Jack Sargeant: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Ac a gaf i hefyd dalu teyrnged i'r gweithlu yng ngwaith dur Shotton, gan gynnwys fy nghyd-aelodau yn undebau Community ac Unite? Mae eu gwaith caled a'u medrusrwydd yn cynhyrchu'r dur gorau mewn gwirionedd, gan wneud safle Shotton yn broffidiol a dweud y gwir. Gweinidog, rydych chi eisoes wedi gwneud sylwadau ynglŷn â'r ganolfan logisteg...
Jack Sargeant: Fel y dywedwyd o'r blaen, fel yn achos llawer o gymunedau ledled Cymru, roedd Sul y Cofio yn wahanol iawn yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac roedd yr un fath ar draws y Deyrnas Unedig. Ond roeddwn yn ddiolchgar iawn am y cyfle i osod torch i gofio'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf i gadw ein rhyddid. Fodd bynnag, gwelais golli gweld ffrindiau a chymdogion ar yr hyn sydd fel arfer yn achlysur mawr...
Jack Sargeant: Weinidog, mae'n amlwg fod y coronafeirws wedi cael effaith ar fusnesau yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac rwyf wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r diwydiant yn yr ardal hon, ac mae eu methiant a'u harafwch i ymateb wedi costio mewn swyddi. Nawr, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i barhau i helpu. Ers cael fy ethol i'r Senedd hon, rwyf wedi bod yn gefnogwr mawr i...
Jack Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn swyddi yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Jack Sargeant: Diolch, Llywydd dros dro, a diolch, Gweinidog. Gweinidog, fel y gwyddoch, rwy'n angerddol iawn dros Lywodraeth Cymru yn cyflawni metro'r gogledd-ddwyrain, ac mae bysiau'n mynd i chwarae rhan annatod yn hynny. Mae fy nghymunedau eisiau cael bysiau er mwyn pobl, nid er mwyn gwneud elw. Felly, Gweinidog, sut y bydd eich rheolau newydd yn gwrthdroi'r rheini a osodwyd gan y Torïaid, a...
Jack Sargeant: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ychydig o dan flwyddyn yn ôl, daeth Prif Weinidog y DU i'm hetholaeth, Alun a Glannau Dyfrdwy, ac addawodd lawer mwy o swyddogion heddlu a strydoedd mwy diogel. Nawr, mae'r addewid hwn wedi'i dorri. Gofynnais yn ddiweddar i'm trigolion am eu profiadau o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a dywedasant yn blaen wrthyf: mae llai o heddlu ar y...
Jack Sargeant: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ55738
Jack Sargeant: Diolch am eich ateb, Weinidog, a diolch hefyd am gytuno i gyfarfod â Chyngor Cymuned Pen-y-ffordd yn fy etholaeth gyda'r Dirprwy Weinidog. Mae cyngor Pen-y-ffordd yn teimlo'n wirioneddol angerddol am eu hardal ac maent yn wybodus iawn ynglŷn â materion cynllunio. Weinidog, gwn eich bod chi'n awyddus i gymunedau gael mwy o rôl yn y broses o lunio eu hamgylchedd eu hunain; sut y mae sicrhau...
Jack Sargeant: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gall partïon a chanddynt fuddiant lywio polisi cynllunio Llywodraeth Cymru? OQ55691
Jack Sargeant: Gweinidog, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ar wasanaethau iechyd trawsffiniol ac, yn benodol, bryderon y mae trigolion wedi'u codi gyda mi ynghylch llawdriniaeth ddewisol. Mae trigolion yn ceisio sicrwydd y byddan nhw'n parhau i allu manteisio ar wasanaethau yn Lloegr drwy'r pandemig, yn enwedig yn Ysbyty Iarlles Caer. A wnewch chi ofyn am ddatganiad ysgrifenedig neu...
Jack Sargeant: Diolch am yr ateb yna, Gweinidog, a diolch am eich ymrwymiad parhaus i roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod. Fel y gwyddoch, rwy'n llysgennad Rhuban Gwyn, ac rwy'n falch iawn o ddilyn yn ôl traed fy nhad wrth gefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn. Bydd Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni yn wahanol iawn ond nid yw'n llai pwysig. Nawr, rwyf wedi siarad â nifer o oroeswyr sy'n ofni bod y...
Jack Sargeant: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod? OQ55685
Jack Sargeant: Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo diogelwch cymunedol yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Jack Sargeant: Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol iawn mai'r gweithlu yn Alun a Glannau Dyfrdwy yw'r mwyaf medrus yn y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â hwy fel peiriannydd ac wedi gweld hyn â’m llygaid fy hun. Dylai'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi fod yn ymwybodol o'r ffaith hon hefyd, a dylem ei hyrwyddo’n frwd. Felly, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn sôn yn...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad ar ran Llywodraeth Cymru a hefyd yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw o bob ochr i'r ddadl, a'r rhai sydd wedi cefnogi'r cynnig sydd gerbron heddiw. Os caf, hoffwn gloi drwy fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd a sut y gallai incwm sylfaenol cyffredinol leddfu'r rhain. Yn...
Jack Sargeant: Lywydd, mae'r ffactor cyntaf gyda ni eisoes, a gellir ei weld o'n cwmpas: tlodi. Mae tlodi'n prysur ddod yn endemig—digartrefedd a thlodi bwyd yw'r arwyddion mwyaf gweladwy. Mae Marcus Rashford, y pêl-droediwr, wedi taflu goleuni ar y mater hwn yn ddiweddar, gan ddefnyddio ei stori bersonol ei hun i egluro pa mor ofnadwy yw mynd i'r ysgol yn llwglyd. Gall effeithiau hyn bara am oes, a...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n ddiolchgar iawn i Bwyllgor Busnes y Senedd ac i'r rhai a gefnogodd y cynnig hwn gan ganiatáu i'n Senedd fod yn rhan o'r sgwrs gynyddol ynghylch incwm sylfaenol cyffredinol. Nid syniad newydd yw'r incwm sylfaenol cyffredinol, ond mae'n syniad sy'n dechrau codi ei lais. Fel bob amser, mae gwrthwynebiad i newid a bydd rhai bob amser yn mynnu nad yw ceisio...
Jack Sargeant: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae un o fy etholwyr, Simon Walker o Glwb Bowlio Cei Connah, newydd gael ei ethol yn gadeirydd pwyllgor datblygu BowlsCymru. Fel y bydd llawer o bobl yn gwybod, mae bowls ar lawr gwlad yn darparu manteision enfawr i iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl. Dywed Simon wrthyf mai dyma'r unig gamp y gallwch ei chwarae drwy gydol eich oes—gall plentyn naw...
Jack Sargeant: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chlybiau chwaraeon ar lawr gwlad i'w helpu i gysylltu â chymunedau? OQ55542
Jack Sargeant: Os gallaf i ddechrau drwy gofnodi fy nghefnogaeth i gyfraniad fy nghyd-Aelod Nick Ramsay, o ran atal hunanladdiad ac iechyd meddwl. Yn ail, Gweinidog, mae'r adferiad economaidd o goronafeirws yn rhywbeth y mae angen i ni ddechrau cynllunio ar ei gyfer a mynd i'r afael ag ef nawr. Efallai bod Aelodau'n ymwybodol i mi ysgrifennu darn ar wefan Labourlist ddechrau'r haf er mwyn i hynny fod yn...