Mr Simon Thomas: 5. Pa ddarpariaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gwneud ar gyfer cynnal swyddfeydd post? OAQ52506
Mr Simon Thomas: Pa darged sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer twf amaeth organig?
Mr Simon Thomas: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl fer yma. Fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet newydd amlinellu, nid yw’r gyllideb atodol hon yn un sylweddol. Ond wedi dweud hynny, rydym fel pwyllgor yn gwerthfawrogi’r cyfle bob tro i ystyried unrhyw newidiadau yn y gyllideb ac yn gwneud hynny’n ffurfiol drwy drefn y gyllideb atodol. Rydym, felly, wedi defnyddio’r...
Mr Simon Thomas: Yn gyntaf oll, arweinydd y tŷ, a gaf i ddweud fy mod i'n synnu braidd nad ydym ni wedi cael datganiad llafar ar yr ymgynghoriad ar reoli'r defnydd o dir a dyfodol taliadau'r polisi amaethyddol cyffredin, sy'n mynd i fod yn eithriadol o bwysig dros yr haf? Rwy'n deall ei fod yn ymgynghoriad hir, ond bydd hyn yn rhan bwysig o sioeau'r haf. Rwy'n credu y byddai datganiad llafar wedi bod yn...
Mr Simon Thomas: Diolch yn fawr. Wrth osod y cwestiwn, wrth gwrs, Gwnsler Cyffredinol, nid oeddwn yn gwybod eich bod yn gwneud datganiad ddoe, lle ges i gyfle i ofyn y cwestiwn atodol i chi ddoe yn hytrach na heddiw. Ond, serch hynny, mae digwyddiadau dros nos jest yn tanlinellu, rydw i'n meddwl, pa mor sensitif yw natur y ffaith bod y cytundeb rhynglywodraethol yn ein harwain ni at sefyllfa lle mae Deddf...
Mr Simon Thomas: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Mae’n amlwg bod nifer ohonom ni’n poeni am y peiriannau mewn siopau gamblo ac yn croesawu’r ffaith ei bod yn fwriad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gyfyngu’r bets fesul un i £2 ar y peiriannu yna, ond wedyn yn cael ein siomi y bydd o leiaf dwy flynedd cyn bod hynny’n cael ei gyflawni. Mae yna ddulliau rheoli a deddfu gan Lywodraeth...
Mr Simon Thomas: 1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynghylch deddfu yn erbyn gamblo cymhellol? OAQ52463
Mr Simon Thomas: 6. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn â Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018? OAQ52465
Mr Simon Thomas: Rydw i'n siŵr, ac rydw i'n gobeithio y bydd Rhun yn gallu cynnig—. Bydd dadl fer gyda fe cyn bo hir, rydw i'n deall, a bydd yna fwy o drafod ar ddyfodol y llong. Ond rydw i'n derbyn y pwynt. Y peth olaf, os caf i jest cloi gyda hynny, yw: yn y cyd-destun sydd ohoni, mae hi yn bwysig iawn i ymladd yr achos dros sicrhau masnach heb dariffau i bysgodfeydd Cymru. Fe wnaf i gloi drwy ddyfynnu...
Mr Simon Thomas: Mae wagen yn aros ar ochr y cei pan ydym ni'n glanio. Rydym yn cymryd y cregyn gleision oddi ar y cwch ac fe gân nhw yn eu rhoi ar y wagen, mae'r wagen yn gyrru ymaith. Ac yna fe gymer hi rhwng 26 ac 18 awr i'w cludo o ogledd Cymru i ogledd Ffrainc neu dde yr Iseldiroedd. Os byddan nhw yn archebu gennyf i ar ddydd Llun, yna maen nhw'n disgwyl i'r wagen gyrraedd ar ddydd Mawrth oherwydd mae...
Mr Simon Thomas: Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliannau ac yn falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma. Mae yn hen bryd i bysgodfeydd gael eu trafodaeth lawn gyntaf am gyfnod hir iawn, rydw i'n meddwl, yn y Cynulliad. Rydw i hefyd yn croesawu'r papur sydd wedi ei baratoi gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd yn gefn i'r ddadl yma. Nawr er, fel sydd wedi cael ei nodi eisoes, fod pysgodfeydd yn...
