Sioned Williams: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gyson yn pennu un o'r lefelau uchaf o'r dreth gyngor yng Nghymru. Ni all preswylwyr ddeall pam mae'n costio cymaint yn fwy i gyngor Castell-nedd Port Talbot ddarparu gwasanaethau o'i gymharu â siroedd cyfagos. Mater o degwch sydd wrth wraidd hyn. Ac er fy mod i'n derbyn hawl ddemocrataidd...
Sioned Williams: 7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lefelau'r dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru? OQ56766
Sioned Williams: Rwy'n falch o allu gwneud cyfraniad byr i'r ddadl bwysig hon. Mae'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn nodi, oherwydd y pandemig, sydd wedi gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, fod pobl hŷn a'r rhai sy'n cael eu hystyried yn fregus yn glinigol yn wynebu heriau cynyddol wrth gyrchu pob math o ofal deintyddol, ac mae'n amlwg bod rhai mewn cartrefi gofal yn y categori hwnnw. A chredaf, hyd yn oed...
Sioned Williams: Ffurfiwyd Tenis Castell-nedd yn 2018 gan breswylwyr ardal Heol Dyfed, gyda'r bwriad o ailagor cyrtiau tenis oedd wedi bod ar gau ers 10 mlynedd. Mewn llai na tair blynedd, gwnaeth y grŵp o wirfoddolwyr lwyddo i godi dros £100,000 i osod wyneb newydd ar y cyrtiau, a chodi ffensys cadarn newydd. Mae'r grŵp yn falch iawn o sicrhau bod yr adnodd yma ar gael i'r gymuned gyfan, ac wedi cadw'r...
Sioned Williams: Gyda phencampwriaeth tennis Wimbledon wedi dechrau'r wythnos hon, rwy'n falch iawn o longyfarch grŵp o drigolion Castell-nedd sydd wedi gwneud gwaith adnewyddu ar gyrtiau tennis y dref. Ac maent wedi cael eu cydnabod gan y Gymdeithas Tennis Lawnt yn eu gwobrau blynyddol fel un o'r prosiectau tennis cymunedol gorau yn y DU. Tipyn o gamp.
Sioned Williams: Diolch. Rydyn ni'n gwybod bod yna lawer o rwystrau sy'n annog grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys menywod, rhag sefyll am swydd etholedig. Gall yr oriau hir fod yn anodd delio â nhw, yn enwedig yn sgil gofynion gofal plant, gofalu neu gyfrifoldebau eraill. Fel dŷch chi wedi sôn, yn ystod tymor diwethaf y Senedd, argymhellodd dau adroddiad y dylid caniatáu rhannu swyddi...
Sioned Williams: Diolch. Rwy'n ymwybodol fod trafodaethau wedi'u cynnal yn nhymor diwethaf y Senedd ynghylch pa mor briodol yw'r ddeddfwriaeth gyfredol mewn perthynas â chludiant rhwng y cartref a'r ysgol. Nid yw'r ddeddfwriaeth cludiant rhwng y cartref a'r ysgol sydd mewn grym ar hyn o bryd yn darparu cludiant am ddim i blant ysgol gynradd os ydynt yn byw o fewn dwy filltir i'w hysgol, neu o fewn tair...
Sioned Williams: Mewn tirwedd economaidd mor llwm, a heb y grym, fel y nodoch yn gynharach, i sicrhau system les decach, fwy trugarog na’r hyn y mae Llywodraeth Dorïaidd San Steffan yn ei chynnig, mae’r gronfa cymorth dewisol yn ffynhonnell gymorth hanfodol. Er bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi swm ychwanegol o arian yn y gronfa cymorth dewisol ac wedi sicrhau bod y meini prawf cymhwysedd ar gyfer...
Sioned Williams: Diolch. Mae'r un adroddiad wedi canfod nad oes gan un o bob tair aelwyd yng Nghymru ddigon o arian i brynu unrhyw beth tu hwnt i hanfodion bywyd bob dydd. Rŷn ni'n sôn am 110,000 o aelwydydd, tua'r un faint o aelwydydd sydd yn ninas Abertawe. Mae cannoedd o filoedd o bobl ledled ein cenedl yn cael eu gorfodi i fenthyg arian, yn mynd ymhellach i ddyled, yn gorfod torri nôl ar fwyd, dillad,...
Sioned Williams: Diolch, Lywydd. Weinidog, rydym wedi clywed eisoes y prynhawn yma am yr adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan, sydd wedi rhoi cipolwg i ni—fel y mae teitl yr adroddiad yn ei awgrymu—ar dlodi yng Nghymru yng ngwanwyn 2021. Mae'r adroddiad yn syfrdanol, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno. Yr hyn sy'n fwy syfrdanol yw'r problemau y mae'r pandemig wedi'u gwaethygu. Nid yw'r...
Sioned Williams: 8. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch priodoldeb y ddeddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud â chludiant o'r cartref i'r ysgol? OQ56697
Sioned Williams: 2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gyflwyno trefniadau rhannu swyddi ar gyfer Aelodau'r Senedd? OQ56696
Sioned Williams: Wel, mae'n bleser gwirioneddol dilyn y cyhoeddiad hwn gan y Dirprwy Weinidog y prynhawn yma, ac i siarad ar y cyfle cyntaf y mae'r Senedd hon wedi ei chael i drafod cydraddoldeb LHDTQ+ yng Nghymru, ac rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad. Fel llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau, rwy'n angerddol dros sicrhau nad ydym fel cenedl byth yn rhoi'r gorau...
Sioned Williams: Hoffwn i enwebu Rhys ab Owen.
Sioned Williams: Diolch, Gweinidog. Er gwaethaf y ffaith bod y rhaglen datblygu gwledig wedi rhedeg am nifer o flynyddoedd gyda'r nod o hyrwyddo twf economaidd gwledig cynaliadwy, rydyn ni'n dal i weld lefelau incwm yn rhai o'n hardaloedd gwledig ni yng Ngorllewin De Cymru yn styfnig o isel. Wrth gwrs, mae gan raglenni fel bargen ddinesig bae Abertawe y potensial i gefnogi twf mewn cymunedau gwledig, gyda...
Sioned Williams: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen datblygu gwledig yng Ngorllewin De Cymru? OQ56653
Sioned Williams: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau'r dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru?
Sioned Williams: Yn gyntaf, felly, ar y cynllun ac ar yr ymgynghoriad, allwch chi esbonio sut mae argymhellion yr Athro Ogbonna wedi'u hymgorffori i mewn i'r cynllun? Yn ogystal, rydych yn ymestyn y cyfnod ymgynghoriad er mwyn sicrhau mwy o fewnbwn. Beth yw eich proses chi o sicrhau bod lleisiau croestoriadol yn gallu bwydo i mewn? Ac yn olaf ar y cynllun, rydych yn awyddus i gynnwys nifer o sefydliadau...
Sioned Williams: Mae'n rhaid i ni roi i bawb bresenoldeb yn ein hanes, rhan i'w chwarae wrth ddychmygu ein dyfodol a llais ac amlygrwydd yn y presennol.
Sioned Williams: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, fel Aelod newydd i'r Senedd, rwy'n falch iawn o ymateb i'r datganiad hwn ar bwnc mor bwysig o fewn fy wythnosau cyntaf fel Aelod etholedig ac fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau. Mae gwaredu hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol yn fater cwbl greiddiol i Blaid Cymru ac yn un rwy'n benderfynol o weld cynnydd yn ei gylch erbyn...