Mabon ap Gwynfor: 'codi a chynnal a chadw'r gwaith cyhoeddus sy'n hwyluso masnach unrhyw wlad, megis ffyrdd da, pontydd, camlesi mordwyadwy, harbyrau ac ati.'
Mabon ap Gwynfor: Hynny ydy, mae'r twf economaidd yn ddibynnol ar fuddsoddiad mewn isadeiledd. Mae isadeiledd yn luosogydd economaidd, wedi'r cyfan. Yn ôl yn 2015, dywedodd yr OECD bod yna anghydbwysedd mawr rhanbarthol yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae arnaf i ofn bod yna berig i wendidau'r Deyrnas Gyfunol gael eu hadlewyrchu yma yng Nghymru. Er enghraifft, mae ardaloedd gwledig yn parhau i ddioddef o ddiffyg...
Mabon ap Gwynfor: Mae’r rheoliadau a chanllawiau mae’r Llywodraeth wedi’u gosod dros y ddwy flynedd bron ddiwethaf yma wedi, ar y cyfan, cael cefnogaeth eang, ond mae’r gefnogaeth yma yn gwanhau, a hyn yn dilyn y penderfyniad i atal rhagor na 50 o bobl i ymweld â digwyddiadau awyr agored. Mae coronafeirws, o’r annwyd cyffredin i COVID-19, yn lledu ar yr adeg yma o’r flwyddyn oherwydd bod pobl yn...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a blwyddyn newydd dda. Mi fyddwch chi, Lywydd, yn ymwybodol o'r dystiolaeth mae fy nghyfaill Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd yn San Steffan, ac yn wir ein cyfaill ni yma, Rhys ab Owen, wedi ei chyflwyno o'u profiadau nhw wrth sôn am eu hanwyliaid sydd efo dementia ac yn byw mewn cartref gofal yng nghanol coronafeirws. Mae pawb yn dallt yn...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i chi am y sylwadau, Brif Weinidog. Roeddwn i am dynnu sylw at briodasau ac angladdau, felly dwi'n ddiolchgar iawn i chi am y sylwadau rydych chi wedi'u gwneud, ond mae'r sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud yn awgrymu y bydd y pwysau ar y trefnwyr i ddehongli beth sydd yn ddigonol neu beth sydd yn ddiogel, ac yn y blaen, ar adeg sydd yn adeg ddigon annymunol i'r rheini sy'n trefnu...
Mabon ap Gwynfor: Dwi am nodi ar y cychwyn fan hyn y bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn hwn fel mater o egwyddor. Mae'r Llywodraeth bellach wedi gosod cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer 14 o Filiau'r Deyrnas Gyfunol o fewn misoedd cyntaf y Senedd hon. Mae hyn yn fwy nag unrhyw flwyddyn arall, ac eithrio 2020. Mae nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n dod ger ein bron yn destun pryder....
Mabon ap Gwynfor: Prynhawn da, a gobeithio bod pawb yn fy nghlywed i. Dyna ni, a diolch yn fawr iawn i’r Gweinidog am y datganiad. Gadewch i ni gymryd ennyd i’n hatgoffa ein hunain pam ein bod ni'n trafod y mater yma heddiw. Yn syml, mae’r system diogelwch adeiladau presennol yn un sydd wedi caniatáu diwylliant o dorri corneli er mwyn cynyddu elw, ar draul diogelwch y cyhoedd. Fedrwn ni fyth, felly,...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Mae fy etholwr, David Graves, wedi bod yn aros i gael adolygiad annibynnol allanol i fewn i driniaeth a gofal ei fam ar ward Hergest ers dros dair blynedd. Gofynnwyd i Donna Ockenden, awdur adolygiad Ockenden, gynnal yr adolygiad gan y bwrdd iechyd yng Ngorffennaf 2018, ond eto ni ddilynodd y bwrdd y cais hwnnw i fyny. Mae hi, Donna Ockenden, wedi...
Mabon ap Gwynfor: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gofal iechyd meddwl yn Nwyfor Meirionnydd? OQ57383
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr, Rhys, am gyflwyno'r ddadl yma. Mae'r ddeddfwriaeth yma'n cael ei dal i fyny, fel rydyn ni wedi clywed, fel peth blaengar sy'n torri tir newydd, ac, i raddau helaeth, mae hynny'n gywir. Os caf i gychwyn trwy gydnabod llwyddiant y ddeddfwriaeth. Pan oeddwn i'n gynghorydd sir, roedd pob adroddiad oedd yn dod gerbron y cyngor gan y swyddogion yn gorfod cynnwys dadansoddiad o...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i chi, Dirprwy Lywydd. Dwi am dalu teyrnged y prynhawn yma, os gwelwch yn dda, yn arbennig iawn i holl staff meddygfeydd Dwyfor Meirionnydd a thu hwnt am eu gwaith diflino yn rhoi'r brechlyn ym mraich cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru. Y staff meddygol ymroddedig yma sydd yn cadw ni oll yn ddiogel, ac mae'n dyled ni yn fawr iddyn nhw. Dwi am longyfarch yn benodol un...
