Gareth Bennett: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi cyfalaf yng Nghanol De Cymru? OAQ52360
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Cytunaf â'r teimladau sydd wrth wraidd y datganiad. Cŵn sydd gan y mwyafrif o aelwydydd sydd ag anifeiliaid anwes, ac mae nifer o faterion ynghylch lles cŵn, un amlwg yw: mewn cymdeithas heddiw, a ydynt yn cael digon o ymarfer ac ysgogiad cyffredinol? Y dyddiau hyn, mae llawer o aelwydydd yn cynnwys cyplau sydd ill dau yn gweithio yn ystod y...
Gareth Bennett: Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw a hefyd i'r bobl a gymerodd ran yn yr ymchwiliad, gan gynnwys y bobl ddigartref a roddodd amser i sôn wrthym am eu profiadau personol, ac fel y crybwyllodd Bethan Sayed roedd hynny'n ddadlennol iawn—y rhan fwyaf dadlennol o'r ymchwiliad mae'n debyg. Un ffactor a ddaeth yn amlwg i mi yn ystod y rhyngweithio hwn oedd y berthynas agos i...
Gareth Bennett: Yn ffurfiol.
Gareth Bennett: Mae amrywiaeth yn rhywbeth yr ydym ar fin ei archwilio yn y pwyllgor llywodraeth leol, felly byddwn yn bwydo i mewn i'r broses honno gobeithio, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n ymwneud â ni. Rhoesoch ateb diddorol ynglŷn â mater y refferendwm lleol, gan gyfeirio at Galiffornia fel enghraifft, felly mae hynny'n galondid. O gofio eich diddordeb yn y syniadau hyn a'r gwahanol ffurfiau ar...
Gareth Bennett: O’r gorau. Rwy'n credu y gallwn dderbyn yr anhawster o gael cynghorau lleol, a arweinir gan y Blaid Lafur, ac sy'n gwneud yn dda o dan drefn y cyntaf i'r felin, i newid i system wahanol. Rwy'n credu y gallech chi gydnabod y gallai hynny fod yn broblem. Ond fe symudwn ymlaen. Maes arall lle mae gennym ddiffyg democrataidd yng Nghymru yw’r system gynllunio. Mae llawer o gymunedau lleol yn...
Gareth Bennett: Diolch, Lywydd. Roedd gennyf ddiddordeb yn rhai o'ch sylwadau yn gynharach, Weinidog, mewn ymateb i gyfraniad Janet Finch-Saunders, yn enwedig pan siaradoch chi am rymuso'r dinasyddion ac mai'r mater allweddol sy'n wynebu llywodraeth leol yw sut i rymuso dinasyddion ac fe ddywedoch chi hefyd mai'r bobl sy'n berchen ar y wlad, sy'n syniadau urddasol iawn. Mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn y...
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, a diolch hefyd am y briffio yn gynharach. Fel yr oeddech chi'n sôn, rydym ni, UKIP, wedi bod yn gefnogol o'r math hwn o symudiad. Fe wnaethom ni drafod y mater ffioedd asiantaethau gosod yn un o'n dadleuon ein hunain y llynedd, felly mae hwn yn faes yr ydym yn cydymdeimlo a'r problemau a wynebir gan denantiaid yn y sector rhentu preifat. Ar yr...
Gareth Bennett: Sut y mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gefnogi'r broses o leihau digartrefedd?
Gareth Bennett: Diolch, Lywydd, a diolch i bawb a gyfrannodd at ddadl go fywiog. Fe gynhesodd rywfaint ar y diwedd, ond roedd yn ddiddorol ar ei hyd, rhaid imi bwysleisio hynny. Michelle Brown a agorodd y ddadl. Soniodd am y diffyg gwybodaeth berthnasol i ddarpar fyfyrwyr pan fyddant yn mynd drwy'r system ysgolion a diffyg gwybodaeth ynghylch pethau fel cymharu cyrsiau a manylion cyflogau tebygol—y math o...
