David Lloyd: Yn ôl yn y dyddiau tywyll hynny pan doedd dim strwythur gwleidyddol cenedlaethol gan Gymru, roedd yn destun balchder inni'r Cymry ein bod ni'n gallu uniaethu a chefnogi ein timau rygbi a'n timau pêl-droed rhyngwladol, a mynd i'r amgueddfa genedlaethol ac i'r llyfrgell genedlaethol— canolbwyntiau cof ein cenedl pan nad oedd Cymru yn cael ei chydnabod fel endid gwleidyddol o gwbl efo'i...
David Lloyd: Diolch am hynny, Weinidog, ac rwy'n adleisio eich sylw am lwyddiannau aruthrol staff awdurdodau lleol yn ystod y pandemig hwn. Ond yn amlwg, mae gennym broblemau nad ydynt yn rhai COVID hefyd, o natur gronig, ac rwy'n siarad nawr fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar olwg, yn amlwg rydym yn cydnabod bod gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae yn parhau i ddarparu gwasanaethau...
David Lloyd: Diolch, Weinidog. Gwrandewais ar yr ateb blaenorol, yn amlwg, ond ychydig iawn os unrhyw beth o gwbl y mae ffiniau cenedlaethol yn ei olygu, byddwn yn dadlau, mewn perthynas â’n pryfed peillio annwyl, fy ngwenyn bach. Felly, a allwch chi ymrwymo i wahardd y defnydd o blaladdwyr neonicotinoid yng Nghymru cyhyd ag y bo modd—am byth, byddwn yn dadlau? A pha mor bryderus ydych chi ynglŷn...
David Lloyd: 8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o benderfyniad Llywodraeth y DU i awdurdodi defnyddio plaladdwyr neonicotinoid? OQ56215
David Lloyd: 2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o lefelau staff awdurdodau lleol sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau allweddol ledled Cymru yn ystod y pandemig COVID-19? OQ56216
David Lloyd: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a dechrau hefyd drwy ganmol perfformiad ardderchog pawb sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu? Mae'n wirioneddol arwrol, epig, ac mae pob ansoddair o'r fath yn gwbl addas. Hefyd, a gaf i ddweud bod y cyfyngiadau symud yn gweithio mewn gwirionedd? Rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio'r pwynt hwnnw. Fe all hynny fod yn sioc i un neu ddau o'r rhai...
David Lloyd: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r ddarpariaeth o wasanaethau adsefydlu yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau COVID-19?
David Lloyd: Roedd angen cynllun cyflawni newydd ar Gymru ar gyfer strôc cyn COVID; wedi'r cyfan, mae triniaeth gynnar yn allweddol i adferiad. Mae COVID wedi rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau strôc a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd wrth iddo ddatgelu cyflwr bregus y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a blingo'n ddidrugaredd ein staff a'n gofalwyr rhyfeddol sydd wedi'u rhaglennu'n reddfol...
David Lloyd: Rydym ni wedi cael ein hysbrydoli gan brofiad y sawl sy'n goroesi strôc, gan eu hanesion dirdynnol a dioddefaint a thor calon, a chwilio am wasanaeth, a'r pwysau enbydus ar ofalwyr, a'r system gofal dan ormes, a'r nyrsys a'r meddygon yn mynd y filltir ychwanegol, a thriniaethau anhygoel fel thrombolysis a thrombectomi, ac wedyn daeth COVID, a'r heriau sylweddol o gael gafael mewn gwasanaeth...
David Lloyd: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar strôc, mae'n bleser gennyf gyflwyno'r cynnig hwn ar y modd y mae COVID-19 wedi effeithio ar y 70,000 o oroeswyr strôc yng Nghymru a'u gofalwyr. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth Aelodau ar draws fy sgrin Senedd ac edrychaf ymlaen at eu cyfraniad, gan na allaf gynnwys pob elfen yn yr amser a roddwyd. Nawr, mae'r grŵp trawsbleidiol...