Mabon ap Gwynfor: Mae nifer o gymunedau ar lannau Llŷn wedi gweld tirlithriadau sylweddol dros y ddwy flynedd diwethaf. Y mwyaf amlwg oedd y tirlithriad mawr yn Nefyn yn ôl ym mis Ebrill, ond mae eraill wedi bod yno ac ar draws yr arfordir ers hynny. Yn wir, mae'r British Geological Survey wedi clustnodi Nefyn fel parth perygl tirlithriad. Mae'r tirlithriadau yma yn bygwth bywydau ac eiddo, ac yn achos poen...
Mabon ap Gwynfor: Mae'n drist clywed yr ystadegau yna heddiw o ran trais yn y cartref. Roeddwn i'n ymweld â'r heddlu a oedd yn gyfrifol, y sarjant a oedd yn gyfrifol, am Ddwyfor Meirionnydd yn ddiweddar, ac yntau'n dweud, dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae niferoedd yr achosion trais yn y cartref wedi cynyddu yn aruthrol. Beth oedd yn fy nhristáu i yn fwy, hyd yn oed, oedd ymweliad ag Ambiwlans Awyr...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r niferoedd sydd yn dioddef o COVID-19 yn parhau'n styfnig o uchel, ac erbyn hyn, wrth gwrs, mae'r amrywiolyn omicron wedi dod i'n plith, gyda'r ystadegau'n dangos, neu'n awgrymu, o leiaf, fod yr haint yn dyblu bob deuddydd. Mae nifer o ysgolion yn Nwyfor Meirionnydd wedi gorfod gyrru eu plant yn ôl o'r ysgol yn ddiweddar. Roedd fy mab fy hun wedi cael ei...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Gaf i ddarllen tamaid allan o gwmpas yr adolygiad, sydd yn y cylch gorchwyl ar gyfer panel adolygu'r ffyrdd? Mae'n dweud: 'Bydd ffyrdd mynediad sydd â'r prif ddiben o gysylltu safle neu fangre ar gyfer diwydiant trwm â'r briffordd gyhoeddus, neu o fewn ffin safle datblygu diwydiant trwm, yn cael eu heithrio o'r adolygiad. Dylid oedi o ran ffyrdd mynediad...
Mabon ap Gwynfor: 3. Pa gynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud mewn perthynas â'i hadolygiad ffyrdd? OQ57345
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb ddaru ymateb i'r drafodaeth yma y prynhawn yma. Mi ddaru ni glywed i gychwyn, wrth gwrs, gan Laura Anne Jones. Diolch iddi hithau am ei geiriau caredig, a hithau'n pwysleisio unwaith eto y diffyg staff a'r rhestrau aros hanesyddol hir yna, ond fod pethau ddim o reidrwydd wedi gwella, â phobl yn mynd heb ddiagnosis am gyfnodau maith. Rhun...
Mabon ap Gwynfor: Wel, mae ychydig o dan 20,000 o bobl yn derbyn diagnosis canser yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae'n wybyddus i bawb erbyn hyn fod canser yn lladd mwy o bobl yng Nghymru nag unrhyw glefyd arall. Y newyddion da ydy fod y nifer sy'n goroesi'r clefyd yma yn cynyddu, gyda 60 y cant o’r cleifion a dderbyniodd ddiagnosis rhwng 2014 a 2018 yn goroesi eu canser am bum mlynedd neu fwy, sydd yn dangos...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyflwyno’r cynnig yma heddiw ger eich bron, a diolch i’r holl Aelodau eraill sydd wedi ei gefnogi o. Mae’r nifer sydd wedi cefnogi'r cynnig yn dyst i bwysigrwydd y testun. Mae canser, wrth gwrs, yn rhywbeth sydd yn agos iawn at bob un ohonom ni—yn llawer rhy agos mewn gwirionedd. Mae fy nhad yn glaf canser, ac wedi bod ers...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi am ymddiheuro i chi, Dirprwy Lywydd, am anghofio datgan diddordeb ar ddechrau'r drafodaeth a dechrau fy nghyfraniad i. Dwi eisiau tynnu eich sylw chi, os gwelwch yn dda, at fy natganiad o ddiddordeb am berchnogaeth eiddo, sydd, wrth gwrs, yn gyhoeddus. Diolch.