Lesley Griffiths: Diolch. Wel, fel y soniais, bydd yr adolygiad o'r rheoliadau bridio cŵn yn cael ei ehangu i weld a oes unrhyw rywogaethau eraill—ac yn sicr byddai cathod yn rhan o hynny—a fyddai'n elwa o gael eu cynnwys yn y rheoliadau, oherwydd rwy'n credu ein bod wedi'i weld gyda chŵn, onid ydym? Fe gyfeirioch chi at y bridiau eithafol, ac yn anffodus, fel y dywedwch, rydym yn ei weld gyda chathod...
Lesley Griffiths: Mae ein cynllun lles anifeiliaid i Gymru yn manylu ar sut y byddwn yn cyflawni ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu. Rydym yn bwriadu cynnal adolygiad o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 a bydd hynny'n cynnwys ystyriaeth i ehangu'r cwmpas i gynnwys cathod.
Lesley Griffiths: Wel, cafodd yr adroddiad y cyfeiriwch ato ei gyflawni flynyddoedd lawer yn ôl, ac rydym yn sicr wedi dysgu gwersi, ac nid oes unrhyw feirniadaeth wedi bod ers hynny, a gallaf eich sicrhau y bydd hynny'n cael ei roi ar waith. Y rheswm pam y dywedais nad wyf am sefydlu bwrdd mwyach yw oherwydd nad ydym yn ceisio disodli'r rhaglen datblygu gwledig yn y ffordd y mae'n gweithredu ar hyn o bryd,...
Lesley Griffiths: Fe fyddwch yn ymwybodol fod meini prawf llym iawn o gwmpas yr arian hwn. Mae'r prosiect Down to Earth yn cael ei ariannu drwy gydweithrediad cynlluniau LEADER a rhaglen datblygu gwledig yr UE, ac yn sicr mae'n gallu gwneud hynny. Rydych yn ymwybodol iawn, rwy'n siŵr, o'r hyn y bydd y prosiect yn gweithio arno—dau gynllun penodol. Mae prosiectau'r rhaglen datblygu gwledig yn ddarostyngedig...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae disgwyl i brosiect Down to Earth, sy'n cael ei ariannu drwy'r rhaglen datblygu gwledig, gyflwyno'r cais terfynol ym mis Mehefin 2023. Mae gofyn i'r prosiect benodi asesydd annibynnol i adrodd ar yr effaith a'r canlyniadau a gyflawnwyd, a fydd yn cael eu hasesu cyn i'r hawliad terfynol gael ei dalu a chyn i'r prosiect ddod i ben.
Lesley Griffiths: Mae'n hanfodol fod y ddarpariaeth arfaethedig yn cyd-fynd â'r hyn y byddem ei eisiau ar gyfer ein hetholwyr ar draws gogledd Cymru. Fy nealltwriaeth i o'r gwaith a gyflawnodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yw mai dyma'r ffordd orau o gynnig darpariaeth. Rwy'n cytuno â'r hyn rydych yn ei ddweud am yr iaith; mae'n bwysig iawn fod hynny'n rhan o'r ystyriaeth. Ond rwy'n credu bod...
Lesley Griffiths: Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yna fynediad i'r babanod hyn at y gofal gorau sydd ar gael, a fy nealltwriaeth i yw bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi cynnal asesiad o'r galw yn y gogledd ac wedi dod i'r casgliad fod angen ariannu dau wely mewn uned mamau a babanod, ac o fewn eu cynlluniau, daethant i'r casgliad mai'r dull mwyaf priodol o ddarparu hyn oedd drwy...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, fel rwy'n dweud, ni allaf achub y blaen ar unrhyw ymgynghoriad, ond yn sicr, o'r trafodaethau a gefais—. Soniais yn fy ateb i Natasha Asghar fy mod wedi cyfarfod â chynrychiolwyr nifer o sefydliadau lles ar ystod o faterion. Yn amlwg, mae cartrefu cŵn yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo. Yn amlwg, nid yw 9-12 mis yn llawer iawn o amser. Rwy'n ddiolchgar iawn am...
Lesley Griffiths: Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn ag uned mamau a babanod i bobl Arfon. Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r cynlluniau i wella mynediad at ddarpariaeth arbenigol uned mamau a babanod i'r bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru.
Lesley Griffiths: Na, rwy'n gwrando'n astud.
