Canlyniadau 361–380 o 5000 ar gyfer speaker:Hefin David OR speaker:Hefin David OR speaker:Hefin David OR speaker:Hefin David OR speaker:Hefin David OR speaker:Hefin David

8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad (10 Gor 2019)

Hefin David: Mae'r Dirprwy Lywydd wedi dweud na chaf. Ond y peth olaf y buaswn i'n ei ddweud yw nad yw hwn ond yn rhan o ddarlun ehangach, ac rwy'n credu bod angen hefyd—rwy'n dweud wrth y Prif Weinidog, wrth ein cynrychioli i San Steffan—mae angen DU ffederal hefyd. Rwy'n credu bod angen system ffederal ar draws y DU gyda Seneddau rhanbarthol yn Lloegr sy'n cydnabod grym datganoledig, ond mae angen...

8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad (10 Gor 2019)

Hefin David: Mwy, mwy yn bendant. A gallaf weld y Prif Weinidog yn nodio'i ben yn frwd. [Chwerthin.] Rwyf wedi cael sgyrsiau gydag Aelodau, fel yr argymhellodd y Llywydd yn y ddadl flaenorol. Rwyf wedi cael sgyrsiau gydag Aelodau ar draws y Siambr. Rwyf wedi siarad ag arweinydd Plaid Cymru a Siân Gwenllian heddiw, rwyf wedi siarad â Jayne Bryant, ac un o'r pethau a ddywedodd Jayne Bryant wrthyf yw bod...

8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad (10 Gor 2019)

Hefin David: Hoffwn fynd â'r Siambr yn ôl i 5 Mai 2016, ac yn arbennig, i ystafell fyw yn Hengoed, lle'r oeddwn yn camu’n ôl ac ymlaen—noson y cyfrif oedd hi; roedd y gorsafoedd pleidleisio wedi cau ac roeddwn i wedi blino'n lân, ac roeddwn i wedi cael cawod, ac rydych chi'n gwybod sut beth ydyw—camu’n ôl ac ymlaen gyda BBC Wales ar y teledu ac academyddion o Brifysgol Caerdydd yn edrych yn...

7. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (10 Gor 2019)

Hefin David: Rwy'n ei herio i wneud yr araith honno gerbron y Senedd Ieuenctid.

7. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (10 Gor 2019)

Hefin David: Hoffwn wybod beth yw safbwynt plaid Brexit—. Gwyddom beth yw safbwynt plaid Brexit ar Ewrop ond fawr o ddim arall. Ai safbwynt plaid Brexit yn awr yw diystyru mabwysiadu polisi UKIP o ddiddymu'r Cynulliad? Felly, nid ydych yn llwyr o blaid diddymu'r Cynulliad.

5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy ( 9 Gor 2019)

Hefin David: A yw'r Gweinidog yn pryderu, beth bynnag a wnewch chi gyda Chymorth i Brynu, eich bod yn dal i roi arian cyhoeddus yng nghrafangau parasitig datblygwyr tai mawr, a allai werthu eu tai newydd rhy uchel eu pris yn rhatach?

3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) ( 9 Gor 2019)

Hefin David: Rwyf wedi sôn o'r blaen am ymweliad syrcas Mondao â'm hetholaeth i ychydig fisoedd yn ôl. Hoffwn ddweud wrth Siân Gwenllian fy mod wedi dod i adnabod Linda Joyce-Jones am y tro cyntaf pan oeddwn yn gynghorydd sir a phan ymwelodd arddangosfa anifeiliaid gwyllt â'm ward cyngor i. Bryd hynny, ysgrifennais at Rebecca Evans, sef y Gweinidog cyfrifol ar y pryd, ac fe gawsom ni rywfaint o...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Banc Cymunedol i Gymru ( 9 Gor 2019)

