Paul Davies: Trefnydd, byddwn i'n ddiolchgar os gallem ni gael datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio a chadw diffoddwyr tân wrth gefn yn y gweithlu yng Nghymru. Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod 125 o lefydd gwag yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, sefyllfa y mae Roger Thomas, prif swyddog tân canolbarth a gorllewin Cymru,...
Paul Davies: Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, dydd Sadwrn nesaf yw Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, ac mae'n rhoi pleser mawr i mi agor dadl ar bwysigrwydd busnesau bach i gymunedau Cymru a'r economi. Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach wedi bod wrthi ers deng mlynedd yn y DU bellach, ac mae'n dychwelyd gyda...
Paul Davies: Diolch, Llywydd. Trefnydd, a gaf innau hefyd ddim ond adleisio sylwadau Aelod Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro a galw am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd am y gefnogaeth a gynigir i ddiwydiannau ynni-ddwys i helpu busnesau i leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr mewn ffordd gost effeithiol a symud at arferion gwyrddach? Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod gan ddiwydiant Cymru...
Paul Davies: Yr eitem nesaf—eitem 9—yw dadl Plaid Cymru ar dâl nyrsys, a dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Paul Davies: Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Paul Davies: Dwi'n galw ar John Griffiths i ymateb i'r ddadl.
Paul Davies: Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Paul Davies: Cytunaf â chi, Ddirprwy Weinidog, fod y cyfleoedd a gyflwynir gan wynt arnofiol yn enfawr. Fel y gwyddoch, rwy’n cefnogi’r cais trawsnewidiol ar gyfer y porthladd rhydd Celtaidd, a fyddai, yn fy marn i, yn chwarae rhan enfawr yn y broses o ddatblygu dyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae'n hanfodol fod pob prosiect datblygu morol wedi'i leoli'n strategol i...
Paul Davies: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyfleoedd ddaw yn sgil datblygu ynni gwynt ar y môr arnofiol yng Nghymru? OQ58727
Paul Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma? Rydym wedi clywed safbwyntiau cryf gan Aelodau heddiw ar yr heriau a wynebir gan weithwyr, busnesau a chymunedau ledled Cymru. Fel y mae’r Gweinidog wedi dweud, yn gwbl briodol, mae mwy wedi digwydd ers inni gyhoeddi ein hadroddiad ym mis Gorffennaf nag y gallem fod wedi’i ddychmygu erioed, ond...
Paul Davies: Nawr, mae ein hadroddiad yn cynnwys 27 o argymhellion mewn pum maes. Fe wnaethom ganolbwyntio ar: y cymorth a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Mai a Mehefin eleni, a lle roedd y bylchau; y pwysau ar aelwydydd bryd hynny; y pwysau ar y gweithlu; yr effaith ar gymunedau gwledig; a'r pwysau ar fusnesau. Rwy'n falch fod 23 o'r argymhellion wedi'u derbyn, gyda'r pedwar...
Paul Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw. Ddirprwy Lywydd, yr wythnos diwethaf, fe wnaethom drafod ein hadroddiad ar adfer y sectorau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu yng Nghymru, a sut roedd costau byw a chostau gwneud busnes yn effeithio arnynt. Yr wythnos hon, rydym yn trafod ein hadroddiad ar rai o'r materion mwyaf dybryd y mae ein cymunedau'n eu hwynebu:...
Paul Davies: Diolch i chi am yr ymateb yna, Gweinidog.
Paul Davies: Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod y galw am asesiad awtistiaeth yn parhau i fod yn uchel yng ngorllewin Cymru, gydag amseroedd aros o hyd at dair blynedd. Yn wir, rwy'n deall bod y bwrdd iechyd wedi cyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf i nodi cyllid posibl i helpu gyda mentrau rhestrau aros. Felly, Weinidog, a oes modd ichi ddweud wrthym pa gymorth y mae Llywodraeth...
Paul Davies: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ58688
Paul Davies: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn 'ma? Mae cwpan pêl-droed y cyd yn Qatar yn gyfle i ni arddangos Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, ac mae'n iawn bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddefnyddio'r digwyddiad i ddatblygu cyfleoedd economaidd ac i deithio i'r digwyddiad ei hun. Rydw i hefyd yn falch o glywed bod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon difrifol ynghylch hawliau...
Paul Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma? Mae'r Aelodau oll wedi crybwyll sut mae'r diwydiannau manwerthu, twristiaeth a lletygarwch yn ganolog i'n holl gymunedau, a dyna pam ei bod mor bwysig fod Llywodraeth Cymru'n deall ac yn ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r sectorau hyn. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cael y polisïau cywir ar...
Paul Davies: A chredaf fy mod yn siarad ar ran pawb ar y pwyllgor pan ddywedaf ei bod yn wefreiddiol clywed y cyfranogwyr yn siarad mor angerddol am weithio yn eu cymunedau lleol a lle cawsant eu magu. Yn amlwg, ceir ymdeimlad o falchder ynglŷn â gweithio yn economi ymwelwyr fywiog Cymru, a dyna pam fod angen gweithredu ar unwaith i sicrhau bod gweithio yn y sectorau hyn yn gallu cynnig gyrfaoedd diogel...
Paul Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a chynigiaf y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw. Ddirprwy Lywydd, mae'r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn hollbwysig i'n cenedl. Bydd eu pwysigrwydd i gefnogi a gwella bywydau yng Nghymru yn amlwg i bawb yn y Siambr hon. Boed hynny ar ffurf stryd fawr brysur, tafarn wledig braf, neu fwyty sy’n gwerthu bwyd a gynhyrchwyd yn lleol wedi’i goginio gan...
Paul Davies: Fel rwy'n deall, mae achos o ffliw adar wedi bod yn fy etholaeth, ac mae'n hollbwysig, felly, fod popeth yn cael ei wneud i atal yr afiechyd rhag lledaenu ymhellach ar draws sir Benfro ac yn wir ar draws gweddill Cymru. Wrth gwrs, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru'n cydweithio gyda Llywodraethau eraill ledled y DU ar y mater hwn. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi gwybod inni am y...