Lesley Griffiths: Wel, fel rwy'n dweud, nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad y byddaf yn ei lansio yn ddiweddarach eleni. Rwyf wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Fwrdd Milgwn Prydain. Rwyf wedi cyfarfod â sefydliadau lles eraill, ac rwyf wedi cyfarfod â pherchennog stadiwm Valley i drafod materion lles a chynlluniau ar gyfer safle Valley. Fel y dywedwch, nid yw'r safle ar hyn o bryd yn cyrraedd safonau...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn ystod y sesiwn graffu yn y pwyllgor, rwy'n hapus iawn i siarad â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac rwy'n siŵr y byddai hi'n hapus iawn i siarad â chi hefyd, pe bai unrhyw newidiadau i ddefnydd tir yn y dyfodol yn debygol o waethygu risg llifogydd i unrhyw gartrefi neu fusnesau sy'n bodoli eisoes yn eich etholaeth. Rwy'n credu y gallai fod...
Lesley Griffiths: Diolch. Fel y nodwyd yn fanwl yn y ddadl ar 8 Mawrth, byddaf yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar rasio milgwn yn ddiweddarach eleni. Bydd yr ymgynghoriad yn casglu tystiolaeth ar fanteision ac effeithiau deddfu a gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.
Lesley Griffiths: Yn sicr, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda DEFRA. Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw un wedi gweld cacynen Asia yng Nghymru, ac nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw un wedi gweld un yn Lloegr ers cryn dipyn o amser mewn gwirionedd—yn sicr, nid eleni. Ond pan fo rhywun yn gweld un, yn amlwg mae ein swyddogion yn gweithio'n agos iawn ac maent yn mynd i'r afael â'r mater yn gyflym iawn hefyd, ac nid...
Lesley Griffiths: Rydym yn cydnabod y gostyngiad pryderus mewn peillwyr. Nod ein cynllun gweithredu ar gyfer pryfed peillio, y cyntaf o'i fath yn y byd, yw darparu cynefinoedd amrywiol, cysylltiedig gyda llawer o flodau er mwyn sicrhau poblogaethau iach o beillwyr. Yng Ngwent, mae Natur Wyllt yn newid y ffordd y caiff ymylon ffyrdd a pharciau eu cynnal a'u cadw er mwyn sicrhau eu bod o fudd i beillwyr.
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, fel y dywedais wrth Vikki Howells, mae ein deddfwriaeth yn mynd gam ymhellach na'r ddeddfwriaeth yn Lloegr. Er hynny, rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, oherwydd rydym yn gwybod, yn anffodus, fod pobl yn dal i brynu eu hanifeiliaid anwes ar-lein, ac mae ein deddfwriaeth yn golygu na ddylai rhywun brynu anifail anwes yn unman heblaw lle cafodd yr anifail anwes hwnnw...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n ymwybodol, yn amlwg, fod cyfraith Lucy yn cyrraedd pen-blwydd pwysig fis nesaf, ac roedd Lucy, y tarfgi yr enwyd y ddeddfwriaeth ar ei hôl, yn dod o fferm yma yng Nghymru. Ond nid yw'r ddeddfwriaeth honno ond yn berthnasol i Loegr. Fel y gwyddoch, mae ein deddfwriaeth ni, sef Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021, yn...
Lesley Griffiths: Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer lles anifeiliaid wedi'u nodi yng nghynllun lles anifeiliaid Cymru. Mae'r cynllun yn cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni camau allweddol pedwar ymrwymiad lles anifeiliaid ein rhaglen lywodraethu, ochr yn ochr â'n gwaith arfaethedig arall.
Lesley Griffiths: Diolch. Rydych yn llygad eich lle, mae rhan o'r Bil amaethyddol—ac yn amlwg, mae gennym Gyfnod 2 yfory—yn cynnwys pwerau newydd i ganiatáu i amodau amgylcheddol gael eu hychwanegu at drwyddedau torri coed, ac i ddiwygio, atal neu ddirymu unrhyw drwyddedau sydd eisoes wedi'u caniatáu. Mae'n rhaid imi edrych yn ofalus iawn ar yr elfen goedwigaeth, fel sy'n aml yn digwydd pan fyddwch yn...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n sicr wedi ymrwymo i wneud popeth a allaf. Rwy'n credu fy mod yn cyfarfod yn flynyddol, mae'n debyg, gyda phrif weithredwr cyngor Gwlân Prydain, a byddaf yn cyfarfod â hwy eto yn ystod yr wythnosau nesaf, rwy'n credu. Ac yn sicr, mae'n dda iawn clywed eu syniadau ar gyfer defnyddio gwlân. Felly, er enghraifft, un o'r syniadau...