Rhys ab Owen: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch diweddariad i'r adolygiad o gymorth cyfreithiol troseddol?
Rhys ab Owen: Ym mhob adroddiad blynyddol, fel dŷch chi wedi ei ddweud, mae Syr Wyn Williams wedi sôn am bwysigrwydd annibyniaeth uned Tribiwnlysoedd Cymru. Nawr, ddim am un eiliad dwi'n cwestiynu annibyniaeth yr uned yna, ond, fel rŷch chi'n ymwybodol, mae'n hanfodol bod cyfiawnder yn cael ei weld yn cael ei weithredu. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno, ond er mwyn y record, a ydych chi'n cytuno bod...
Rhys ab Owen: Gan symud ymlaen at strwythur y tribiwnlys, os yw Llywodraeth Cymru a'r Senedd o ddifrif ynghylch datganoli cyfiawnder yma, mae angen i ni sicrhau bod yr hyn sydd gennym ni eisoes yn cael ei redeg yn dda. Ym mis Hydref 2019, gwnaeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru lawer o argymhellion ynghylch tribiwnlysoedd Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld adroddiad llawn Comisiwn y Gyfraith fis...
Rhys ab Owen: Hoffwn i hefyd ategu'r deyrnged i Syr Wyn Williams, i aelodau'r tribiwnlysoedd, ac uned Tribiwnlysoedd Cymru am yr holl waith arbennig maen nhw wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn hynod heriol yma gyda'r pandemig. Rwy'n falch iawn, oherwydd yr estyniad synhwyrol i gyfnod penodiad Syr Wyn i fis Mawrth blwyddyn nesaf, mai nid dyma fydd adroddiad blynyddol olaf Syr Wyn. Rŷn ni wedi bod yn hynod...
Rhys ab Owen: Wrth hyrwyddo datblygiad y lle hwn i dderbyn rhagor o bwerau, un o'r dadleuon cryfaf y gallwn eu rhoi yw ein bod ni'n gallu gwneud pethau'n well yma yng Nghymru nag sy'n digwydd yn San Steffan. Nid yw hyn yn arfer da wrth ddrafftio cyfraith yng Nghymru. Ac am y rhesymau hyn, ni fyddwn ni, fel Plaid Cymru, yn pleidleisio o blaid y cydsyniad deddfwriaethol. Diolch yn fawr.
Rhys ab Owen: Mae darpariaethau Cymreig wedi'u hychwanegu i'r Bil yma heb unrhyw gyfle am graffu go iawn yn y lle hwn. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd y Bil yn ddwyieithog, na fydd yn rhan o gyfraith Cymru—a thrwy hynny, yn ei wneud yn llai hygyrch ac yn cymhlethu y setliad datganoledig ymhellach. Mae hyn hefyd yn mynd yn erbyn egwyddorion y Llywodraeth.
Rhys ab Owen: Yn ogystal â hyn, mae'r rheoliad dros dro a osodwyd ar 1 Tachwedd ac a ddaeth i rym yr un diwrnod—. Fel y dywedodd y Cadeirydd, rydym ni i gyd yn gwerthfawrogi bod angen torri'r rheol 21 diwrnod. Ond, mae yna dorri rheolau ac mae yna dorri rheolau—cafodd ei osod am 9 a.m. a'i orfodi erbyn 6 p.m. Cafodd hyn ei wneud dros saith mis ar ôl i'r rheoliad gael ei gyflwyno yn Lloegr. Nid yw hyn...
Rhys ab Owen: Mae sylwadau'r Gweinidog am y Bil yn cyd-fynd â Lloegr yn tanseilio datganoli ymhellach drwy awgrymu, fel y soniodd y Cadeirydd, mai dilyn Lloegr yw'r norm. Gyda Llywodraeth San Steffan yn arfer ei hundebaeth gyhyrol, a ni yma yn clywed, yn gwbl gywir, dro ar ôl tro, gan Weinidogion Cymru am yr effaith y mae Llywodraeth San Steffan yn ei chael ar y setliad datganoli, ni allaf ddeall y dull...
Rhys ab Owen: Pam fod disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymgynghori â Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno Bil sy'n ymwneud â Lloegr yn unig, mewn maes sy'n ddatganoledig i Gymru? Rôl Senedd Cymru yw pasio Deddfau mewn meysydd datganoledig. Nid rôl Llywodraeth San Steffan yw ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch a ydyn nhw am gynnwys rhywbeth mewn Bil yn San Steffan.
