gwaith caled y mae'r holl staff ar draws y Comisiwn wedi'i wneud i gefnogi Aelodau yn y cyfnod anodd hwn. Fe'm trawyd gan y datganiadau a wnaethoch adeg y gyllideb, pan gafodd ei gosod, fod hwn yn fater roedd y...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Prifysgolion (25 Tach 2020)

Andrew RT Davies: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n derbyn bod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol, ond yn amlwg, bu cryn dipyn o symud ymhlith fyfyrwyr ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ym mis Medi, a hwn fydd yr ail gyfle i ailadrodd symud myfyrwyr yn y fath fodd, nid yn unig yng Nghymru, ond ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, ac yn wir, myfyrwyr rhyngwladol. Clywais yr hyn a ddywedoch—rydych o’r...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cefnogi Ardal Pontypridd (25 Tach 2020)

Andrew RT Davies: Yn amlwg, cyfle a gollwyd i lawer o fusnesau yn Rhondda Cynon Taf, ac yn enwedig ardal Pontypridd, oedd y gallu i gael mynediad at gyllid Llywodraeth Cymru, a gaeodd ar ôl 24 awr. Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi dweud ei fod yn obeithiol y bydd rownd gyllido newydd ar gael. Pan gaeodd y cyllid ar ôl 24 awr, dywedodd fod y pot hwnnw o arian wedi’i...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Prifysgolion (25 Tach 2020)

Andrew RT Davies: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynlluniau ar gyfer myfyrwyr yn dychwelyd i brifysgolion Cymru yn y flwyddyn newydd? OQ55924

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Gwyliau Blynyddol (25 Tach 2020)

Andrew RT Davies: 1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am faint o wyliau blynyddol a gronnwyd gan staff a'r effaith a gaiff hyn ar ei gyllid? OQ55925


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.