Gareth Davies: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella morâl staff sy'n gweithio yn y GIG?
Gareth Davies: Diolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad heno. Mae ailgydbwyso gofal a chymorth yn rhywbeth y gall pob un ohonom ni yn y Siambr hon ei gefnogi. Fe wnaethom ni ddechrau ar y daith gyda Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a'r ymrwymiad i integreiddio iechyd a gofal. Mae'n hen bryd i ni gyflymu'r daith tuag at ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chyd-gynllunio...
Gareth Davies: Diolch Cwnsler Cyffredinol am eich datganiad y prynhawn yma. Ond mae'n siomedig i beidio â gweld deddfwriaeth ar hawliau pobl hŷn yn eich rhaglen. Efallai y cofiwch, yn ystod fy nadl Aelodau ar ddeddfwriaeth yr wythnos diwethaf, fod eich Llywodraeth wedi nodi, er eich bod yn cefnogi fy nghynigion ar gyfer dull o ymdrin â gwasanaethau i bobl hŷn yn seiliedig ar hawliau, y byddech chi'n...
Gareth Davies: Diolch yn fawr eto, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb y prynhawn yma am eu cyfraniadau gwych. Soniodd Janet Finch-Saunders am y ddeddfwriaeth a fu'n flaenoriaeth i'r Ceidwadwyr Cymreig ers peth amser bellach, diogelu hawliau ymhellach, pobl oedrannus wedi'u hynysu, a'r gefnogaeth gymunedol wych gan glwb rotari Llandudno, ac eraill yn y gymuned leol, sydd yno i helpu ein pobl oedrannus...
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Busnes am roi'r cyfle gwych hwn imi annerch y Senedd y prynhawn yma a chyflwyno'r cynnig hwn. Mae'n anrhydedd mawr, fel un o Aelodau mwyaf newydd y Senedd, i gyflwyno'r cynnig cyntaf ar gyfer deddfwriaeth yn y chweched Senedd. Mae'r ffaith bod y cynnig hwn wedi cael cefnogaeth o bob rhan o'r Siambr yn dangos bod pob...
Gareth Davies: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ers blynyddoedd lawer, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael trafferth dod o hyd i leoliadau addas ar gyfer safleoedd preswyl a thramwy ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Maent wedi archwilio nifer o safleoedd sydd wedi bod yn anaddas i bawb dan sylw. Fodd bynnag, Weinidog, mae safleoedd Sipsiwn a Theithwyr wedi'u sicrhau ledled gogledd Cymru gan awdurdodau...
Gareth Davies: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo cydlyniant rhwng cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a thrigolion Dyffryn Clwyd? OQ56698
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n siomedig iawn bod cyflog teg i weithwyr gofal cymdeithasol mor bell i ffwrdd. Byddwn i wedi meddwl, Dirprwy Weinidog, gyda'n plaid ni'n addo talu o leiaf £10 yr awr i staff ym maes gofal cymdeithasol, a Phlaid Cymru yn addo cynyddu'r cyflog mewn termau real, mai cyflwyno'r cyflog byw...
Gareth Davies: Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod fy etholaeth wedi pleidleisio'n gadarn i adael yr UE. Ar adeg y refferendwm yn 2016, roedd gan Ddyffryn Clwyd Aelod Cynulliad Llafur a oedd yn anghytuno â chanlyniad y bleidlais, ac fel ei chyd-Aelodau ar feinciau Llafur a Phlaid Cymru, gwnaethant y cyfan yn eu gallu i danseilio Brexit. Aberafan, Alun a Glannau Dyfrdwy, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr,...
Gareth Davies: Esgusodwch y llun aneglur braidd. Gobeithio nad yw'n effeithio ar ansawdd y sain o gwbl. Weinidog, rwy'n croesawu camau gan eich Llywodraeth i wella iechyd a lles anifeiliaid. Mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn cynnal y safonau lles uchaf yma yng Nghymru. Mae un o fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd wedi mynegi pryderon ynghylch cadw da byw mewn lleoliad preswyl. Mae'n...
Gareth Davies: Weinidog, er fy mod yn croesawu unrhyw adnoddau a glustnodir i helpu'r rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae'n gwbl amlwg nad yw Cymru'n gwneud digon i leihau adfyd yn y lle cyntaf. Er nad yw’n brofiad niweidiol yn ystod plentyndod ynddo'i hun, gwyddom fod tlodi'n ffactor ychwanegol sy'n peri straen a all arwain at esgeuluso neu gam-drin plentyn. Yn anffodus, mae...
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn Dirprwy Weinidog am eich datganiad y prynhawn yma, a gobeithio nad tagfa draffig a achosodd eich oedi y prynhawn yma, gan y byddai hynny ychydig yn eironig. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi bod angen y rhan fwyaf o'r ffyrdd, ac ni fyddwn yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy wahardd adeiladu ffyrdd yn unig. Er mwyn lleihau allyriadau carbon deuocsid, rhaid...
Gareth Davies: Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod digon o dai fforddiadwy a chymdeithasol yn cael eu darparu ledled Cymru?
Gareth Davies: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o addysg feddygol yng ngogledd Cymru? Trosglwyddwyd i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Gareth Davies: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch chi, rwy'n siŵr, dywedodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd y DU, yn ei adroddiad damniol, bod staff y GIG a staff gofal mor flinedig fel bod dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn perygl. Er bod eu hadroddiad yn ymwneud â Lloegr yn unig, rwy'n siŵr nad yw pethau yn llawer gwell ar yr ochr hon i Glawdd Offa. Hyd yn oed...
Gareth Davies: 3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gallu i recriwtio staff iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol? OQ56607
Gareth Davies: Weinidog, mae gan bresgripsiynu cymdeithasol rôl unigryw i'w chwarae yn atal yn gyffredinol, yn enwedig mewn perthynas â gofal cymdeithasol. Gall cadw'r corff yn egnïol atal cwympiadau, a gall cadw'r meddwl yn egnïol ymladd camau cyntaf dementia. Rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd gan Betsi Cadwaladr a'r awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru i ddatblygu Gwnaed yng Ngogledd Cymru, sy'n helpu...
Gareth Davies: Weinidog, ni ellir gwadu bod y mesurau i atal lledaeniad COVID-19 wedi amharu'n fawr ar sector diwylliannol Cymru. Caeodd y llen mewn nifer o theatrau am y tro olaf 15 mis yn ôl, ac yn anffodus, mae'r goleuadau wedi diffodd am byth mewn gormod lawer ohonynt. Mae lleoliadau cerddoriaeth a chlybiau comedi hefyd yn wynebu dyfodol ansicr. Rwy’n croesawu llacio’r cyfyngiadau, ond i lawer o...
Gareth Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad y prynhawn yma. Alla i ddim meddwl am ffordd well o dynnu sylw at Wythnos y Gofalwyr na thrafod y gefnogaeth yr ydym ni'n ei rhoi i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Fel rhywun sydd wedi treulio ei 11 mlynedd diwethaf yn gweithio yn y GIG ac mewn partneriaeth agos â'r gwasanaethau cymdeithasol, rwy'n gwybod yn...
Gareth Davies: Gweinidog, un o drychinebau mwyaf y pandemig fu'r effaith y mae wedi'i chael ar y rhai sy'n byw yn ein cartrefi gofal. Maen nhw wedi'u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, yn methu â cofleidio eu hwyrion, heb allu cael cyswllt corfforol ag anwyliaid. Mae hyn wedi bod yn arbennig o anodd i'r rhai sy'n dioddef o ddementia, yn aml dydyn nhw ddim yn gallu deall pam mae eu teuluoedd wedi cefnu arnyn...