Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fyddwch chi ddim yn synnu na fydda i ddim yn ymateb i unrhyw rethreg nac ymosodiadau personol. Dwi wedi treulio mwy o amser yn fy mywyd yn y llyfrgell genedlaethol o bosib nag mewn unrhyw adeilad cyhoeddus arall yng Nghymru, ar wahân i'r Senedd. Dwi yn siomedig bod neb wedi fy nghloi i mewn dros nos, er fy mod i'n deall bod hynny wedi bron â digwydd i Neil...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Yn ffurfiol. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch hefyd i'r pwyllgor am yr adroddiad ac am y cyfraniadau gan Aelodau eraill y prynhawn yma. Roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu derbyn, mas o'r argymhellion, 31 ohonyn nhw. Rydyn ni wedi derbyn y mwyafrif llethol. Y rhai dydyn ni ddim wedi'u derbyn fel Llywodraeth oedd rhai oedd ddim wedi'u cyfeirio'n benodol tuag atom ni. Felly, a gaf esbonio yn...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gyflwyno'r ddadl hon. Mae'n amserol iawn. Mae'n amserol i mi, fel y Gweinidog chwaraeon presennol, ond mae hefyd yn amserol yn yr argyfwng hwn, oherwydd nid oes dim wedi dangos yn fwy eglur pa mor bwysig—hanfodolrwydd, ddywedwn i, yr angen hanfodol—am ymarfer corff, ac i roi dewis o ymarfer corff i bobl, na'r argyfwng rydym wedi bod drwyddo. Fe wnaf ateb...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Fel y dywedais i, mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol, ac mae chwaraeon wedi cael eu heffeithio yn arbennig. Roeddwn i'n falch o allu cyhoeddi'r pecyn yn gynharach yr wythnos yma o £17 miliwn, sy'n golygu y bydd yna gyfanswm cyllid ar gyfer y sector chwaraeon o £40 miliwn ers dechrau'r argyfwng yma. Rydym ni yn gyfan gwbl gefnogol fel Llywodraeth i'r hyn a ddywedwyd yn gynharach yn y ddadl...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Gaf i ddiolch yn fawr, yn gyntaf, i Laura Anne?
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Janet Finch-Saunders, am ddilyn y broses ddeisebau a chyflwyno'r ddadl yma heddiw. Fy nheimlad i ydy, er bod y ddadl yma yn dod trwy broses gan y Senedd, efallai ei bod hi'n ddadl sydd wedi digwydd yn rhy gynnar. Ond wedi dweud hynny, mae o'n gyfle i mi ymateb ar ran y Llywodraeth mewn ffordd hollol glir, gobeithio....
Lord Dafydd Elis-Thomas: A gaf i yn gyntaf gydnabod y rhyfeddod o araith a glywsom ni—un o'r rhai mwyaf rhyfeddol, mae'n sicr, yn hanes y Senedd hon? Ond dwi ddim yn synnu, oherwydd, fel y cyfeiriodd Neil Hamilton yn garedig iawn, roeddem ein dau yn Aelodau o Senedd arall yn San Steffan ar yr un pryd. Dwi ddim am geisio ymateb i'r cynfas eang rhyngwladol ac athronyddol a ddewisodd o i'w ddilyn. Ond fe wnaf i yn...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch y fawr, Llywydd gweithredol. A gaf i yn gyntaf ddiolch a chydnabod cyfraniad Andrew R.T. Davies i'r ddadl hon, a hefyd os caf i ddweud, i'r gymdogaeth dda—ac mae o'n enwog amdani—ym Mro Morgannwg? Ond, efallai na fydd o ddim yn cytuno â llawer pellach sydd gen i i'w ddweud, oherwydd y neges gyntaf y mae'n rhaid imi ei hailosod ar ran Llywodraeth Cymru yw mai'r ystyriaeth gyntaf...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i'r pwyllgor am baratoi adroddiad cynhwysfawr mewn amser byr ar fater sydd o bwys allweddol i ni i gyd mewn argyfwng iechyd cyhoeddus fel rydyn ni ynddo fo ar hyn o bryd. Mae'r adroddiad yn dangos yr heriau sydd yn wynebu sector y cyfryngau yng Nghymru o ganlyniad i'r pandemig fyd-eang. Mae o hefyd yn ein hatgoffa ni o broblemau sydd wedi...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch, Huw. Rydych wedi rhoi her i mi ac ni allaf ddweud 'na' wrthi, oherwydd un o fy mhrif genadaethau drwy gydol yr argyfwng hwn yw sicrhau ein bod yn chwilio am bwyntiau adfer, pwyntiau ymateb creadigol, ac os gallwn gael hynny ym maes chwaraeon, byddai hynny mor bwysig. Mae'r ffigurau presennol yn dda iawn. Mae clybiau rygbi'r undeb cymunedol yn cael dros £188,000, mae clybiau...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr, Huw. Rydyn ni’n darparu cymorth ariannol sylweddol i glybiau a sefydliadau chwaraeon cymunedol ar draws Cymru, yn arbennig drwy gyfrwng y prif asiantaeth yn y maes yma, y corff cyhoeddus Chwaraeon Cymru.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Wel, rwy'n lliniaru hyn yn wythnosol, oherwydd rwy'n cyfarfod â fy nghyd-Aelodau yn y DU ym mhob un o'r sectorau y mae gennyf gyfrifoldeb amdanynt. Mae Croeso Cymru wedi gweithio'n agos iawn gydag UKHospitality, Cynghrair Twristiaeth Cymru a Chydweithfa Bwytai Annibynnol Cymru. Mae'r holl gyrff cynrychiadol hyn yn y maes twristiaeth yng Nghymru mewn cysylltiad rheolaidd â gweddill y Deyrnas...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr. Sefydlodd fy nghyd-Weinidog a minnau dasglu twristiaeth ar ddechrau'r pandemig, gan gyfarfod yn wythnosol i drafod yr holl eitemau sy'n effeithio ar y diwydiannau, gan gynnwys effaith rheoliadau COVID. Mae gennym gyfres gyfochrog o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid lletygarwch, digwyddiadau a phriodasau.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Our test events programme is currently on hold and we will look to resume when public health conditions in Wales allow.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr, Jayne. Roedd hwnnw'n anerchiad ysbrydoledig a grynhodd gymaint o'r gweithgarwch diwylliannol sy'n digwydd yng Nghymru nawr, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi'i roi yn y Cofnod ar gyfer y dyfodol.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Felly, gaf i ddiolch i Jayne am ei haraith? Gaf i ddiolch hefyd am ei chefnogaeth i gelf ac i bwysigrwydd y celfyddydau ym mywyd gwleidyddol Cymru ar hyd ei chyfnod fel Aelod Cynulliad? Diolch iddi hefyd am gyfeirio at yr holl weithgaredd sydd yn digwydd yng Nghasnewydd. Dwi wedi bod yn falch o'r cyfle i fod yn ei chwmni hi yn ymweld â rhai o'r canolfannau yma a oedd hi'n cyfeirio atyn nhw....
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser unwaith eto gen i fel Gweinidog diwylliant i ymateb i'r drafodaeth yn y Siambr ynglŷn â'n sefydliadau cenedlaethol nodedig. Wrth wneud hynny, gaf i ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad, a hefyd pwysleisio, wrth gwrs, ein bod ni wedi ymateb yn ysgrifenedig ym mis Medi, ac wedi nodi ein bod ni fel Llywodraeth yn falch iawn o allu derbyn pob un o...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Iawn, rwy'n dirwyn i ben nawr.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Rwyf am gadarnhau'r £500 miliwn hwn, dyna i gyd.