Canlyniadau 21–40 o 3000 ar gyfer speaker:Rebecca Evans

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Staff Llywodraeth Leol (22 Maw 2023)

Rebecca Evans: Diolch yn fawr iawn am godi’r mater pwysig hwn y prynhawn yma. Rwy'n sicr yn ymuno â chi i gydnabod y rôl hanfodol y mae ein staff llywodraeth leol yn ei chwarae yn gwasanaethu eu cymunedau. Mae'n ddrwg iawn gennyf nad wyf yn gallu cyfarfod â graddedigion Pen-y-bont ar Ogwr yn bersonol y prynhawn yma, ond mae'n wych eu gweld yn y Senedd. Credaf fod rhai pethau gwirioneddol bwysig y mae...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Staff Llywodraeth Leol (22 Maw 2023)

Rebecca Evans: Mae awdurdodau lleol yn darparu eu gwasanaethau hanfodol drwy eu staff dawnus. Er bod pob awdurdod lleol yn gyfrifol am eu recriwtio eu hunain, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth drwy raglenni arweinyddiaeth Academi Wales gan gynnwys rhaglen graddedigion gwasanaeth cyhoeddus Cymru, cyfrifon dysgu personol a’n rhaglen brentisiaethau ehangach.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Maw 2023)

Rebecca Evans: Rwy’n awyddus iawn i bwysleisio'r un ddadl i Lafur y DU ag y buom yn ei gwneud i Drysorlys EF o ran yr hyblygrwydd ariannol sydd ei angen ar Gymru. Nid yw ein pwerau benthyca yn addas i'r diben, mewn gwirionedd, yn yr ystyr fod gennym allu blynyddol mor gyfyngedig i fenthyca. Credaf fod angen mynd i’r afael â hynny, yn amlwg. Mae gwir angen mynd i’r afael â’r materion diwedd...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Maw 2023)

Rebecca Evans: Byddwn yn dweud bod fformiwla Barnett a’r fframwaith cyllidol y cytunwyd arno gan y Prif Weinidog pan oedd yn y rôl hon gyda Llywodraeth y DU yn darparu rhai manteision i Gymru o ran y ffaith bod fformiwla Barnett yn cydnabod angen cymharol. Credaf fod hynny'n bwysig, ac mae'n sicr yn rhywbeth na fyddem am ymbellhau oddi wrtho. Lle ceir heriau—fel y nodwyd gan y Prif Weinidog yng...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Maw 2023)

Rebecca Evans: Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector twristiaeth, ac rydym yn gwrando'n ofalus iawn ar y sylwadau a wnânt ar ran eu haelodau. Credaf y bydd Sam Rowlands yn cydnabod ein bod yn ceisio sicrhau cydbwysedd yma rhwng cefnogi’r diwydiant twristiaeth a chaniatáu iddo ffynnu a'i gefnogi i ffynnu, ond gan gydnabod hefyd ar yr un pryd fod yna fater pwysig yn codi o ran eiddo...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Maw 2023)

Rebecca Evans: Rydym wedi edrych ar yr achos a wnaed gennych chi a chan eraill o ran lle mae eiddo’n cael ei redeg gan elusen, a chredaf y bydd yr amgylchiadau’n dibynnu ar y sefyllfa benodol mewn perthynas â’r eiddo hwnnw. Bydd yr eithriad presennol neu'r eithriad newydd eisoes yn gymwys i rai, ac mewn achosion lle nad yw hynny'n wir, mae gan awdurdodau bwerau disgresiwn y gallant eu defnyddio. Gall...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Maw 2023)

Rebecca Evans: Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio nodi safbwynt lle rydym yn cydnabod y pwysau ar fusnesau, ond hefyd yn credu y dylai perchnogion eiddo fod yn gwneud cyfraniad rhesymol i’r cymunedau y mae’r eiddo hynny wedi’u lleoli ynddynt. Rydym wedi cydnabod bod peth eiddo hunanddarpar wedi'i gyfyngu gan amodau cynllunio, sy’n ei atal rhag cael ei feddiannu'n barhaol fel prif breswylfa, ac yn y...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amlosgfeydd (22 Maw 2023)

Rebecca Evans: Diolch i Russell George am godi’r mater hwn y prynhawn yma. Rwy'n ymwybodol o’r cais penodol y cyfeiria ato, a alwyd i mewn, ac a gafodd ei wrthod wedi hynny. Mae'r rhesymau am hynny wedi'u nodi yn y llythyr penderfyniad, a chan fod hawl gan yr ymgeisydd i herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys, ni ddywedaf fwy am y cais hwnnw heddiw. Ond rwy’n deall y cais mwy cyffredinol am wybodaeth,...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amlosgfeydd (22 Maw 2023)

Rebecca Evans: Mae awdurdodau lleol yn awdurdodau claddedigaethau ac yn gyfrifol am eu mynwentydd a'u hamlosgfeydd eu hunain. Mater i awdurdodau cynllunio lleol yw nodi safleoedd addas ar gyfer amlosgfeydd newydd. Byddai cynigion ar gyfer amlosgfeydd newydd yn destun cyfraith cynllunio a chyfraith amgylcheddol.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Merched yn Gynghorwyr Sir (22 Maw 2023)