Mr Simon Thomas: Diolch i chi am ildio. Dim ond o ran y darlun cyffredinol y mae hi newydd ei bortreadu, mae hi wedi sôn am y diwydiant pysgod cregyn, nad yw, wrth gwrs, yn dibynnu ar gwotâu, ac yn gynharach soniodd am gwotâu a'r posibilrwydd o ryddhau stoc newydd, a byddem yn tybio y gwneid hynny yn gynaliadwy, a dywedodd y byddai cwotâu o'r fath er budd y cyhoedd. A yw hynny'n golygu ei bod yn rhagweld...
Mr Simon Thomas: '"cyfuno" rhai o'r pwerau hynny drwy fframweithiau cyffredin ledled y DU'.
Mr Simon Thomas: Ond, yn rhyfedd iawn, wedi cael y gwahoddiad yma i redeg ras fel sbrint, mae e wedi dewis clymu y Cynulliad hwn mewn rhyw fath o ras deircoes gyda Llywodraeth San Steffan, achos dyna beth mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn ei wneud, wrth gwrs, am saith mlynedd, sef cyfyngu ein gallu ni i ddefnyddio'r grym newydd yma sydd yn llifo i'r Cynulliad, ond yn hytrach drwy gytundeb sydd wedi'i gytuno...
Mr Simon Thomas: Fe fyddai'n cymryd bargyfreithiwr o fri, a dweud y gwir, i lunio cwestiynau ar sail y datganiad yma, ond wedi dweud hynny, mae gen i ychydig o bwyntiau, ac un cwestiwn o leiaf. A gaf i yn gyntaf oll wneud y pwynt nad Llywodraeth yr Alban sydd wedi gwrthod cydsynio, wrth gwrs, i'r Ddeddf yma, ond Senedd yr Alban, gan gynnwys ei blaid yntau, y Blaid Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd yn...
Mr Simon Thomas: Mae eisoes trafodaeth wedi bod ynglŷn ag agwedd perchennog Trago Mills tuag at yr iaith Gymraeg, ac roedd y Prif Weinidog yn ateb Siân Gwenllian yn glir iawn nad yw e’n cytuno a’i fod yn anhapus iawn gyda sylwadau fel yna. Ond byddwn i’n gofyn am ddatganiad neu lythyr gan y Gweinidog dros yr iaith Gymraeg i Aelodau i esbonio sut y cododd y sefyllfa yma. Dyma fuddsoddiad a oedd yn cael...
Mr Simon Thomas: Diolch i'r Prif Weinidog. Ar ôl siom yr wythnos diwethaf, roedd yn braf ymweld ag Ynys Môn gyda Rhun ap Iorwerth ddydd Gwener a gweld nifer o gynlluniau cyffrous yna yn ymwneud ag ynni'r môr—yn bennaf, Minesto, sydd newydd lansio eu dyfais ynni llanw yn yr harbwr yng Nghaergybi. Y cwestiwn sy'n codi yw: a yw'r £200 miliwn roeddech chi fel Llywodraeth wedi'i neilltuo i gefnogi un cynllun...
Mr Simon Thomas: 4. Ar wnaiff y Prif Weinidog datganiad am ddyfodol ynni’r môr yng Nghymru? OAQ52467
Mr Simon Thomas: Diolch. A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon? Dadl fer oedd hi i nodi cyhoeddi'r adroddiad, ond gallaf addo i chi y byddaf yn eich diflasu ynglŷn â hydrogen am beth amser i ddod, ac mae yna rai eraill sy'n frwd iawn yn ei gylch hefyd, felly mae hynny'n beth da i'w weld. Dyma dechnoleg y credaf ei bod yn gwneud llawer i dicio llawer o flychau y mae gennym ddiddordeb...
Mr Simon Thomas: Ar y pwynt hwnnw, rwy'n gweld y cyhoeddiad calonogol yr wythnos hon ynglŷn â chyfleuster treialu ar gyfer rheilffyrdd, hefyd yn ne Cymru, yn eithaf agos fel y mae'n digwydd i Faglan a ffynonellau hydrogen. A fyddai honno'n ardal bosibl lle y gellid ymchwilio i hyn?