Peredur Owen Griffiths: Er nad oes cymaint o gartrefi gwyliau yn Nwyrain De Cymru ag sydd mewn rhannau eraill o'r wlad, mae craidd y mater yma yr un fath: ni all pobl fforddio prynu cartrefi yn y lle maent yn ei ystyried yn gartref. Mae prisiau eiddo a chyflogau cyfartalog yn codi, ond pan fydd y cyntaf yn codi'n gyflymach na'r ail, mae gennym broblem. Ni all pobl leol fforddio tai yn eu cymdogaethau. Nid yw'r...
Peredur Owen Griffiths: Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi clywed lot am yr argyfwng tai yng Nghymru a'r ffocws gan y cyfryngau yn benodol ar effaith ail gartrefi mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae pwysigrwydd y mater hwn yn amlwg, ond rhaid mynd i'r afael â'r broblem ehangach sydd gennym yng Nghymru.
Peredur Owen Griffiths: Mae Heddlu Gwent yn cwmpasu rhanbarth Dwyrain De Cymru yr wyf i'n ei chynrychioli. Yn y blynyddoedd diwethaf, nhw oedd yr unig heddlu i gofnodi cynnydd i ddamweiniau traffig ar y ffyrdd. Mae edrych yn fanylach ar y ffigurau hyn yn dangos bod digwyddiadau lle cafodd rhywun ei anafu yn ddifrifol wedi mwy na dyblu o 82 yn 2015 i 179 yn 2019. Rwyf i wedi bod yn rhan o ymgyrch lleihau cyflymder ar...
Peredur Owen Griffiths: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfer gwasanaethau iechyd yn ne-ddwyrain Cymru yn sgil pandemig COVID-19?
Peredur Owen Griffiths: Mae ymchwil gan Ofalwyr Cymru yn dangos bod gofalwyr di-dâl sy'n gofalu am aelodau o'r teulu neu ffrindiau anabl, sâl neu oedrannus wedi arbed £33 miliwn i Lywodraeth Cymru bob dydd ers dechrau pandemig COVID-19. Yn y cyd-destun hwnnw, nid yw'r ddarpariaeth o £3 miliwn yn ystod 2021-22 i gyd—wedi ei rhannu'n ddau gam, gyda cham cyntaf o £1.75 miliwn wedi ei rannu ymhellach rhwng 22...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr ichi am eich datganiad. Hoffwn i hefyd ategu fy niolch i'r arwyr sydd gennym ni yn ddi-glod, sef yr arwyr di-dâl ledled Cymru sy'n gofalu am ein hanwyliaid bob dydd.
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i'r Gweinidog am ei datganiad.
Peredur Owen Griffiths: Mae'n bwysig bod pobl sy'n dymuno gwneud cais ar gyfer y cynllun hwn yn cael cynnig cymaint o gymorth â phosibl, ac, fel sydd wedi'i grybwyll eisoes, mae'r dyddiad cau'n prysur agosáu ddiwedd y mis hwn. Yn y Senedd ddiwethaf, ysgrifennodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Lywodraeth Cymru gyda'u hargymhellion. Eu hargymhellion oedd i Lywodraeth Cymru ailadrodd ei...
Peredur Owen Griffiths: Yn gyntaf, buaswn i'n licio diolch yn fawr i chi i gyd am y cyfle i siarad prynhawn yma, a llongyfarchiadau yn wir i'r Aelodau i gyd am gael eu hethol. Buaswn i hefyd yn licio diolch i'm hetholwyr am ddangos eu ffydd ynof fi i'w cynrychioli nhw fel Aelod rhanbarthol.
Peredur Owen Griffiths: Mae pandemig y coronafeirws wedi ysgogi gwerthfawrogiad o'r newydd ynom ni o'n mannau gwyrdd, pwysigrwydd a harddwch Cymru a'r awyr agored yng Nghymru, a'r angen am adferiad gwyrdd. Fodd bynnag, fis Mehefin diwethaf, pan welsom fannau gwerthu bwyd brys drwy ffenest y car yn ailagor, cafodd ein mannau gwyrdd eu difetha gan sbwriel. Mae taflu sbwriel yn broblem hollbresennol ledled Cymru, yn...