Rhys ab Owen: Mae'r pwyllgor wedi gofyn cyfres o gwestiynau pwysig, nid i fod yn lletchwith, Weinidog, nid i ofyn cwestiynau er mwyn gofyn cwestiynau, ond oherwydd mai dyna swyddogaeth y pwyllgor, a dyletswydd y Gweinidog yw ateb y cwestiynau hynny, yn enwedig wrth ddefnyddio'r system cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n osgoi craffu llawn gan y Senedd. Mae hanes y Bil, fel y soniodd Cadeirydd y pwyllgor,...
Rhys ab Owen: Gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr gyda sylwadau Cadeirydd y pwyllgor? A diolch yn fawr iddo ef a'r tîm clercio am yr holl waith maen nhw'n ei wneud. Gaf i hefyd ddweud bod hyn yn gonsýrn nid yn unig i'ch adran chi, Weinidog, ond i nifer o adrannau'r Llywodraeth? Ac mae consýrn mawr gennyf i ac aelodau'r pwyllgor ynglŷn â'r broses LCM a hynny'n ein tanseilio ni fel...
Rhys ab Owen: —eich llongyfarch chi ac Adam Price—
Rhys ab Owen: —ar gyrraedd y tir uwch, y tir cyffredin uwch, ac rwy'n gobeithio y bydd pleidiau eraill yn dilyn hynny, ond rwy'n siŵr y bydd pobl eraill yn ceisio ei dynnu i lawr yn ddiweddarach yn y sesiwn hon. Mae'r ymrwymiad i geisio sicrhau sero net erbyn 2035 yn rhan mor bwysig o'r cytundeb cydweithredu rhwng ein pleidiau, a bydd technoleg yn chwarae rhan allweddol wrth wneud hynny. Fe wnaethoch...
Rhys ab Owen: Prif Weinidog, neithiwr, gwyliais gyda fy merch blwydd oed bennod o Peppa Pig, y cartŵn a ysbrydolodd Prif Weinidog y DU ar ôl ymweliad â pharc thema. Nid wyf i'n gymaint o ffan â Phrif Weinidog y DU, ond roedd gan Peppa rai geiriau doeth yn y bennod neithiwr. [Chwerthin.] Dywedodd, 'Mae dau fath o falŵn yn y byd: balwnau sy'n mynd i fyny a balwnau sy'n mynd i lawr', ac, os yw'n wir am...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn i longyfarch cymanfa ganu Westminster ar ddathlu ei chanmlwyddiant eleni. Sefydlwyd y gymanfa yn 1920 gan y Prif Weinidog ar y pryd, David Lloyd George, i goffau'r bobl a fu farw yn y rhyfel byd cyntaf. Wrth gwrs, eleni maen nhw'n dathlu'r canmlwyddiant oherwydd, am resymau amlwg, roedden nhw'n methu cwrdd y llynedd. Braint fawr oedd llywyddu y gymanfa eleni...
Rhys ab Owen: Dwi’n falch i glywed hynny, Weinidog, oherwydd, fel gwnaeth Rhun ap Iorwerth awgrymu, mae hanes Cymru yn llawn o ffermwyr yn cael eu gorfodi i adael eu tir. Dwi’n falch i weld y Dirprwy Weinidog, Lee Waters, yma—mae e wedi siarad yn bwerus iawn am deulu ei dad-cu yn cael eu taflu allan o’r Epynt yn 1940. Colli Epynt, colli cymuned gyfan, ac fel roedd Rhun ap Iorwerth yn dweud, colli...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Weinidog. Etholiadau wedi'u cynnal yn effeithiol yw conglfaen unrhyw ddemocratiaeth dda, ac mae'n bwysig fod pleidleiswyr yn teimlo bod pleidleisio'n hygyrch iddynt. Ar ddiwrnod etholiad y Senedd yn gynharach eleni, yn ddealladwy oherwydd rheoliadau COVID, bu'n rhaid inni bleidleisio mewn ffordd wahanol. Ond un o sgil-effeithiau hynny oedd ciwiau hir mewn llawer o orsafoedd...
Rhys ab Owen: 6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r trefniadau ar gyfer yr etholiadau lleol flwyddyn nesaf i sicrhau eu bod yn cael eu rhedeg yn effeithiol? OQ57188
Rhys ab Owen: 8. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ffermwyr sy'n denantiaid ynghylch sicrwydd deiliadaeth? OQ57181
Rhys ab Owen: Cwnsler Cyffredinol, gan sôn eto am y panel arbenigwyr, sut fyddan nhw'n cael eu hapwyntio, a phryd rŷch chi'n meddwl y byddan nhw'n cael eu hapwyntio? A dwi'n sylwi y bydd yr ysgrifenyddiaeth ar wahân i'r gwasanaeth sifil, ond a fyddai modd sicrhau bod yr ysgrifenyddiaeth yn cael cefnogaeth adnoddau y gwasanaeth sifil pan fyddan nhw ei hangen?