Hefin David: Ddydd Mercher yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Lloyds Banking Group eu bod yn cau eu cangen ym Margoed yn fy etholaeth i. Yn flaenorol, mae HSBC wedi tynnu allan, mae NatWest wedi cau eu cangen yn Ystrad Mynach, ac mae Barclays wedi cau eu cangen yn Nelson. Rydym ni'n gweld y banciau masnachol yn cefnu ar ardal ogleddol y cymoedd. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, cynhaliwyd gennym, gyda...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Banc Cymunedol i Gymru ( 9 Gor 2019)

Hefin David: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y byddai banc cymunedol i Gymru o fudd i gymunedau yng Nghaerffili? OAQ54232

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru' ( 3 Gor 2019)

Hefin David: O dan Reol Sefydlog 13.10, 'Rhaid i Aelod gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Llywydd', ac fe ofynnoch chi i Michelle Brown dynnu datganiad a wnaeth yn ôl, ac ni wnaeth hynny.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru' ( 3 Gor 2019)

Hefin David: Ond ar fater ehangach, roedd y pryderon ar yr ochr hon i'r Siambr yn ymwneud â'r ffaith nad oedd y pethau roedd hi'n eu dweud yn adlewyrchu'r hyn a oedd yn yr adroddiad, a phan oedd Lynne Neagle, fel Cadeirydd y pwyllgor, yn gwneud y datganiad, nid oedd Michelle Brown yn gwrando ar yr hyn yr oedd Lynne Neagle yn ei ddweud. Felly, gyda'r parch mwyaf, nid oes unrhyw syndod fod datganiadau...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru' ( 3 Gor 2019)

Hefin David: Rwyf eisoes wedi dweud yn glir yn y ddadl hon nad wyf yn rhannu'r farn gwbl negyddol a fynegwyd gan rai yn y Siambr, ond serch hynny, roedd yn wir fod prifysgolion yn ymddangos yn amharod i roi tystiolaeth i'r pwyllgor a mynegi'r farn honno. Pam felly? Os yw'r darlun mor dda, pam eu bod wedi bod mor amharod i siarad â ni?

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru' ( 3 Gor 2019)

Hefin David: Nid wyf yn bwriadu ymosod ar neb o gwbl. Rwy'n teimlo bod cywair y ddadl yn troi'n gwbl negyddol am fagloriaeth Cymru, er bod y dystiolaeth a gawsom yn fwy cynnil na hynny mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd Michelle yn gyfan gwbl ar yr ochr negyddol, ond mewn gwirionedd fe welsom safbwyntiau llawer mwy cadarnhaol hefyd.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru' ( 3 Gor 2019)

Hefin David: Credaf fod Cadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle, wedi crynhoi barn y pwyllgor yn berffaith ar rai o'r materion allweddol a godwyd gennym, ac roedd cryn fanylder ynghylch y materion y teimlem eu bod yn berthnasol i hyn. Felly, nid af yn ôl dros y pethau hynny, ond yn hytrach, rwyf am grybwyll rhai argymhellion. Ond fel plentyn yr 1980au, buaswn yn dweud bod yn rhaid bod 'Bacc to the Future' yn...

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: 'Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol' ( 3 Gor 2019)

Hefin David: A ydw i'n iawn i feddwl bod y dystiolaeth a gawsom wedi dweud y byddai cyd-awdurdodau trafnidiaeth cenedlaethol a chyd-awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol yn gam yn rhy bell, ac y byddent yn dyblygu eu hunain?

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: 'Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol' ( 3 Gor 2019)

Hefin David: Ie, ac mae'r awdurdod lleol yn ei wrthod ar y sail honno, yna ceir apêl ac mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn gwrthdroi’r penderfyniad ar apêl, ac yna mae'r Gweinidog yn cymeradwyo'r apêl am fod y Gweinidog yn poeni, os nad yw'n ei gymeradwyo ar apêl, y bydd yn destun adolygiad barnwrol a barn yr arolygydd cynllunio fydd drechaf yn yr amgylchiadau hynny. Dyna'r anhawster sydd—. A gallaf...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.