Rebecca Evans: Hoffwn ddechrau, mewn gwirionedd, drwy ymuno â Mark Isherwood i gydnabod pwysigrwydd cynlluniau mentora. Rwyf wedi bod yn fentor fy hun yn un o’r cynlluniau, a chanfûm fod hynny yr un mor werthfawr i mi ag i’r unigolyn y bûm yn eu mentora, felly byddwn yn sicr yn annog pob un o'm cyd-Aelodau i edrych ar gyfleoedd i gefnogi’r mathau hynny o gynlluniau. Un o'r pethau y buom yn eu...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Merched yn Gynghorwyr Sir (22 Maw 2023)

Rebecca Evans: Mae ystod o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i geisio sicrhau bod gennym grŵp mwy amrywiol o bobl yn sefyll etholiadau, i gynghorau tref a chymuned, a chynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yn y dyfodol. Ac mae’r gwaith hwnnw'n cynnwys adolygu’r gronfa mynediad i swyddi etholedig, a fu’n llwyddiannus iawn yn cefnogi nifer o ymgeiswyr i ddod yn gynghorwyr tref a chymuned yn yr...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Merched yn Gynghorwyr Sir (22 Maw 2023)

Rebecca Evans: Croesawaf y camau sy’n cael eu cymryd ledled Cymru i annog unigolion i ymgeisio am swyddi etholedig. Mae amrywiaeth yn sicrhau penderfyniadau gwell a mwy cynhwysol. Cyn etholiadau lleol 2027, mae'r gwaith i annog amrywiaeth yn cynnwys ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i ymestyn y gronfa mynediad i swyddi etholedig.

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (22 Maw 2023)

Rebecca Evans: The use of statistics and evidence is an integral part of the policy-making process. Welsh Government statisticians routinely collaborate with policy makers to identify statistical needs, and inform policy through the regular collection, analysis and publication of a wide range of statistics about Wales.

7. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 (21 Maw 2023)

Rebecca Evans: Diolch yn fawr iawn i Llyr Gruffydd am y cwestiynau yna y prynhawn yma. Rydym ni wedi ystyried ac ymgynghori ar y diwygiad apelau dros sawl blwyddyn. O ran mynediad at gysylltedd digidol, ni chodwyd hynny fel rhwystr penodol i'n cynigion newydd o ran mynediad at blatfform digidol Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Gan gofio mai dyma'r system ar gyfer ardrethi annomestig, bydd gan y rhan fwyaf o...

7. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 (21 Maw 2023)

Rebecca Evans: Diolch. Rwy'n cyflwyno'r cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023. Mae'r rheoliadau yn darparu ar gyfer ymestyn platfform digidol a phroses gwirio, herio, apelio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, i Gymru. Maen nhw hefyd yn galluogi'r newidiadau i wneud y trefniadau ar gyfer apelau i'r tribiwnlys prisio ar gyfer Cymru yn fwy effeithiol ac...

9. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2022-23 (14 Maw 2023)

Rebecca Evans: Diolch. Rwy'n ddiolchgar i gyd-Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl heddiw. Wrth gwrs, mae'r ail gyllideb atodol yn rhan bwysig o'n proses gyllidebol. Bydd ei chymeradwyo yn awdurdodi cynlluniau gwariant diwygiedig Llywodraeth Cymru a'r cyrff hynny a ariennir yn uniongyrchol o gronfa gyfunol Cymru, ac, wrth gwrs, mae'n gosod y terfynau y cymharir ein safle alldro terfynol yn eu herbyn. Rwy'n...

9. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2022-23 (14 Maw 2023)

Rebecca Evans: Diolch. Mae'r gyllideb atodol hon yn cyflwyno cynlluniau gwariant terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Mae'n cynyddu adnoddau refeniw a chyfalaf cyllid cyffredinol Cymru o £163 miliwn, cynnydd o 0.7 y cant ar y sefyllfa a amlinellwyd yn y gyllideb atodol gyntaf, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022. Ar y cyfan, mae'r cynnydd bach hwn oherwydd trosglwyddiadau o...

5. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2023-24 ( 7 Maw 2023)

Rebecca Evans: Fe wnaeth Mike Hedges godi hyn gyda mi wrth graffu ar y pwyllgor yr wythnos diwethaf, pan oeddem yn craffu ar yr ail gyllideb atodol. Rwyf wedi ymrwymo i fynd i ffwrdd a chanfod pa wybodaeth ychwanegol y gallwn ei darparu ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â'r hyn sy'n dipyn o gamp arbenigol, rwy'n credu, sef edrych ar seiliau setliadau llywodraeth leol. Ond yn sicr fe af i gael golwg ar ba...

5. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2023-24 ( 7 Maw 2023)

Rebecca Evans: Diolch yn fawr. Diolch i gyd-Aelodau am eu sylwadau yn y ddadl hon. Fe wnaf ymateb i rai o'r materion penodol gafodd eu codi. Wrth gwrs, codwyd y diddordeb mewn cronfeydd wrth gefn y prynhawn yma, ac wrth gwrs, mae lefel cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yn fater i'r aelodau etholedig lleol hynny. Byddant wrth gwrs yn adlewyrchu'r cynlluniau tymor hwy hynny yn ogystal â'u hymdrechion i...

5. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2023-24 ( 7 Maw 2023)

Rebecca Evans: Diolch. Heddiw rwy'n cyflwyno i'r Senedd ar gyfer ei gymeradwyo, setliad llywodraeth leol 2023-24 ar gyfer y 22 awdurdod unedol yng Nghymru. Yn gyntaf, hoffwn i gofnodi fy niolch i lywodraeth leol, yn aelodau etholedig a staff ar draws gwasanaethau llywodraeth leol, am y gwaith hanfodol maen nhw'n ei wneud i gymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru. Mae hi wedi bod yn nifer o flynyddoedd...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.