Adam Price: 2. A wnaiff y Gweinidog roi datganiad yn sgil RCN Cymru yn gwrthod cynnig cyflog ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23? TQ734
Adam Price: Y King's Fund a oedd yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar lywodraethu, dyma sut y gwnaethon nhw ddisgrifio pethau yn ystod gaeaf 2020, pan wnaethoch chi benderfynu ei bod hi'n briodol tynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig: fe welodd y gronfa ymddygiad gweithredol a oedd yn dirywio, gydag aelodau unigol o'r tîm gweithredol yn beirniadu ei gilydd i'r cadeirydd ac aelodau annibynnol, gan...
Adam Price: Roedd penderfyniad eich Llywodraeth i dynnu Betsi allan o fesurau arbennig yn ymgais amlwg i daflu llwch i lygaid pobl. Ddwy flynedd yn ôl, a chydag etholiad ar y gorwel, roeddech chi eisiau rhoi'r argraff eich bod chi wedi llywio'r bwrdd iechyd trwy ddiwygiad sylweddol, eich bod chi wedi gwneud eich gwaith. Roedd yn rhy gynnar. Profwyd ei fod yn fyrbwyll, a dangosodd ddiffyg crebwyll ac...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Mae Betsi Cadwaladr yn fwrdd iechyd sy'n methu. Mae'n methu cleifion ac mae'n methu staff. Daeth ymchwiliad Tawel Fan o hyd i restr o fethiannau dychrynllyd ac annerbyniol yng ngofal rhai o'r cleifion mwyaf agored i niwed, rhai â dementia, a adawyd i orwedd yn noeth ar y llawr. Nodwyd risgiau diogelwch cleifion, gyda sawl adroddiad beirniadol ar wasanaethau fasgwlaidd. Bu'n...
Adam Price: Roeddech chi wedi cyfeirio, Gweinidog, at ffordd osgoi ddwyreiniol Llandeilo, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad sydd yn y cynllun cyflawni ar gyfer trafnidiaeth i'r cynllun hwnnw. Ond a ydych chi jest yn gallu egluro, o ran y cyhoeddiad rŷch chi ar fin ei wneud, meddai chi, a fydd hynny'n cael ei wneud ar sail WelTAG cam 2, sef y fframwaith oedd yn sail i'r ymgynghoriad? Ac a fydd e'n symud...
Adam Price: Mae tri chwarter yr holl deithiau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cael eu gwneud ar fws, ond mae bysiau dim ond yn cael mymryn o'r buddsoddiad sydd wedi'i glustnodi ar hyn o bryd gan y Llywodraeth ar gyfer rheilffyrdd. Bydd torri'r cyllid hwnnw ymhellach ar adeg pan fo nifer y teithwyr yn gostwng a chostau yn cynyddu yn anrheithio'r rhwydwaith bysiau; bydd yn rhoi menywod, plant a phobl...
Adam Price: Mae'r corff diwydiant, Cymdeithas Bysiau Cymru wedi dweud bod y risg i wasanaethau a swyddi heb barhad cyllid dim ond wedi cael ei ohirio yn unig. Maen nhw'n rhagweld toriadau i wasanaethau bysiau yn amrywio o ddwy ran o dair i ddadgofrestru torfol o bob llwybr. Byddai hynny'n golygu bod pobl ledled Cymru yn sydyn yn methu â mynd i'r gwaith, i siopa, mynd i'r ysbyty, mynd i'r coleg ac i'r...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Heddiw, bydd y Llywodraeth, trwy gyhoeddi'r adolygiad ffyrdd, yn datgan ei hymrwymiad i newid hanesyddol i bolisi a blaenoriaeth o ffyrdd i drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, pam wnaethoch chi gyhoeddi'n hwyr ddydd Gwener mai'r cwbl yr oeddech chi'n ei wneud oedd oedi toriad trychinebus i gymorth ar gyfer gwasanaethau bysiau o ddiwedd mis Mawrth i ddiwedd mis Mehefin, a fydd yn...