David Lloyd: Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Yn amlwg, mae'r sefyllfa bresennol yn y DVLA yn anfaddeuol. Mae nifer y staff sydd wedi dal COVID, fel yr amlinellwyd gennych, yn bryder enfawr, sy'n adlewyrchu'r pryderon a fynegwyd gan weithwyr ar y safle mewn perthynas ag arferion gwaith gwael ac arferion diogelu rhag COVID. A gaf fi ddyfynnu o e-bost diweddar a ddaeth i law gan aelod o staff? 'Ar fy...
David Lloyd: Diolch. Yn olaf, codais fater cronfa ffyniant gyffredin y DU gyda chi yn ôl ym mis Rhagfyr a sut y bydd hyn yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i weithredu eu fframwaith eu hunain ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru. Dywedasoch, mewn ymateb i fy nghwestiwn, Weinidog, y dylai 'Llywodraeth y DU ymgysylltu â ni, hyd yn oed ar yr awr hwyr hon, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod yr...
David Lloyd: Diolch ichi am hynny, Weinidog. Gan symud ymlaen, wedi'i gladdu'n ddwfn o fewn y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y DU a'r UE ceir erthygl sy'n nodi y caiff Senedd Ewrop a Senedd y DU, sefydlu Cynulliad Partneriaeth Seneddol sy'n cynnwys Aelodau Seneddol ac Aelodau o Senedd Ewrop. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae trafodaethau eisoes ar y gweill yn Senedd y DU a Senedd Ewrop ynglŷn â sut...
David Lloyd: Diolch yn fawr, Llywydd, a phrynhawn da, Gweinidog.
David Lloyd: Roedd yn dda gweld datganiad ysgrifenedig gennych chi yr wythnos diwethaf, Weinidog, yn hysbysu'r Aelodau eich bod wedi dwyn achos cyfreithiol yn y llysoedd gweinyddol i geisio caniatâd i gynnal adolygiad barnwrol o Ddeddf marchnad fewnol y DU. Nawr, mae Plaid Cymru yn cefnogi'r ymgais hon. Fel rydym wedi'i ddweud droeon o'r blaen, mae'r Ddeddf yn tanseilio democratiaeth Cymru ac yn gyrru...
David Lloyd: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer yr achosion o COVID-19 yn y DVLA yn Abertawe? TQ533
David Lloyd: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac mae'n briodol hefyd ganmol ymdrechion arwrol pawb sy'n ymwneud â chyflawni'r rhaglen frechu enfawr hon? Rwy'n gwybod bod fy nghydweithwyr i sy'n feddygon teulu yn ysu am wneud mwy, a phe gallen nhw gael mwy o frechlynnau, fe fydden nhw'n gosod pobl yn y ciw nawr. Felly, mae yna waith rhyfeddol yn digwydd wrth inni siarad yma. Un cwestiwn, y...
David Lloyd: Mae enwau tai, enwau ffermydd ac enwau llefydd yn gyffredinol yn bwysig iawn i gof cenedl. Yn aml, mae ganddynt gysylltiad uniongyrchol efo hanes a daearyddiaeth y lle neu gysylltiad efo pobl enwog, digwyddiadau o fri, fel brwydrau am ein hannibyniaeth fel cenedl, ac elfennau pwysig yn hanes Cymru, gyda chysylltiadau i draddodiadau hynafol, diwydiant hanesyddol a chwedlau cyfoethog ein tir.
David Lloyd: Gwyddom fod enwau ffermdai a chartrefi hanesyddol yn cael eu colli ledled Cymru. Mae colli'r enwau hyn yn golygu ein bod yn colli rhan o'n treftadaeth leol a chenedlaethol. Roedd yn siomedig fod y Llywodraeth yn 2017 wedi pleidleisio yn erbyn yr egwyddor o ddatblygu deddfwriaeth yn y maes hwn, ac rwy'n dal i gredu bod mwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddiogelu'r enwau hyn—nid yw...
David Lloyd: A gaf fi ddiolch, yn gyntaf oll, i Janet Finch-Saunders fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a hefyd i'r deisebydd a'r 18,000 a mwy o bobl a lofnododd y ddeiseb? Fel y crybwyllwyd, mae hwn yn fater sy'n agos at fy nghalon. Dyna pam y cyflwynais Fil i'r Cynulliad—y Senedd bellach—yn 2017, i geisio diogelu enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru. Fel rhan o'r Bil hwnnw, roeddwn hefyd am edrych...