Ann Jones: Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sy'n dymuno gwneud ymyriad, felly galwaf ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl, a byddaf yn hael a rhoi ychydig mwy na 15 eiliad i chi.
Ann Jones: Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt?
Ann Jones: Diolch. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n ymwybodol o'r ffaith eich bod wedi caniatáu 15 eiliad i chi'ch hun ymateb i'r ddadl. [Chwerthin.] Pymtheg eiliad i ymateb i'r ddadl—rwy'n credu mai dyna fydd un o'r ymatebion cyflymaf mewn unrhyw ddadl i ni ei chael y tymor hwn. Jenny Rathbone.
Ann Jones: Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yn hyn', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig hwnnw, Nick Ramsay.
Ann Jones: Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ann Jones: Diolch. Nid oes unrhyw Aelod wedi dweud eu bod yn dymuno gwneud ymyriad, ac felly galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Ann Jones: Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans?
Ann Jones: Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud y byddaf yn siŵr o weld colli eich herio i gadw at yr amser? Ond dyna ni; rwy'n credu i mi fethu yn hynny o beth. Mark Isherwood.
Ann Jones: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog.
Ann Jones: Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Julie James.
Ann Jones: Ymddengys ein bod wedi colli David—
Ann Jones: Ymddengys ein bod wedi colli David; rwy'n credu bod ei gysylltiad yn wael, felly—. Na, mae'n ddrwg gennyf am hynny. Rwy'n credu ein bod yn mynd i symud ymlaen. Os cawn David yn ôl, efallai y caf weld a allwn gael ateb i'w gwestiwn. A gawn ni symud ymlaen at gwestiwn 6, Mark Isherwood?
Ann Jones: Mae'n ymddangos ein bod wedi colli David Melding am ei drydydd cwestiwn. David, a allwch chi fy nghlywed?
Ann Jones: Gallaf, mae hynny'n iawn. Mae gennych un cwestiwn arall fel llefarydd.
Ann Jones: Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Ann Jones: Symudwn at gwestiynau'r llefarwyr yn awr, a daw’r cyntaf y prynhawn yma gan lefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Ann Jones: Diolch. A gaf i alw yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?
Ann Jones: Diolch. Y cynnig yw atal y Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf i'n gweld unrhyw wrthwynebiad. Felly, symudwn ymlaen.
Ann Jones: Y cynnig, o dan Reol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, yw y bydd y pedwar cynnig o dan eitemau 8 i 11, y rheoliadau anghenion dysgu ychwanegol, yn cael eu grwpio i'w trafod, ond byddwn wedyn yn pleidleisio ar wahân. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf i'n gweld gwrthwynebiadau.
Ann Jones: Felly, gofynnaf yn awr i'r Gweinidog Addysg gynnig y cynigion. Kirsty Williams.