Adam Price: [Anghlywadwy.]
Adam Price: Wel, yn sicr mae wedi bod yn ddadl ddadlennol, os braidd yn ddigalon ar ei therfyn, gyda sylwadau'r Gweinidog, ond hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd ati. Mae Peter Fox yn ddyn rhesymol—nid wyf yn siŵr os gallaf ddweud hynny'n fwy cyffredinol, rhaid dweud—ond rwy'n credu mai'r pwynt canolog yma, Peter, yw hwn: os oes gennym y pwerau hyn, nid oes pwynt cael pwerau os ydynt yn...
Adam Price: A wnaiff y Gweinidog ildio?
Adam Price: O weld ei bod wedi dyfynnu Comisiwn Cyllid yr Alban, a yw hi hefyd yn cydnabod bod y refeniw net ychwanegol y mae Comisiwn Cyllid yr Alban wedi'i nodi ar gyfer y flwyddyn nesaf, o ran y gwahaniaeth rhwng y polisïau, yn £1 biliwn yn ychwanegol? Dyna'r refeniw net ychwanegol sydd gan yr Alban.
Adam Price: A wnaiff y Gweinidog ildio?
Adam Price: Ar gwestiwn prif gartref, pa drafodaeth a gawsoch gyda Chyllid a Thollau EF ar gael concordat o reolau ar gyfer diffinio beth fyddai prif gartref, oherwydd mae hynny'n berthnasol wrth gwrs, yng nghyd-destun trethi eraill hefyd?
Adam Price: —gallwch liniaru'r risg hefyd. Prin yw'r amser sydd gennyf, mae arnaf ofn. Gallwch liniaru'r risg hefyd oherwydd bod y dull o addasu'r grant bloc yn caniatáu i'r mathau hynny o risgiau gael eu lliniaru. Rydym yn lliniaru ar hyn o bryd drwy'r cytundeb cyllidol sydd eisoes ar waith ar gyfer y risgiau cyllidebol sy'n codi o'r ffordd y dosberthir trethdalwyr Cymru yn wahanol, a gellid addasu'r...
Adam Price: Mae dau brif reswm, mewn gwirionedd. Un, byddai'n ein galluogi i godi refeniw ychwanegol ar gyfer gwariant cyhoeddus i greu'r math o gymdeithas weddus rydym am fod, a gwneud hynny mewn ffordd decach drwy greu strwythur trethu mwy blaengar yma yng Nghymru. Felly, cymerwch y pwynt cyntaf hwnnw—codi mwy o refeniw. Y broblem gyda'r system bresennol o ddatganoli trethi sydd gennym yw ei bod yn...
Adam Price: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae ein cynnig heddiw yn ceisio sicrhau bod gennym ni yng Nghymru bŵer i osod bandiau ar gyfer treth incwm yn ogystal ag ardrethi. Nawr, mae'n swnio fel dadl weddol sych a thechnegol, ond mewn gwirionedd mae'n ymwneud â chwestiynau eithaf sylfaenol—dau gwestiwn sylfaenol y mae angen i bob cenedl eu hateb drwy ei phroses ddemocrataidd. Y cyntaf yw: beth ddylai...
Adam Price: Bydd y Gweinidog wedi gweld y ffigurau, wrth gwrs, ac maen nhw yn peri gofid, onid ŷn nhw? Hynny yw, mae'n amrywio o gwymp o ychydig o dan 3 y cant ymhlith y rhai ieuengaf, 3 y cant wedi hynny rhwng 16 a 64, a chwymp o bron i 9 y cant yn y ganran dros 65. Mae gwahanol ffactorau, efallai, yn gyrru'r gwahanol gostyngiadau yma, ond yn sicr yn creu darlun sydd yn peri pryder. Dwi'n gwybod bod y...
Adam Price: 1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr yn ôl data'r cyfrifiad diwethaf? OQ59088
Adam Price: A fyddwch chi'n rhoi dyfarniad hefyd?