Gareth Bennett: Ie, gwnaed y pwynt gan Simon Thomas yn gynharach, a buaswn yn cytuno mai ceir sy'n achosi'r perygl mwyaf. Rwy'n credu mai'r pwynt rwy'n ei wneud yw nad yw'r tri pheth gwahanol yn cymysgu o gwbl. Ceir, beiciau, cerddwyr, yr anhawster yw ceisio dod o hyd i ffordd ymarferol o annog beicwyr a cherddwyr i wneud rhagor o ymarfer corff a defnyddio'r math hwnnw o drafnidiaeth heb i'r naill beth...
Gareth Bennett: Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rydym yn cefnogi'r hyn y maent yn galw amdano heddiw yn fras. Mae'r cynnig ei hun yn niwlog braidd, ond mae'n ein cyfeirio at eu Papur Gwyn, 'Dinasoedd Byw'. Mae'r Papur Gwyn yn ddiddorol ac mae'n canolbwyntio, ymhlith pethau eraill, ar feysydd sylfaenol trafnidiaeth a thai, a chredaf y dylent fod wedi ychwanegu cyflogaeth, sy'n elfen...
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am eich datganiad heddiw. Rwy'n sylweddoli, o'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud ac o'r hyn y mae cyfranwyr eraill wedi'i ddweud, bod hyn wedi bod yn dipyn o broblem ers cryn amser. Fel y gwnaethoch chi ddweud, mae'r safbwyntiau yn dueddol o fod yn begynol, yn arbennig ar un mater penodol hwnnw sef y cyfraddau comisiwn. Felly, bu'n dasg anodd i chi. Gallaf weld bod hynny'n...
Gareth Bennett: Un o'r materion y cyfeiriwyd ato ddoe mewn adroddiadau yn y wasg oedd y bydd y taliadau a wnaed i ddeiliad newydd y fasnachfraint yn dibynnu i ryw raddau ar eu darpariaeth o wasanaeth, sy'n swnio'n dda. Nawr, roedd rhai o'r meini prawf y cyfeiriwyd atynt yn cynnwys glendid, ansawdd gwasanaeth a phrydlondeb, ond un o'r problemau gyda gwasanaethau rheilffyrdd wedi eu preifateiddio yr ydym ni...
Gareth Bennett: Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl heddiw. Fel y dywedodd llawer o bobl, ceir cryn dipyn o bryder ymhlith y cyhoedd ynglŷn â'r mater hwn. Tystiolaeth o hynny yw'r 7,000 a mwy o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hon. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol ein bod yn trafod y pwnc hwn heddiw yma yn y Cynulliad. Efallai fod gwybodaeth y cyhoedd am y wyddoniaeth sy'n sail...
Gareth Bennett: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Lywydd, am eich datganiad heddiw. Soniasoch fod cefnogaeth drawsbleidiol wedi bod i'r syniad o senedd ieuenctid yn y gorffennol ac yn wir, mae'n parhau. Mae UKIP yn parhau i fod yn gefnogol i'r syniad. Rydych yn cydnabod bod llawer o heriau a phroblemau'n wynebu pobl ifanc yng Nghymru heddiw, ac mae cael cyfrwng cyfathrebu rheolaidd rhwng y Cynulliad ar y...
Gareth Bennett: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o feysydd chwarae ysgolion?
Gareth Bennett: Pa arweiniad y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol ynghylch adennill treth gyngor nas talwyd?
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae yna ymadrodd, ymadrodd penodol yr rydym ni'n ei ddefnyddio yma heddiw, sef 'creu lleoedd'. Mae'n ymadrodd hardd, ond mae'n rhaid inni wneud yn siŵr ei fod mewn gwirionedd yn golygu rhywbeth. Soniodd prif gynllunydd Llywodraeth Cymru fod angen i gynllunio ddefnyddio dull cyfannol er mwyn i gynllunwyr allu llunio lleoedd sy'n ddeniadol ac yn...
Gareth Bennett: Ie, rwy'n sylweddoli eich bod yn gwahaniaethu rhwng alcoholigion a rhai sy'n yfed i raddau peryglus, ac mae gwahaniaeth o'r fath yn bodoli, ond er hynny ni chredwn y bydd y ddeddfwriaeth yn ymdrin yn effeithiol â phroblem yfed peryglus hyd yn oed. I fynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud, efallai y bydd alcoholig ond yn gwario mwy o'i arian ar alcohol ar ôl gosod isafbris uned ac yn...